S4C

Navigation

Rownd gynderfynol y gemau ail gyfle am le yng Nghwpan y Byd 2022 rhwng Cymru ac Awstria yn fyw ar S4C nos Iau am 7.20 gyda’r gic gyntaf am 7.45

 

Cymru v Awstria – nos Iau am 7.45

Bydd Cymru yn croesawu Awstria i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle am le yng Nghwpan y Byd 2022.

Fe lwyddodd Cymru i gyrraedd y gemau ail gyfle gan orffen yn ail yn eu grŵp ragbrofol, gan sicrhau eu lle gan cipio pedair pwynt o’u dwy gêm olaf gan guro Belarws (5-0) a sicrhau gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Gwlad Belg.

Gohiriodd FIFA y rownd gynderfynol rhwng yr Alban a’r Wcráin tan fis Mehefin 2022, ynghyd â’r rownd derfynol.

Yn siomedig i Gymru, bydd Kieffer Moore yn methu’r gêm oherwydd anaf. Mae Moore wedi datblygu yn un o selogion y tîm dros y blynyddoedd diwethaf gan sgorio wyth gôl mewn 17 ymddangosiad.

Yn galonogol, bydd Gareth Bale ac Aaron Ramsey ar gael – gyda Robert Page yn cadarnhau bod y ddau yn holliach cyn y gêm.

Bydd ser y bencampwriaeth hefyd ar gael – gyda Harry Wilson, Sorba Thomas a Brennan Johnson wedi eu henwi yn y garfan.

Mae’r tri wedi bod yn rhan o 53 gôl yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, gyda Wilson yn creu 13 a sgorio 10 i Fulham, Sorba Thomas wedi creu 10 i Huddersfield a Brennan Johnson wedi sgorio 11 i Nottingham Forest.

 

Stadiwm Dinas Caerdydd

Mae record diweddar Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn addawol iawn. Ers colli i Serbia (0-3) ym mis Medi 2013, Cymru mond wedi colli dwy gêm gystadleuol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mewn 25 gêm gystadleuol yn Stadiwm Dinas Caerdydd y mae Cymru wedi colli 2, 8 gêm gyfartal ac ennill 15.

Record Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd –        Ch 42 / E 22 / Cyf 12 / Colli 8 – 57 gôl / ildio 31

 

Cymru v Awstria

Y tro diwethaf i’r timau gwrdd fe enillodd Cymru 1-0 ym Medi 2017 diolch i ergyd hyfryd Ben Woodburn o tu allan i’r cwrt yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.

 

Record: Chwarae 10, Cymru’n ennill 3, colli 5 a 2 gêm gyfartal.

Er bod y record yn ffafrio Awstria ar y cyfan, Cymru sydd wedi ei chael hi orau o’r gemau diweddar.

Cymru’n ennill 2 allan o’r 3 gêm ddiwethaf gyda 1 gêm gyfartal yn y gêm olaf ond un.

 

Cymru v Awstria – rownd gynderfynol y gemau ail gyfle am le yng Nghwpan y Byd 2022 yn fyw ar S4C nos Iau 23 Mawrth am 7.20 gyda’r gic gyntaf am 7.45

 

 

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?