S4C

Navigation

Bydd tri stadiwm ar draws y gogledd yn cynnal Rownd Elît UEFA D19 EWRO yn ystod ffenestr ryngwladol mis Mawrth, gyda phob un o gemau Cymru yn cael eu darlledu’n fyw gan S4C a Sgorio.

 

Bydd Stadiwm Dinas Bangor yn cynnal gêm agoriadol Cymru yn erbyn Lloegr am 7pm ar ddydd Mercher 19 Mawrth. Bydd tîm Chris Gunter yna yn teithio i Belle Vue yn Rhyl ar gyfer y ddwy gêm nesaf, lle byddant yn wynebu Portiwgal ar ddydd Sadwrn 22 Mawrth (KO 5pm) a Thwrci ar ddydd Mawrth 25 Mawrth (KO 7pm).

Bydd y gemau ar gael i’w gwylio ar S4C Clic, sianeli YouTube S4C a Sgorio a thudalen Facebook Sgorio. Bydd sylwebaeth yn Gymraeg a Saesneg ar bob gêm.

Bydd y tair gêm sydd ddim yn cynnwys Cymru yn cael eu chwarae yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy yn Cei Connah a byddant yn cael eu ffrydio’n fyw ar blatfform ffrydio CBDC, RedWall+.

Mae’n debygol y bydd sawl chwaraewr a fu’n rhan o Bencampwriaeth UEFA D17 EWRO 2023, y tro cyntaf i dîm oedran Cymru gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth dan oedran ers 1981, yn cael eu cynnwys yn y garfan D19.

Bydd y gemau hyn hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y paratoadau ar gyfer rowndiau terfynol UEFA U19 EWRO 2026, a fydd yn cael eu cynnal yng ngogledd Cymru fis Mehefin a Gorffennaf nesaf.

Dywedodd Prif Hyfforddwr tîm D19 Cymru, Chris Gunter: “Bydd hwn yn brofiad gwych i’n chwaraewyr wrth iddynt chwarae ar y llwyfan hyn yn y rownd elît. Maent yn haeddu’r cyfle oherwydd y canlyniadau ym mis Tachwedd, ac hefyd y cyfle i chwarae o flaen ein cefnogwyr ein hunain. Mae gennym grŵp cyffrous o chwaraewyr sydd â’r nod o gynrychioli ein Tîm Cenedlaethol yn y blynyddoedd i ddod, ac rwy’n edrych ymlaen at weld cefnogwyr y gogledd yn dod allan mewn niferoedd i’n cefnogi.”

Ychwanegodd Comisiynydd Chwaraeon S4C, Sue Butler: “Mae S4C yn falch iawn o gael rhoi sylw i’r Rownd Elît D19 sy’n cael ei chynnal yng Ngogledd Cymru. Mae ein hymrwymiad yn dangos cefnogaeth barhaus S4C i bêl-droed Cymru ar draws pob lefel o’r gêm”.

Bydd y gwerthiant a ddosbarthiant o tocynnau yn cael eu rheoli gan Stadiwm Dinas Bangor a Belle Vue, Rhyl, gyda’r wybodaeth yn cael ei chadarnhau maes o law.

Meilyr Williams

Author Meilyr Williams

More posts by Meilyr Williams
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?