Dwy gêm i fynd tan yr hollt ac mae’n benwythnos tyngedfennol yn Uwch Gynghrair Cymru gyda Pen-y-bont, Y Barri a Chaernarfon yn gobeithio selio eu lle yn yr hanner uchaf.
Dydd Sadwrn, 27 Mawrth
Aberystwyth (9fed) v Pen-y-bont (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Pen-y-bont o fewn trwch blewyn i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf, ac mae’n bosib iawn y bydd bechgyn Rhys Griffiths yn selio eu lle ddydd Sadwrn.
Mae’r Chwech Uchaf yn bendant allan o afael Aberystwyth, ond cystadlu am y gemau ail gyfle fydd y nod i griw Ceredigion erbyn hyn, yn enwedig gan bod Hwlffordd (7fed) wedi penderfynu nad ydyn nhw am geisio am drwydded Ewropeaidd y tymor yma.
Mae wedi bod yn amhosib gwahanu’r ddau dîm yn eu pedair gêm flaenorol, dwy gêm gyfartal a buddugoliaeth yr un gyda’r ddau glwb yn methu sgorio mwy nag unwaith mewn gêm (Pen 1-1 Aber, Aber 0-1 Pen, Aber 1-0 Pen, Pen 1-1 Aber).
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ❌➖✅❌✅
Pen-y-bont: ❌✅➖✅❌
Y Barri (5ed) v Y Bala (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Yn dilyn rhediad arbennig o 14 gêm heb golli, mae’r Bala bellach wedi colli dwy gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers Ionawr 2020, ac mae tîm Colin Caton wedi syrthio 15 pwynt y tu ôl i’r ceffylau blaen, Cei Connah.
Bydd Y Barri’n gobeithio manteisio ar gyfnod gwael Y Bala, a gall buddugoliaeth i’r Dreigiau sicrhau eu lle yn yr hanner uchaf a’r gemau ail gyfle.
Mae pedair gêm Y Barri ers ail-ddechrau’r tymor wedi gorffen yn 1-0 (ennill 2, colli 2), ond roedd hi’n grasfa i griw Gavin Chesterfield yn y gêm gyfatebol ‘nôl ym mis Hydref gyda Chris Venables yn taro hatric yn yr hanner cyntaf ar Faes Tegid (Y Bala 4-0 Y Barri).
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ✅✅❌✅❌
Y Bala: ✅➖✅❌❌
Y Drenewydd (8fed) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Cafwyd datganiad annisgwyl gan Hwlffordd yr wythnos diwethaf wrth i’r clwb gyhoeddi na fyddan nhw’n cystadlu am le’n Ewrop y tymor yma gan nad oes gan y rheolwr Wayne Jones y cymhwysterau priodol, a bod yr Adar Gleision ddim yn barod i benodi rhywun yn ei le.
Un clwb fydd efallai’n gallu manteisio ar hynny ydi’r Drenewydd, sydd wedi colli’r cyfle ar gyrraedd y Chwech Uchaf, ond bydd yn llygadu’r 7fed safle yn ail ran y tymor.
Bydd Hwlffordd yn dal i anelu i gyrraedd y Chwech Uchaf er mwyn sicrhau eu lle’n y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf, ond dyw’r Adar Gleision heb ennill dim un o’u pum gêm ddiwethaf oddi cartref yn erbyn Y Drenewydd ers 2008.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ✅❌✅✅❌
Hwlffordd: ✅✅❌✅❌
Y Fflint (11eg) v Y Seintiau Newydd (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30
Wedi tair colled yn olynol, heb sgorio gôl, roedd ‘na ryddhad i dîm Neil Gibson ddydd Sadwrn wrth i’r Fflint sicrhau buddugoliaeth annisgwyl oddi cartref ym Mhen-y-bont.
Ond fydd hi’n her anoddach i hogiau Cae-y-Castell y penwythnos yma wrth iddyn nhw baratoi i groesawu’r Seintiau a sgoriodd 10 gôl yn eu herbyn yn gynharach yn y tymor.
Mae’r Seintiau wedi llithro chwe phwynt y tu ôl i Gei Connah ar y copa, a bydd cewri Croesoswallt yn benderfynol o gau’r bwlch hynny brynhawn Sadwrn.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ✅❌❌❌✅
Y Seintiau Newydd: ✅✅➖❌✅
Caernarfon (6ed) v Met Caerdydd (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:45 (S4C)
Mae Caernarfon yn mwynhau cyfnod o saith gêm heb golli, a gallai buddugoliaeth yn erbyn y myfyrwyr brynhawn Sadwrn selio lle’r Cofis yn y Chwech Uchaf (yn ddibynnol ar ganlyniad Hwlffordd yn erbyn Y Drenewydd).
Mae’r Caneris wedi gorffen yn y Chwech Uchaf yn eu dau dymor ers eu dyrchafiad yn ôl i’r uwch gynghrair yn 2018, a bydd Huw Griffiths yn disgwyl dim llai na chael cyflawni hynny eto yn ei dymor llawn cyntaf wrth y llyw.
Met Caerdydd sydd â’r record ymosodol salaf yn y gynghrair (15 gôl mewn 20 gêm) a dyw tîm Christian Edwards heb ennill mewn saith gêm (colli 5, cyfartal 2).
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅➖➖✅✅
Met Caerdydd: ❌❌❌❌➖
Bydd uchafbwyntiau holl gemau’r penwythnos i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 17:30.