Wrth i ni agoshau at gyrraedd hanner ffordd drwy’r tymor, mae un clwb yn bell ar y blaen ac un arall yn bell ar ei hôl hi yn y JD Cymru Premier. Ond yng nghanol y tabl mae’r cyffro mwyaf gan mae dim ond chwe phwynt sy’n gwahanu’r chwe chlwb rhwng y 6ed a’r 11eg safle yn y ras i gyrraedd yr hanner uchaf.
Nos Wener, 10 Rhagfyr
Y Fflint (2il) v Caernarfon (7fed) | Nos Wener – 19:45
Wrth edrych yn ôl dros y tymhorau diwethaf, 32 pwynt ydi’r cyfanswm cyfartalog sydd wedi bod ei angen i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf ar yr hollt.
Ac ar ôl colli dim ond un o’u wyth gêm gynghair ddiwethaf fe allai’r Fflint gyrraedd y targed hollbwysig hwnnw o 32 pwynt pe bae nhw’n curo Caernarfon nos Wener.
Ond dyw’r Fflint heb ennill gêm gartref yn erbyn Caernarfon ers 2009 gyda’r Cofis yn ennill ar eu pum hymweliad diwethaf a Cae-y-Castell.
Mae cyn-flaenwr Caernarfon, Jack Kenny wedi sgorio 11 gôl gynghrair yn barod i’r Fflint y tymor hwn tra bod ei bartner Michael Wilde wedi rhwydo 12 gôl – yr unig dîm sydd â dau chwaraewr wedi cyrraedd ffigyrau dwbl.
Er i Gaernarfon golli chwech o’u wyth gêm ddiwethaf, dim ond un pwynt sydd rhwng y Caneris a’r Bala (6ed) yn y ras am y Chwech Uchaf.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ✅✅➖❌✅
Caernarfon: ❌✅❌✅❌
Aberystwyth (10fed) v Y Drenewydd (3ydd) | Nos Wener – 20:00
Mae’r Robiniaid yn hedfan ar y funud a bydd Chris Hughes yn benderfynol o gadw’r Drenewydd ymysg y ceffylau blaen gan nad yw’r clwb wedi gorffen yn uwch na’r 5ed safle ers tymor 2000/01.
Ond Aberystwyth sydd wedi ennill y ddwy gêm ddiwethaf rhwng y timau, yn cynnwys eu buddugoliaeth ar Barc Latham yn gynharach y tymor hwn ble sgoriodd Jamie Veale o’r cylch canol i’r Gwyrdd a’r Duon (Dre 1-2 Aber).
Ers y gêm honno dyw Aberystwyth ond wedi sgorio pum gôl yn eu naw gêm gynghrair ganlynol, ac mae tîm Antonio Corbisiero angen dechrau tanio os am ddringo o’r gwaelodion (9 gôl mewn 15 gêm y tymor hwn).
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ❌➖✅✅❌
Y Drenewydd: ❌✅➖❌✅
Dydd Sadwrn, 11 Rhagfyr
Cei Connah (5ed) v Met Caerdydd (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Cei Connah wedi cael adfywiad o dan Craig Harrison a bellach mae’r Nomadiaid ar rediad o naw gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 7, cyfartal 2).
Dyw Cei Connah heb ildio yn eu pum gêm gynghrair ddiwethaf, dim syndod felly mae nhw sydd â’r record amddiffynnol orau eleni (ildio 9 gôl mewn 15 gêm).
Wedi pedair colled yn olynol yn y gynghrair roedd yna ddathlu o’r diwedd i’r myfyrwyr y penwythnos diwethaf wrth iddyn nhw guro’r Derwyddon gan godi o safleoedd y cwymp i’r 9fed safle.
Ond ers eu dyrchafiad yn 2016, dyw Met Caerdydd heb ennill dim un o’u 15 gêm gynghrair yn erbyn Cei Connah (colli 10, cyfartal 5).
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅✅➖✅
Met Caerdydd: ❌❌❌❌✅
Hwlffordd (11eg) v Y Bala (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Wedi pedair gêm heb ennill a llithro i’r ddau isaf fe benderfynodd Wayne Jones y penwythnos diwethaf ei bod hi’n amser iddo gamu o’r neilltu ac ymddiswyddo fel rheolwr Hwlffordd.
Chwaraeodd Wayne Jones fel cefnwr chwith i Hwlffordd rhwng 2002-2008 cyn rheoli’r clwb rhwng 2013-2016.
Fe ymunodd â thîm hyfforddi Aberystwyth am gyfnod cyn dychwelyd i Ddôl-y-Bont fel rheolwr yn haf 2018 ac arwain Hwlffordd yn ôl o Gynghrair y De i’r Uwch Gynghrair.
Tra bod Hwlffordd yn chwilio am reolwr newydd, bydd bos Y Bala, Colin Caton yn benderfynol o gymryd mantais ar yr ansicrwydd yng nghamp y gwrthwynebwyr, yn enwedig gan nad yw’r Bala erioed wedi colli oddi cartref yn erbyn yr Adar Gleision (ennill 5, cyfartal 2).
Mae Caton wedi bod wrth y llyw i’r Bala ers dros 18 o flynyddoedd, ond ar ôl ennill dim ond un o’i chwe gêm ddiwethaf, bydd y rheolwr profiadol yn ysu am driphwynt i leddfu ei bryderon.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅❌➖❌❌
Y Bala: ❌❌➖✅❌
Pen-y-bont (4ydd) v Derwyddon Cefn (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Gyda pum buddugoliaeth o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf mae Pen-y-bont yn dal eu tir yn y Chwech Uchaf.
Ond wedi 24 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth a dim ond dau bwynt y tymor hwn, mae pethau’n edrych yn ddu ar y Derwyddon.
Mae Pen-y-bont eisoes wedi curo’r Derwyddon yn gyfforddus y tymor hwn (3-0) ond dyw Hogiau’r Graig erioed wedi colli oddi cartref ym Mhen-y-bont (ennill 1, cyfartal 1).
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅❌✅➖✅
Derwyddon Cefn: ❌❌➖❌❌
Y Barri (8fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Seintiau Newydd yn parhau i fod naw pwynt yn glir ar gopa’r gynghrair, tra bo’r Barri mewn perygl o fethu a chyrraedd y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2017/18.
Mae 20 blynedd wedi mynd heibio ers y tro diwethaf i’r Barri ennill gartref yn erbyn Y Seintiau Newydd (9 gêm ers hynny – cyfartal 1, colli 8).
A dyw’r Seintiau heb golli dim un o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri (ennill 6, cyfartal 1), gan sgorio 23 o goliau (3.3 gôl y gêm).
Byddai buddugoliaeth i’r Seintiau Newydd yn sicrhau eu lle’n y Chwech Uchaf am yr 20fed tymor yn olynol (yr unig glwb i orffen yn y Chwech Uchaf ym mhob tymor ers newid strwythur y gynghrair i 12 clwb yn 2010-11).
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ✅➖➖✅❌
Y Seintiau Newydd: ✅✅❌✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.