Noson siomedig i Gymru wrth i dîm Ryan Giggs golli 3-0 mewn gêm gyfeillgar yn Wembley yn erbyn Lloegr.
Sgoriodd Dominic Calvert-Lewin ei gôl gyntaf ar ei ymddangosiad cyntaf dros Loegr wedi 26 munud, peniad syml yn y cwrt chwech heibio Wayne Hennessey.
Fe aeth Lloegr ymhellach ar y blaen ar yn yr ail hanner, Conor Coady a Danny Ings yn sgorio i’r tîm cartref.
Bydd Cymru yn gobeithio am well dydd Sul yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA, gyda’r gobaith bydd Aaron Ramsey yn dychwelyd i’r garfan a Kieffer Moore yn mendio o’i anaf ar ôl gadael y cae yn yr hanner cyntaf.
Fe aeth Wayne Hennessey yn gyfartal a Neville Southall gyda 92 Cap i Gymru, gyda Rabbi Matondo hefyd yn dechrau ei gêm gyntaf dros ei wlad.
Bydd Cymru yn teithio i Ddulyn prynhawn Sul i wynebu Gweriniaeth Iwerddon cyn herio Bwlgaria oddi cartref nos Fercher yng Nghynghrair y Cenhedloedd, gyda’r ddwy gêm yn fyw ar Sgorio.
Gweriniaeth Iwerddon v Cymru – dydd Sul, 11 Hydref am 1.30
Bwlgaria v Cymru – nos Fercher, 14 Hydref am 7.25