Fe fydd y gêm rhwng Standard Liege a’r Bala yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa UEFA i’w gweld yn fyw ar y we gan griw Sgorio.
Wedi iddynt drechu Valetta o Malta yn rownd ragbrofol gyntaf y gystadleuaeth, cafodd tîm Colin Caton eu tynnu allan o’r het gydag un o dimau mwyaf Gwlad Belg, Standard Liege yn yr ail rownd. Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar nos Iau 17 Medi yn y Stade Maurice Dufrasne, gyda’r gic gyntaf am 7.00pm.
Fe fydd ffrwd fyw o’r gêm yn cael ei ddangos ar dudalen Facebook Live Sgorio ac ar S4C Clic, am 6.55pm.
Wedi i UEFA newid strwythur y gystadleuaeth yn sgil y pandemig COVID-19, fe fydd y tîm buddugol ar y noson yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf, yn hytrach na chwarae ail gymal. Fe fydd y tîm llwyddiannus yn wynebu FK Vojvodina o Serbia yn y drydedd rownd ragbrofol.