S4C

Navigation

Mae’r ras am y Chwech Uchaf ar fin cyrraedd ei uchafbwynt ac mae’n parhau’n eithriadol o dynn yng nghanol y tabl.

Dim ond y ddau uchaf, Pen-y-bont ac Y Seintiau Newydd sy’n saff o’u lle yn y Chwech Uchaf, tra bo’r clybiau rhwng y 3ydd a’r 8fed safle yn dal i frwydro am y pedwar lle olaf.

31 o bwyntiau yw’r swm arferol sydd ei angen i hawlio lle’n y Chwech Uchaf ac mae pedwar clwb eisoes wedi pasio’r targed hwnnw (Pen-y-bont, YSN, Hwlffordd a Met Caerdydd).

Ond wedi dweud hynny, mae’n debygol y bydd angen mwy na 31 o bwyntiau i gyrraedd y nod y tymor hwn gan ei bod hi’n ras mor agos eleni.

34 pwynt yw’r nifer uchaf sydd wedi bod ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf (Y Bala yn 2018/19) a 27 pwynt oedd y nifer lleiaf (Port Talbot yn 2010/11), ond ar gyfartaledd, 31 pwynt ydi’r swm cyffredinol.

Dydd Mawrth, 31 Rhagfyr

 

Llansawel (10fed) v Y Barri (7fed) | Dydd Mawrth – 12:30

Mae Llansawel wedi codi allan o safleoedd y cwymp wedi buddugoliaeth wych oddi cartref yn erbyn Met Caerdydd ar ddydd San Steffan.

Yn fathematgeol mae Llansawel allan o’r ras am yr hanner uchaf, ond brwydr i osgoi’r cwymp sydd o’u blaenau nhw, a gyda gêm wrth gefn mae pethau’n edrych yn addawol i’r Cochion.

Mae’r Barri yn anelu i hawlio lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2020/21, ond ar ôl dioddef tair colled yn olynol mi fydd Steve Jenkins yn teimlo y bydd rhaid curo Llansawel os am obaith gwirioneddol o gyrraedd y Chwech Uchaf.

Y Barri oedd yn fuddugol o 3-1 yn y gêm gyfatebol ym mis Hydref gyda Kennan Patten, Eliot Richards ac Ollie Hulbert yn rhwydo i’r Dreigiau y diwrnod hwnnw.

Record cynghrair diweddar:

Llansawel: ✅❌✅❌✅

Y Barri: ✅✅❌❌❌

Gemau cyn yr hollt:

Llansawel: Hwl (oc), Aber (oc)
Y Barri: Hwl (c)

 

 

Y Bala (5ed) v Caernarfon (6ed) | Dydd Mawrth – 12:30

Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf ym mhob un o’r 10 tymor diwethaf, ac mae criw Colin Caton mewn safle addawol i wneud hynny eto eleni yn dilyn rhediad o naw gêm gynghrair heb golli (cyfartal 7, ennill 2).

Gormod o gemau cyfartal yw prif broblem Y Bala eleni gan bod 11 o’u 20 gêm gynghrair wedi gorffen yn gyfartal, yn cynnwys gemau oddi cartref yn Llansawel, Y Fflint, Y Drenewydd ac Aberystwyth, ble byddai’r Bala wedi disgwyl gadael gyda’r triphwynt.

Mae Caernarfon wedi cyrraedd yr hanner uchaf ym mhump o’u chwe tymor ers esgyn i’r uwch gynghrair, ond ar ôl colli eu dwy gêm ddiwetahf mae tîm Richard Davies ym mhell o fod yn ddiogel o’u lle ymysg yr elît eleni.

Gorffennodd hi’n ddi-sgôr yn y gêm gyfatebol rhwng y clybiau yma ar yr Oval ym mis Awst, sef y bumed gêm gyfartal yn olynol rhwng y ddau dîm.

Dyw’r Bala heb golli yn eu 12 gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon (ennill 6, cyfartal 6), ers y golled o 3-0 ar yr Oval ym mis Mai 2021 ble sgoriodd yr amddiffynnwr Max Cleworth ddwy gôl i’r Cofis yn ystod ei gyfnod ar fenthyg o Wrecsam.

Record cynghrair diweddar:

Y Bala: ➖➖✅✅➖

Caernarfon: ✅➖✅❌❌

Gemau cyn yr hollt:

Y Bala: Cei (oc)
Caernarfon: Fflint (c)

 

Y Seintiau Newydd (2il) v Cei Connah (8fed) | Dydd Mawrth – 14:30

Mae’r Seintiau ystyfnig yn dal i gadw’r pwysau ar Pen-y-bont ar frig y tabl gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r ddau glwb wedi i’r pencampwyr ennill eu dwy gêm ddiwethaf o 5-2 yn erbyn Llansawel a Chaernarfon.

Ond Cei Connah yw’r ceffylau duon yn y ras am y Chwech Uchaf ar ôl i’r Nomadiaid stwffio eu cymdogion Y Fflint ar ddydd San Steffan (Cei 7-2 Ffl).

Er bod y Nomadiaid yn 8fed, mae gan fechgyn Billy Paynter gêm wrth gefn, a byddai curo honno yn eu codi i’r 5ed safle.

Sgoriodd Ben Clark a Declan McManus ddwy gôl yn y munudau olaf i’r Seintiau gan gipio’r fuddugoliaeth o 2-1 oddi cartref yn erbyn Cei Connah yn gynharach y tymor hwn.

Enillodd Cei Connah o 4-1 yn Neuadd y Parc ym mis Ebrill 2021 gyda Michael Wilde yn taro hatric cofiadwy yn erbyn ei gyn-glwb, ond mae’r Seintiau wedi ennill pob un o’u chwe gêm gartref yn erbyn y Nomadiaid ers hynny.

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ❌✅❌✅✅

Cei Connah: ͏✅❌✅➖✅

Gemau cyn yr hollt:

Y Seintiau Newydd: Dre (c), Met (oc)

Cei Connah: Pen (oc), Bala (c)

 

 

Pen-y-bont (1af) v Met Caerdydd (4ydd) | Dydd Mawrth – 17:45 (S4C)

Pen-y-bont sy’n parhau i osod y safon eleni ar ôl ennill pedair o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf yn cynnwys buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Y Barri ar ddydd San Steffan.

Mae Met Caerdydd ar y llaw arall wedi baglu’n ddiweddar gan golli dwy o’u tair gêm ddiwethaf (vs Barri a Llansawel) sy’n golygu bod eu safle’n y Chwech Uchaf mewn perygl yn enwedig gan bod eu dwy gêm olaf cyn yr hollt yn erbyn y ddau glwb ucha’n y tabl.

31 o bwyntiau sydd gan Met Caerdydd ar hyn o bryd, ac mae hynny fel arfer yn ddigon i gyrraedd yr hanner uchaf, ond mae’n bosib iawn y bydd angen mwy eleni gyda clybiau fel Y Bala, Caernarfon a’r Barri yn dynn ar eu sodlau.

Mae’r timau yma eisoes wedi cyfarfod ddwywaith y tymor hwn a Met Caerdydd sydd wedi cael y gorau o bethau, yn cipio pwynt gartref yn y gynghrair cyn curo Pen-y-bont yn Stadiwm Gwydr SDM dridiau yn ddiweddarach yn ail rownd Cwpan Cymru JD.

Record cynghrair diweddar:

Pen-y-bont: ͏✅✅❌✅✅

Met Caerdydd: ͏ ➖✅❌✅❌

Gemau cyn yr hollt:

Pen-y-bont: Cei (c), Dre (oc)

Met Caerdydd: YSN (c)

 

Dydd Mercher, 1 Ionawr

 

Hwlffordd (3ydd) v Aberystwyth (12fed) | Dydd Mercher – 14:30

Bydd Hwlffordd yn dychwelyd i Ddôl y Bont ar Ddydd Calan ar gyfer eu gêm gyntaf ar eu cae newydd 4G, ac fe allai fod yn achlysur i’w chofio gan y byddai triphwynt i’r Adar Gleision yn cadarnhau lle tîm Tony Pennock yn yr hanner uchaf ar gyfer ail ran y tymor.

Mae Hwlffordd mewn safle cryf i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers i’r gynghrair gael ei chwtogi i 12 tîm gan nad yw’r Adar Gleision wedi gorffen yn uwch na’r 7fed safle ers tymor 2004/05 pan lwyddon nhw i gyrraedd y 4ydd safle.

Mae Aberystwyth wedi colli 10 o’u 11 gêm gynghrair oddi cartref y tymor hwn gan fethu a sgorio mewn saith o’u wyth gêm ddiwethaf oddi cartref.

Dyw Aberystwyth m’ond wedi ennill un o’u wyth gornest ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd (colli 5, cyfartal 2), gan golli o 3-0 gartref yn y gêm gyfatebol yn gynharach y tymor hwn.

Record cynghrair diweddar:

Hwlffordd: ✅❌➖❌✅

Aberystwyth: ͏✅❌❌✅➖

Gemau cyn yr hollt:

Hwlffordd: Llan (c), Barri (oc)

Aberystwyth: Llan (c)

 

Y Fflint (11eg) v Y Drenewydd (9fed) | Dydd Mercher – 14:30

Roedd hi’n brynhawn o embaras i’r Fflint yn eu gêm ddarbi ar ddydd San Steffan, yn ildio saith yn erbyn Cei Connah a bydd Lee Fowler am wneud pethau’n iawn ar ddydd Calan.

Byddai buddugoliaeth i’r Sidanwyr yn eu codi uwchben Y Drenewydd ac allan o safleoedd y cwymp unwaith yn rhagor.

Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhump o’r chwe tymor diwethaf, ond ar ôl rhediad o wyth gêm heb ennill ym mhob cytadleuaeth mae’r Robiniaid mewn perygl o lithro lawr i’r gwaelodion

Mae Callum McKenzie yn dal i aros am ei bwynt cyntaf ar ôl pedair colled yn olynol ers cael ei benodi fel rheolwr newydd Y Drenewydd.

Enillodd Y Fflint o 4-2 oddi cartref yn erbyn Y Drenewydd ym mis Hydref, sef yr unig dro i’r Fflint sgorio pedair yn y gynghrair y tymor hwn.

Record cynghrair diweddar:

Y Fflint: ͏❌✅✅❌❌

Y Drenewydd: ͏➖❌❌❌❌

Gemau cyn yr hollt:

Y Fflint: Cfon (oc)

Y Drenewydd: YSN (oc), Pen (c)

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?