Ar ddydd Llun y Pasg fe all Y Bala sicrhau eu lle yn Ewrop os y cawn nhw ganlyniad gwell na’r Drenewydd, a ger gwaelod y tabl mae’r Barri mewn perygl o golli eu lle yn yr uwch gynghrair.
Mae’r Seintiau Newydd eisoes yn saff o’u lle’n Ewrop ar ôl cael eu coroni’n bencampwyr, ond mae dau docyn arall i’w ennill, ar gyfer y clwb sy’n gorffen yn ail yn y tabl, a’r clwb sy’n ennill Cwpan Cymru (neu’r clwb sy’n gorffen yn 3ydd os bydd enillwyr Cwpan Cymru eisoes wedi sicrhau lle’n Ewrop).
CHWECH UCHAF
Caernarfon v Y Bala | Dydd Llun – 14:30
Ar ôl curo’r Drenewydd ddydd Gwener diolch i gôl acrobataidd Chris Venables mae’r Bala driphwynt yn glir yn yr ail safle gyda dim ond dwy gêm ar ôl i’w chwarae.
Os all criw Colin Caton gael canlyniad gwell na’r Drenewydd yna bydd Y Bala yn sicrhau eu lle yn Ewrop am yr wythfed tro ers 2013.
Mae’r Bala wedi bod ar rediad rhagorol ers mis Rhagfyr gan golli dim ond un o’u 15 gêm gynghrair ddiwethaf.
Bydd dim antur Ewropeaidd i’r Cofis yr haf yma gan ei bod hi bellach yn amhosib i dîm Huw Griffiths orffen yn y tri uchaf, ond byddai gorffen yn 4ydd yn safle digon parchus i Gaernarfon.
Mae’r timau wedi cyfarfod dair gwaith y tymor gyda’r Bala yn ennill eu dwy gêm gartref a’r pwyntiau’n cael eu rhannu mewn gornest gyffrous ar yr Oval ym mis Chwefror (Cfon 3-3 Bala).
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ❌❌✅❌✅
Y Bala: ✅✅➖✅✅
Pen-y-bont v Y Fflint | Dydd Llun – 14:30
Does dim ffordd i Ben-y-bont na’r Fflint orffen yn uwch na’r 4ydd safle, ond bydd gan Pen-y-bont gyfle i gyrraedd Ewrop drwy lwybr Cwpan Cymru.
Bydd rhaid i hogiau Rhys Griffiths guro Y Seintiau Newydd am y tro cyntaf erioed yn rownd derfynol Cwpan Cymru fis nesaf i gael gwireddu’r freuddwyd o chwarae’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Ond mae Pen-y-bont wedi colli pum gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair, a bydd angen gwell canlyniadau yn y ddwy gêm nesaf i adeiladau momentwm cyn y rownd derfynol holl-bwysig honno.
Mae’r Fflint wedi colli saith o’u wyth gêm gynghrair ers yr hollt, ac roedd y golled o 7-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd ddydd Gwener yn ergyd fawr i fechgyn Neil Gibson oedd wedi cystadlu tua’r copa am gyfnod hir o’r tymor.
Mae’r timau wedi cyfarfod dair gwaith y tymor yma gyda’r Fflint yn ennill y ddwy gêm gartref a chael pwynt da oddi cartref yn Stadiwm Gwydr SDM ym mis Chwefror (Pen 1-1 Ffl).
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ❌❌❌❌❌
Y Fflint: ✅❌❌❌❌
Y Drenewydd v Y Seintiau Newydd | Dydd Llun – 14:30
Roedd ‘na siom i’r Drenewydd ddydd Gwener wrth i’r Robiniaid golli gafael ar yr ail safle, ac mi fydd hi’n dasg anodd i ddringo ‘nôl uwchben Y Bala cyn diwedd y tymor.
Ond gall Chris Hughes gymeryd cysur o’r ffaith bod y tîm sy’n gorffen yn 3ydd wedi sicrhau pêl-droed Ewropeaidd ym mhob tymor ers 2015, ac os bydd Y Seintiau Newydd yn curo Pen-y-bont yn rownd derfynol Cwpan Cymru ymhen pythefnos, yna bydd y tîm sy’n 3ydd yn camu i Ewrop unwaith eto eleni.
Y Drenewydd yw’r unig dîm o’r Chwech Uchaf i guro’r Seintiau Newydd y tymor hwn, a’r unig dîm i ennill yn Neuadd y Parc yn y 12 mis diwethaf.
Ond bydd yr hyder yn uchel yng Nghroesoswallt ar ôl i dîm Anthony Limbrick chwalu’r Fflint ddydd Gwener (7-0), sef buddugoliaeth fwyaf Y Seintiau Newydd ers ennill 10-0 yn erbyn Y Fflint ym mis Hydref 2020.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ✅✅✅✅❌
Y Seintiau Newydd: ❌✅➖✅✅
CHWECH ISAF
Cei Connah v Hwlffordd | Dydd Llun – 14:30
Os gall Cei Connah gael canlyniad gwell na’r Barri ddydd Llun, yna bydd Dreigiau Parc Jenner yn sicr o orffen yn y ddau safle isaf.
Hwlffordd yw’r unig dîm o’r Chwech Isaf sydd yn ddiogel o’r cwymp, ac hynny ar ôl i Jordan Davies, sydd ar fenthyg o Gei Connah, sgorio dwy gôl i’r Adar Gleision yn eu buddugoliaeth yn erbyn Y Barri ddydd Gwener (Hwl 2-0 Barri).
Torrodd y newyddion yr wythnos diwethaf ei bod hi’n bosib na fydd clwb yn esgyn o gynghrair Cymru South JD y tymor hwn gan nad yw Llanilltud Fawr (1af) na Phontypridd (2il) wedi sicrhau’r trwydded gywir i chwarae’n yr uwch gynghrair.
Mae’r ddau glwb yn debygol o apelio’r penderfyniad ac felly er yr ansicrwydd mae yna ddigon yn y fantol i glybiau’r Chwech Isaf sy’n brwydro i osgoi gorffen yn y ddau safle isaf.
Mae’r Nomadiaid ar rediad o 10 gêm gynghrair heb golli (ennill 7, cyfartal 3), a byddai pedwar pwynt o’u dwy gêm olaf yn ddigon i sicrhau eu lle yn y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf.
Mae Hwlffordd wedi cael dwy gêm gyfartal yn erbyn Cei Connah y tymor hwn, ond colli oedd hanes yr Adar Gleision ar eu hymweliad diwethaf â Stadiwm Glannau Dyfrdwy (Cei 1-0 Hwl).
Dyw Hwlffordd heb guro Cei Connah ers Chwefror 2010, ac mae angen mynd ‘nôl i Awst 2003 ar gyfer eu buddugoliaeth ddiwethaf oddi cartref yn erbyn y Nomadiaid
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ➖✅✅➖✅
Hwlffordd: ➖❌❌✅✅
Met Caerdydd v Derwyddon Cefn | Dydd Llun – 14:30
Byddai buddugoliaeth i Met Caerdydd yn selio eu lle yn y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf.
Mae’r Derwyddon yn sicr o syrthio gan bod Airbus UK, pencampwyr y gogledd wedi sicrhau’r drwydded i ddychwelyd i’r Cymru Premier JD.
Gyda dim ond chwe phwynt y tymor yma mae’r Derwyddon mewn perygl o dorri record eu hunain fel y tîm gwaethaf yn holl hanes Uwch Gynghrair Cymru.
Ond daeth unig fuddugoliaeth Derwyddon Cefn y tymor hwn yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd (Cefn 2-0 Met).
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ❌✅❌➖❌
Derwyddon Cefn: ✅❌❌❌❌
Y Barri v Aberystwyth | Dydd Llun – 17:15
Hon fydd gêm bwysica’r tymor i’r ddau glwb gan y byddai pwynt i Aberystwyth yn cadarnhau eu lle yn y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf, a byddai colled i’r Barri yn selio eu tynged yn y ddau isaf.
Fe ddychwelodd Y Barri i’r uwch gynghrair yn 2017, ac mae tîm Gavin Chesterfield wedi cynrychioli Cymru yn Ewrop ddwywaith ers hynny.
Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd) a bydd Antonio Corbisiero yn ysu i gadw’r record hwnnw yn ei le.
Mae’r timau wedi cyfarfod dair gwaith y tymor hwn gydag Aberystwyth yn ennill eu dwy gêm gartref a’r pwyntiau’n cael eu rhannu ar Barc Jenner ym mis Tachwedd (Barr 1-1 Aber).
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌✅✅➖❌
Aberystwyth: ✅❌✅➖✅