10 rownd o gemau sydd ar ôl tan yr hollt yn y gynghrair ac mae’n gaddo i fod yn dipyn o frwydr i gyrraedd y Chwech Uchaf eleni.
Un clwb sy’n weddol saff o’u lle yn yr hanner uchaf yw Pen-y-bont gan bod tîm Rhys Griffiths wedi torri saith pwynt yn glir ar frig y tabl.
Nos Fawrth, 15 Hydref
Caernarfon (3ydd) v Aberystwyth (12fed) | Nos Fawrth – 19:45
Caernarfon yw’r trydydd tîm i guro’r Seintiau Newydd yn y gynghrair y tymor hwn ac yna methu ac ennill eu gêm ganlynol, wedi i’r Cofis golli 2-1 gartref yn erbyn Y Drenewydd ddydd Sadwrn.
Roedd y Caneris wedi mynd ar rediad o chwe gêm gynghrair heb golli (ennill 5, cyfartal 1) cyn y golled yn erbyn cochion y canolbarth ar yr Oval.
Mae’n edrych yn ddu ar Aberystwyth wedi i’r clwb lithro i waelod y tabl ar ôl colli naw gêm yn olynol am y tro cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair.
Dyw Aberystwyth m’ond wedi sgorio pum gôl mewn 12 gêm gynghrair eleni, gan fethu a sgorio mwy nac unwaith mewn gêm drwy gydol y tymor hyd yma.
Mae bron i flwyddyn wedi pasio ers i’r timau yma gyfarfod, ac fe enillodd Caernarfon eu dwy gêm yn erbyn Aberystwyth y tymor diwethaf gyda blaenwyr y Cofis, Zack Clarke ac Adam Davies yn sgorio tair gôl yr un yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅✅✅✅❌
Aberystwyth: ͏❌❌❌❌❌
Llansawel (11eg) v Hwlffordd (2il) | Nos Fawrth – 19:45
Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 4 gôl mewn 12 gêm) a fe gadwodd y golwr Zac Jones ei 8fed llechen lân y tymor hwn mewn gêm ddi-sgôr yn erbyn Cei Connah dros y penwythnos.
Mae tîm Tony Pennock yn anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers i’r gynghrair gael ei chwtogi i 12 tîm gan nad yw’r Adar Gleision wedi gorffen yn uwch na’r 7fed safle ers tymor 2004/05 pan lwyddon nhw i gyrraedd y 4ydd safle gyda dim ond Y Seintiau Newydd, Y Rhyl a Bangor yn gorffen uwch eu pennau y flwyddyn honno.
Dyw Hwlffordd m’ond wedi colli dwy o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf oddi cartref, tra bod Llansawel yn dal i ddisgwyl am eu buddugoliaeth gyntaf gartref y tymor hwn.
Hon fydd y gêm gyntaf rhwng y clybiau ers pum mlynedd pan aeth y timau benben yng Nghynghrair y De gyda Llansawel yn ennill 4-1 ar Ddôl y Bont a Ben Fawcett yn sgorio i’r Adar Gleision.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ❌➖✅➖❌
Hwlffordd: ✅➖✅✅͏➖
Met Caerdydd (4ydd) v Pen-y-bont (1af) | Nos Fawrth – 19:45
Pen-y-bont sy’n parhau i osod y safon, saith pwynt yn glir ar y copa gyda 29 o bwyntiau ar ôl ennill naw o’u 12 gêm gynghrair hyd yma.
Adeg yma’r tymor diwethaf, wedi 12 gêm gynghrair roedd Pen-y-bont yn y 7fed safle gyda 17 o bwyntiau, 15 pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd, sy’n dangos maint eu llwyddiant eleni.
Ar ôl dechrau cryf i’r tymor mae Met Caerdydd wedi llithro i’r 4ydd safle yn dilyn cyfnod o dair colled yn olynol.
Mae yna 10 mis wedi mynd heibio ers i’r timau gyfarfod a dyw Pen-y-bont heb golli mewn pum gêm yn erbyn Met Caerdydd (ennill 3, cyfartal 2), ond mi fydd y clybiau’n cwrdd unwaith eto ymhen tridiau yn ail rownd Cwpan Cymru JD.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏✅✅❌❌❌
Pen-y-bont: ͏✅❌✅✅✅
Y Bala (7fed) v Cei Connah (9fed) | Nos Fawrth – 19:45
Ildiodd Y Bala’n hwyr iawn yn erbyn Y Fflint brynhawn Sadwrn gan orfod rhannu’r pwyntiau gyda’r Sidanwyr ar Gae y Castell (Ffl 2-2 Bala).
Dyw’r Bala felly m’ond wedi ennill dwy o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf, gyda un o’r buddugoliaethau rheiny yn dod oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Wrth i’r clybiau ddechrau canolbwyntio ar gyrraedd y Chwech Uchaf, mae Cei Connah chwe phwynt o dan Y Drenewydd yn y 6ed safle, ond mae gan y Nomadiaid gêm wrth gefn.
Dyw Cei Connah m’ond wedi ennill tair o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf oddi cartref, gyda un o’r buddugoliaethau rheiny yn dod yn erbyn y clwb sy’n rhannu yr un cae â nhw, sef Y Fflint.
Aeth y timau benben bum gwaith y tymor diwethaf gyda’r Bala’n cael y gorau o bethau o drwch blewyn, ond dim ond pum gôl gafodd ei sgorio yn y pum gêm, a dim un o’r timau’n llwyddo i rwydo mwy nac unwaith mewn 90 munud (Bala 1-0 Cei, Cei 1-1 Bala, Bala 1-0 Cei, Cei 1-0 Bala, Cei 0-0 Bala).
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ➖✅➖❌➖
Cei Connah: ͏❌➖❌✅➖
Y Drenewydd (6ed) v Y Barri (8fed) | Nos Fawrth – 19:45
Mae’r Drenewydd wedi dringo ‘nôl i’r Chwech Uchaf ar ôl curo Caernarfon, ond fe all Y Barri godi uwchben y Robiniaid gyda buddugoliaeth nos Fawrth.
Dim ond y clwb isaf, Aberystwyth, sydd wedi ildio mwy o goliau na’r Drenewydd y tymor hwn ac felly bydd angen tynhau yn y cefn os am gyrraedd y Chwech Uchaf am y pedwerydd tymor yn olynol.
Bydd rhaid cadw llygad barcud ar flaenwr Y Barri, Ollie Hulbert felly, gan i’r gŵr 21 oed rwydo ei 7fed gôl gynghrair yn erbyn Llansawel brynhawn Sadwrn i ddringo i frig rhestr y prif sgorwyr.
Y Drenewydd oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ym mis Awst gyda Aaron Williams yn taro ddwywaith i’r Robiniaid ar Barc Jenner (Barr 1-2 Dre), a dyw’r Barri heb ennill oddi cartref ar Barc Latham ers pum mlynedd.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ͏➖➖❌❌✅
Y Barri: ➖➖✅❌✅
Y Seintiau Newydd (5ed) v Y Fflint (10fed) | Nos Fawrth – 19:45
Ar ôl bagliad arall yng nghanol wythnos yn erbyn Caernarfon roedd y Seintiau yn ôl i’w hen arferion ddydd Sadwrn wrth drechu Met Caerdydd o 3-0 yn Neuadd y Parc.
Ac fe gipiodd Y Fflint bwynt gwerthfawr yn erbyn Y Bala i agor bwlch o chwe phwynt rhyngddyn nhw a’r ddau isaf, ond mae gan Llansawel (11eg) ddwy gêm wrth gefn.
Mae’r timau eisoes wedi cyfarfod ddwywaith yn barod y tymor hwn gyda’r Seintiau’n ennill yn gyfforddus yn y ddwy gêm a Sion Bradley yn sgorio pedair gôl, yn cynnwys hatric ar Gae-y-Castell.
Yn y bump ornest ddiwethaf rhwng y clybiau mae’r Seintiau wedi sgorio pedair, pump, chwech, saith ac wyth o goliau yn erbyn Y Fflint (Ffl 1-4 YSN, YSN 5-1 Ffl, Ffl 1-8 YSN, YSN 6-2 Ffl, YSN 7-0 Ffl).
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ❌❌✅❌✅
Y Fflint: ͏➖❌❌✅➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.