S4C

Navigation

Mae tymor 2024/25 wedi dod i ben ac mae tri o glybiau’r Cymru Premier JD wedi sicrhau eu lle’n Ewrop ar gyfer y tymor nesaf. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill y trebl domestig am y tro cyntaf ers 2016 gan sicrhau lle yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr. 

Pen-y-bont orffennodd yn yr ail safle am y tro cyntaf erioed, ac mi fydd bechgyn Bryntirion yn cynrychioli Cymru yn Ewrop am yr eildro yn eu hanes yn rowndiau rhagbrofol Cyngres UEFA. 

Gorffennodd Hwlffordd yn y tri uchaf am y tro cyntaf ers 21 o flynyddoedd ac ar ôl ennill y gemau ail gyfle mae’r Adar Gleision wedi hawlio eu lle’n Ewrop am yr eildro mewn tair blynedd. 

Bydd Y Seintiau Newydd, Pen-y-bont a Hwlffordd yn darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn Ewrop ar 17 Mehefin, 2025 a bydd y cymalau cyntaf yn cael eu chwarae rhwng 7-9 Gorffennaf, 2025. 

 

Hwlffordd 

Mae Hwlffordd wedi cyrraedd Ewrop am y trydydd tro yn eu hanes ar ôl curo Caernarfon o 3-1 yn rownd derfynol y gemau ail gyfle. 

Roedd nifer yn rhagweld y byddai Hwlffordd yn stryffaglu’n gorfforol ar ôl mis o seibiant ers eu gêm ddiwethaf, ond i’r gwrthwyneb, roedd yr Adar Gleision yn edrych yn gryf ac yn ffit wrth drechu Caernarfon yn gyfforddus o flaen torf fwya’r tymor o 1,717 ar Ddôl y Bont. 

Roedd Hwlffordd wedi gorffen y tymor arferol yn eu safle uchaf ers 21 o flynyddoedd drwy hawlio’r trydydd safle gyda record amddiffynnol orau’r gynghrair. 

Llwyddodd Hwlffordd i ennill y gemau ail gyfle ar ddiwedd tymor 2022/23 trwy guro ar giciau o’r smotyn yn erbyn Met Caerdydd a’r Drenewydd. 

Aeth tîm Tony Pennock ymlaen i drechu Shkëndija (Macedonia) ar giciau o’r smotyn yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn colli wedi amser ychwanegol yn erbyn B36 Torshavn (Ynysoedd Ffaroe) yn yr ail rownd ragbrofol. 

Cyn 2023 doedd Hwlffordd m’ond wedi chwarae un rownd Ewropeaidd ac hynny yn haf 2004 gan golli’r ddau gymal yn erbyn Fimleikafélag Hafnarfjarðar (Gwlad yr Iâ). 

Record yn Ewrop 

Rowndiau: 3 (ennill 1, colli 2) / Gemau: 6 (ennill 1, cyfartal 1, colli 4) 

Tro diwethaf: (2023/24) Curo Shkëndija ar g.o.s (1-1 dros ddau gymal) cyn colli yn erbyn B36 Torshavn (2-3 dros ddau gymal). 

 

Pen-y-bont 

Mae Pen-y-bont wedi sicrhau’r ail safle gan gadarnhau eu bod yn gorffen yn eu safle uchaf erioed yn y Cymru Premier JD. 

Dim ond unwaith yn y gorffennol y mae Pen-y-bont wedi chwarae’n Ewrop, ac hynny yn haf 2023 ar ôl gorffen yn 3ydd yn y tabl. 

Chwaraeodd Pen-y-bont eu gêm Ewropeaidd gyntaf erioed yn erbyn Santa Coloma o Andorra ar Gae Bragdy gan gael gêm gyfartal (1-1) cyn colli wedi amser ychwanegol wythnos yn ddiweddarach yn yr ail gymal. 

Fel Hwlffordd, mae Pen-y-bont yn dychwelyd i Ewrop ar ôl un tymor o saib, ac ar ôl gorffen yr ymgyrch hon 13 o bwyntiau’n glir o’r 3ydd safle, bydd Rhys Griffiths yn gobeithio y gall ei garfan ail-adrodd y gamp y flwyddyn nesaf a dechrau cynrychioli Cymru yn gyson ar y llwyfan Ewropeaidd. 

Record yn Ewrop: 

Rowndiau: 1 (ennill 0, colli 1) / Gemau: 2 (cyfartal 1, colli 1) 

Tro diwethaf: (2023/24) Colli wedi amser ychwanegol yn erbyn Santa Coloma (1-3 dros ddau gymal). 

 

Y Seintiau Newydd 

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill y bencampwriaeth am yr 17eg tro yn eu hanes, ac am y pedwerydd tymor yn olynol gan sicrhau lle yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr. 

Y Seintiau Newydd yw clwb mwyaf llwyddiannus Cymru yn Ewrop gan i’r clwb o Groesoswallt chwarae’n gyson yn Ewrop ers 1996. 

Llynedd fe lwyddodd y Seintiau i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol am y tro cyntaf erioed gan gystadlu yn rownd y gynghrair Cyngres UEFA ble chwaraeon nhw yn erbyn Panathinaikos a Fiorentina. 

Mae’r Seintiau’n sicr o chwarae dwy rownd yn Ewrop eleni (pedair gêm), a bydd y clwb yn benderfynol o ail-adrodd eu campau a chyrraedd Cyngres UEFA unwaith yn rhagor.

Record yn Ewrop: 

Rowndiau: 50 (ennill 12, colli 38) / Gemau: 92 (ennill 20, cyfartal 15, colli 57) 

Tro diwethaf: (2024/25) YSN yn llwyddo i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol am y tro cyntaf erioed gan gystadlu yn rownd y gynghrair Cyngres UEFA.  

 

Gwrthwynebwyr Posib 

Bydd yr enwau’n cael eu dethol yn Geneva ar 17 Mehefin, 2024 ar gyfer rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr (Y Seintiau Newydd) a rownd rhagbrofol gyntaf Cyngres UEFA (Pen-y-bont ac Hwlffordd). 

Bydd Y Seintiau Newydd ym mhot y detholion (seeded) ac felly yn debygol o gael gwrthwynebwyr ffafriol, tra bydd Pen-y-bont a Hwlffordd yn y pot ‘heb eu dethol’ (unseeded) ac felly’n wynebu clybiau cryfach ar bapur. 

 

Cynghair y Pencampwyr 

Mae’r Seintiau Newydd yn mynd i wynebu un o’r 14 clwb isod yn rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr: Inter Club d’Escaldes (Andorra), Shkëndija (Macedonia), FCI Levadia (Estonia), Dinamo Minsk (Belarws), Hamrun Spartans (Malta), Kairat (Kazakhstan), Milsami Orhei (Moldofa), Noah (Armenia), Differdange 03 (Lwcsembwrg), Iberia 1999 (Georgia), Vikingur (Ynysoedd Ffaroe), Shelbourne (Iwerddon), Egnatia (Albania), Virtus (San Marino) 

O’r 14 clwb posib, Shkëndija ac FCI Levadia yw’r unig rai sydd wedi wynebu’r Seintiau Newydd yn y gorffennol. 

Yn nim ond eu hail rownd Ewropeaidd erioed, fe gollodd Y Seintiau Newydd o 6-2 dros ddau gymal yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr 2000/01 yn erbyn Levadia Tallin, sydd bellach wedi uno gyda FCI Tallinn i greu’r clwb presennol. 

Llwyddodd Y Bala i guro Levadia Tallinn yn eu gêm gyntaf erioed yn Ewrop yn haf 2013, cyn colli’r ail gymal yn Estonia. 

Mae gan Differdange 03 atgofion o chwarae yn erbyn Y Bala ar y Belle Vue hefyd, ble gollon nhw o 2-1 yn erbyn carfan Colin Caton yn haf 2015, ond ennill o 4-3 dros y ddau gymal. 

O ran Shkëndija, fe enillodd y Seintiau o 5-4 dros y ddau gymal yn erbyn y tîm o Facedonia yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr 2018/19. 

Mae Shkëndija hefyd wedi colli yn erbyn Hwlffordd yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres UEFA yn haf 2023, felly mi fyddan nhw’n awyddus i osgoi trip arall i Gymru. 

Bydd Y Seintiau’n siwr o fod eisiau osgoi taith anodd i Felarws i wynebu Dinamo Minsk, orffennodd yn hafal ar bwyntiau gyda criw Craig Harrison yn nhabl Cyngres UEFA 2024/25. 

A clwb arall i’w hosgoi yw Noah (Armenia), orffennodd un safle uwchben y Seintiau yng Nghyngres UEFA y tymor hwn. 

 

Cyngres UEFA 

Mi fydd yna 26 clwb posib yn y pair i wynebu Pen-y-bont a Hwlffordd, a nifer o rheiny eto i’w cadarnhau gyda sawl tymor ar draws Ewrop yn dal i fynd yn ei flaen. 

Y Gwyddelod, Shamrock Rovers yw’r prif ddetholion yn y rownd hon, clwb orffennodd yn 10fed yn nhabl Cyngres UEFA y tymor hwn a gollodd ar giciau o’r smotyn yn erbyn Molde yn y rownd ganlynol ar ôl curo’r Seintiau Newydd yn gynharach yn eu hymgyrch. 

Llwyddodd Vikingur Reykjavik i fynd heibio rownd y gynghrair yng Nghyngres UEFA 2024/25 hefyd gan orffen yn 19eg yn y tabl cyn colli o 3-2 dros ddau gymal yn erbyn Panathinaikos. 

Achosodd Vikingur Reykjavik dipyn o sioc pan guron nhw Y Seintiau Newydd o 2-0 dros ddau gymal yn haf 2022 gan brofi cryfder cynghrair Gwlad yr Iâ. 

Mae HJK Helsinki o’r Ffindir yn glwb cryf arall all wynebu taith i dde Cymru dros yr haf. 

Mae HJK eisoes wedi curo Cei Connah a Bangor yn Ewrop, yn cynnwys crasfa o 10-0 yn erbyn Dinasyddion Bangor yn y cymal cartref yn 2011. 

Byddai Larne (Gogledd Iwerddon) a Paide Linnameskond (Estonia) yn wrthwynebwyr caled hefyd gan i’r ddau dîm drechu’r Bala yn y pum mlynedd diwethaf. 

Gorffennodd Petrocub ar waelod tabl Cyngres UEFA 2024/25, ond fe wnaeth y clwb o Moldofa guro’r Seintiau Newydd yn y rowndiau rhagbrofol. 

Un clwb sydd heb gael fawr o lwc yn Ewrop yw Kauno Žalgiris (Lithwania) a gollodd o 10-1 dros ddau gymal yn erbyn Y Seintiau Newydd yn haf 2021, a byddai tîm felly’n apelgar i Hwlffordd a Pen-y-bont. 

Byddai Tony Pennock na Rhys Griffiths ddim yn troi eu trwynnau ar y cyfle i fynd i Malta neu Gibraltar chwaith i herio Floriana neu St Joseph’s – clybiau sydd â digon o brofiad Ewropeaidd ond fawr o lwyddiant. 

Ac fe allai fod yn gyfle i Ben-y-bont dalu’r pwyth yn ôl ar Santa Coloma pe bae cyn-bencampwyr Andorra yn dychwelyd i dde Cymru am yr eildro mewn tair blynedd. 

Beth bynnag ddaw, mae’n gaddo i fod yn haf cyffrous i dri o glybiau Cymru sydd wedi llawn haeddu eu lle’n Ewrop ar ôl gorffen fel y tri uchaf yn y Cymru Premier JD eleni.  

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?