S4C

Navigation

Yn dilyn buddugoliaeth Twrci yn erbyn Croatia nos Iau, mae gan dîm pêl-droed Cymru o dan arweinyddiaeth Rob Page fynydd i’w ddringo os ydynt am gyrraedd pencampwriaeth Euro 2024 yn yr Almaen. 

Gyda gêm nesaf Cymru ar y gweill ddydd Sul, bydd angen i’r tîm sicrhau nid yn unig buddugoliaeth yn erbyn Croatia yn Stadiwm Dinas Caerdydd – ond hefyd yn erbyn Twrci ac Armenia fis nesaf, os ydynt am gadw’r freuddwyd yn fyw.

Gyda Thwrci dim ond angen un pwynt yn unig yn erbyn Latfia ddydd Sul i gyrraedd y rowndiau terfynol, mae pryder bellach am obeithion dynion Rob Page yn y bencampwriaeth.

Dechreuodd ymgyrch Cymru i gyrraedd Euro 2024 yn obeithiol gyda phwynt oddi cartref yn erbyn Croatia.

Ond roedd dwy golled yn erbyn Twrci ac Armenia yn ergyd anferth i’r tîm, a bellach, mae’n debygol y bydd yn rhaid i Gymru obeithio am gymhwyso drwy’r gemau ail-gyfle i gadw’r freuddwyd yn fyw os na ddaw gwyrth yn y gemau sydd i ddod.

Roedd buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Latfia ym mis Medi yn gam i’r cyfeiriad cywir yn eu hymgyrch i sicrhau eu lle yn y ddau safle uchaf ar frig Grŵp D.

Ond mae dyfodol Cymru yn Euro 2024 bellach yn y fantol, ac mae’r tîm yn y pedwerydd safle wedi buddugoliaeth Twrci dros Croatia nos Iau.

Bydd y gic gyntaf yn erbyn Croatia yng Nghaerdydd am 19.45 nos Sul, a bydd y Wal Goch yn gobeithio am berfformiad disglair a llygedyn o obaith ar y noson.

Erthygl gan S4C Newyddion

Tîm Cymru


Cyhoeddodd Rob Page garfan o 26 chwaraewr, Ddydd Mercher 4 Hydref, ar gyfer gêm gyfeillgar v Gibraltar a gêm ragbrofol Euro 2024 yn erbyn Croatia.

Regan Poole, Owen Beck, Charlie Savage, Liam Cullen a Luke Harris yw’r pump chwaraewr heb gapiau yn y garfan. Beck a Savage yn cael eu galw am y tro cyntaf i’r tîm llawn. Bwriadwyd i Beck, Savage a Harris ddychwelyd i garfan D21 Cymru wedi gêm Gibraltar er mwyn gwynebu Y Weriniaeth Tsiec nos Wener.

Yr absenoldeb mwyaf nodedig yw’r capten Aaron Ramsey sydd â phroblem pen-glin a fydd yn ei atal rhag chwarae am o leiaf wyth i ddeg wythnos. Hyn yn golygu na fydd ar gael am weddill y gemau grŵp.

Absenoldebau o’r garfan ddiwethaf – Tom King, Morgan Fox (anaf), Aaron Ramsey (anaf), Joe Morrell (wedi ei wahardd rhag chwarae v Croatia), Brennan Johnson (anaf) a Rabbi Matondo (anaf).

Dan James a Dylan Levitt yn dychwelyd i’r garfan ar ôl gwella o’u hanafiadau.

Diweddariad Carfan Cafodd Joe Low ei alw i’r garfan ar yr 8fed o Hydref (dyrchafiad o’r garfan D21) yn lle Ben Cabango a adawodd y cae gydag anaf llinyn y gar ym muddugoliaeth yr Elyrch dros Norwich ar nos Fercher 6ed.

Cafodd Tom King ei alw i’r garfan ddiwrnod cyn gêm Gibraltar oherwydd anaf i Adam Davies.

12/10/23 – Cyhoeddwyd fore dydd Iau y byddai Charlie Savage a Joe Low yn aros gyda’r garfan llawn ar gyfer gêm Croatia. Beck a Harris yn ymuno â’r garfan D21 yn ôl y disgwyl.

Dychwelodd Wes Burns i’w glwb am asesiadau pellach i’r anaf gafodd yn erbyn Gibraltar.

Enilodd 4 chwaraewr eu capiau cyntaf nos Fercher v Gibraltar – Regan Poole, Joe Low, Charlie Savage a Liam Cullen.

Tîm Croatia

Ar 25 Medi 2023, galwodd Zlatko Dalić 23 o chwaraewyr i’r garfan ar gyfer dwy gêm ragbrofol Euro 2024 yn erbyn Twrci a Chymru.

Y chwaraewyr yn chwarae eu pêl-droed mewn 12 gwlad wahanol. Yr Eidal (5), Yr Almaen (4), Croatia (2), Lloegr (2), Yr Iseldiroedd (2), Cyprus (1), Groeg (1), Portiwgal (1), Twrci, (1), Saudi Arabia (1), Sbaen (1) a’r Alban (1).

6 chwaraewr o’r garfan ddiwethaf wynebodd Cymru yn absennol o’r garfan yma – Ivo Grbić, Luka Ivanušec, Ivan Perišić, Andrej Kramarić, Mislav Oršić a Marko Livaja.

 

Dwedodd Dalić, “Of course, we will miss Ivan very much both as a player and as one of the leaders of this generation, but that does not change our ambition to take two more big steps towards our goal through these two matches, which is to qualify for EURO 2024. We did an excellent job work in September, but now the two toughest rivals in the group are waiting for us, and we must repeat the level of concentration, desire and quality approach we had against Latvia and Armenia ,”

“Taking into account the injuries of Perišić and Oršić, as well as the fact that Ivanušec was also started, we expanded the options on the wings by inviting Brekal, who thus gets the opportunity to show that he deserves to be part of the national team again, for which he has the necessary quality.”

 

Cymru v Croatia | Gêm ragbrofol Euro 2024 yn fyw ar S4C nos Sul am 7.15

Pêl-droed rhyngwladol byw o Gemau Rhagbrofol Euro 2024. Tair gêm sydd ar ôl i Gymru yn eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2024, a tybed os all tîm Robert Page achosi sioc arall yn erbyn Croatia i gadw’r freuddwyd o gyrraedd Yr Almaen yn fyw.

Yr holl gyffro yng nghwmni Dylan Ebenezer, Sioned Dafydd, Nic Parry, Osian Roberts, Gwennan Harries ac Owain Tudur Jones. C/G 7.45.

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?