S4C

Navigation

Bydd un gêm gynghrair yn cael ei chwarae dros y penwythnos, sef yr ornest rhwng Y Seintiau Newydd a Hwlffordd, a bydd y cyfan yn fyw ar Sgorio brynhawn Sadwrn am 5.00.

Dydd Sadwrn, 24 Hydref

Y Seintiau Newydd v Hwlffordd| Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)

Y Seintiau Newydd sydd ar frig tabl y gynghrair, ond fe ddaeth eu rhediad perffaith i ben y penwythnos diwethaf wrth i dîm Scott Ruscoe ildio am y tro cynta’r tymor hwn gan rannu’r pwyntiau ar Goedlan y Parc (Aber 2-2 YSN).

Mae’r Seintiau wedi ennill eu saith gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd, ac heb golli dim un o’u 18 gêm ddiwethaf yn erbyn yr Adar Gleision (ers Chwefror 2004).

Dyw Hwlffordd heb orffen yn uwch na’r 12fed safle yn Uwch Gynghrair Cymru ers gorffen yn 7fed yn 2008/09 pan oedd 18 clwb yn y gynghrair.

Ond mae tîm Wayne Jones wedi mwynhau eu teithiau i’r gogledd y tymor hwn gan ennill oddi cartref yn y Bala a’r Fflint.

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅ ➖

Hwlffordd: ❌✅❌✅ ➖

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gêm i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 5:25.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?