Brynhawn Sadwrn bydd Ffynnon Taf, Bae Colwyn a Chegidfa yn gobeithio achosi sioc yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD.
O’r wyth clwb sydd ar ôl yn y gystadleuaeth dim ond Y Seintiau Newydd, Cei Connah a’r Bala sydd wedi ennill Cwpan Cymru yn y ganrif ddiwethaf, tra bod Aberystwyth wedi codi’r cwpan yn 1900 ac wedi cyrraedd y rownd derfynol deirgwaith ers 2009.
Mae Cymru wedi colli un safle’n Ewrop ar gyfer y tymor nesaf, ac felly dim ond y ddau uchaf yn Uwch Gynghrair Cymru ac enillwyr Cwpan Cymru fydd yn cynrychioli’r wlad yn Ewrop yr haf hwn.
Os bydd un o’r ddau uchaf yn y gynghrair yn ennill y gwpan hefyd, yna bydd y tîm sy’n gorffen yn 3ydd yn y tabl yn cymeryd y tocyn olaf i Ewrop.
Dydd Sadwrn, 19 Chwefror
Pen-y-bont v Ffynnon Taf | Dydd Sadwrn – 12:45
Mae Pen-y-bont a Ffynnon Taf wedi cyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes.
Mae Pen-y-bont yn brwydro am yr ail safle yn yr uwch gynghrair, tra bod Ffynnon Taf, yr unig dîm o Gynghrair De Cymru sydd ar ôl yn y gystadleuaeth, wedi ennill pum gêm yn olynol gan godi i’r 7fed safle yn yr ail haen.
Gyda dim ond 20 milltir yn gwahanu’r ddau dîm bydd y clybiau’n hen gyfarwydd â’i gilydd ers cyfnod Pen-y-bont yng Nghynghrair y De, a dyw bechgyn Bryntirion heb golli yn eu 11 gêm ddiwethaf yn erbyn Ffynnon Taf (ennill 9, cyfartal 2 ers 2014).
Mae Pen-y-bont wedi trechu Gwndy, Cambrian a Clydach a Chaernarfon yng Nghwpan Cymru eleni, tra bod Ffynnon Taf wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf trwy guro Y Fenni, Goytre United, Llanilltud Fawr a Bwcle.
Cei Connah v Bae Colwyn | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd hi’n frwydr ddiddorol ar ochr y cae ddydd Sadwrn wrth i Steve Evans wynebu ei gyn-reolwr Craig Harrison yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy.
Chwaraeodd rheolwr newydd Bae Colwyn, Steve Evans dros 250 o gemau i’r Seintiau Newydd gan ennill 15 tlws, gyda rhan helaeth o rheiny o dan arweiniad Craig Harrison.
Enillodd Cei Connah y gwpan am y tro cyntaf yn eu hanes yn 2017/18 cyn colli yn erbyn Y Seintiau Newydd yn y rownd derfynol y flwyddyn ganlynol (Steve Evans yn is-reolwr YSN ar y pryd, a Craig Harrison yn is-reolwr Cei Connah).
Mae Bae Colwyn wedi chwarae’n y rownd gynderfynol ar dri achlysur (1930, 1983, 1992), ond dyw’r clwb erioed wedi cyrraedd y rownd derfynol.
Mae Gwylanod y Bae, sydd yn 4ydd yng Nghynghrair y Gogledd, wedi curo Gresffordd, Rhuthun a Met Caerdydd i gyrraedd rownd yr wyth olaf eleni, tra bod Cei Connah heb ildio gôl yn eu tair gêm yn y gystadleuaeth hyd yma, yn erbyn Y Rhyl 1879, Trefelin, a’r Fflint.
Y Bala v Aberystwyth | Dydd Sadwrn – 14:30
Yn yr unig gêm rhwng dau dîm o’r uwch gynghrair bydd enillwyr Cwpan Cymru 2017, Y Bala yn herio Aberystwyth, sydd wedi cyrraedd dwy o’r chwe rownd derfynol ddiwethaf.
Cafodd y ddau glwb ddechrau anhygoel i’w hymgyrch yn y gwpan eleni wrth i Aberystwyth ennill 9-0 yn erbyn Cwm Aber, a’r Bala yn sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed gan roi crasfa o 17-1 i Brymbo.
Yn dilyn rhediad o chwe gêm heb golli mae’r Bala wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf am yr wythfed tymor yn olynol, ac er bod Aberystwyth wedi cadw tair llechen lân yn olynol mi fydd tîm Antonio Corbisiero yn treulio ail ran y tymor yn yr hanner isaf.
Mae’r Bala eisoes wedi curo Aberystwyth yn y gynghrair y tymor hwn diolch i gôl i’w rwyd ei hun gan Alex Darlington (Aber 0-1 Bala), a bydd y timau’n cwrdd eto’r penwythnos nesaf yn eu gêm olaf cyn yr hollt.
Y Seintiau Newydd v Cegidfa | Dydd Sadwrn – 14:30
Y Seintiau Newydd yw deiliaid presennol y cwpan ar ôl ennill y gystadleuaeth am y seithfed tro yn eu hanes yn 2018/19, sef y tro diwethaf i’r gystadleuaeth gyrraedd ei therfyn.
Aeth Cegidfa drwy gyfnod rhagorol o 20 gêm heb golli yn gynharach y tymor yma (ennill 14, cyfartal 6), ond bellach mae‘r clwb o Sir Drefaldwyn ar rediad gwael o bum gêm heb fuddugoliaeth.
Mi fydd hi’n brynhawn arbennig i brif sgoriwr holl hanes Y Seintiau Newydd, Greg Draper, adawodd Croesoswallt i ymuno â Chegidfa dros yr haf.
Enillodd Greg Draper y gwpan bum gwaith gyda’r Seintiau Newydd gan sgorio pum gôl mewn pum rownd derfynol.
Dyw’r Seintiau Newydd heb ildio gôl wrth drechu Llanrwst, Conwy a Chaerfyrddin yn y gwpan eleni tra bod Cegidfa wedi curo Llandudno Albion, Dinas Powys a Prifysgol Abertawe i gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Mae’r Seintiau Newydd 21 pwynt yn glir ar frig Uwch Gynghrair Cymru ar ôl ennill eu wyth gêm ddiwethaf a bydd Anthony Limbrick yn anelu am y dwbl yn ei dymor llawn cyntaf fel rheolwr y tîm o Groesoswallt.
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.