Sgorio yn fyw arlein (Facebook, YouTube a gwefan S4C Clic) o Barc Latham wrth i’r Drenewydd groesawu Caernarfon yn ail rownd gemau’r tymor.
Met Caerdydd v Hwlffordd | Mawrth – 7.45
Bydd Met Caerdydd yn croesawu Hwlffordd i Gampws Cyncoed ar gyfer eu gêm gyntaf gartref o’r tymor ar ôl curo Aberystwyth ar Goedlan y Parc ddydd Sadwrn.
Sgoriodd Oliver Hulbert ddwy yn ei ymddangosiad cyntaf dros y Myfyrwyr yn y fuddugoliaeth 2-3 dros Aber ar ôl arwyddo ar fenthyg o Bristol Rovers.
Mae’r newydd ddyfodiaid Hwlffordd eto i chwarae’r tymor yma ar ôl i’r gêm yn erbyn Derwyddon Cefn cael ei ohirio – felly dyma yw gêm gynta’r Adair Gleision yn ôl yn yr Uwch Gynghrair ers 2015.
Llwyddodd Hwlffordd i ennill dyrchafiad o’r Cymru South y tymor diwethaf ar ôl gorffen yn yr ail safle, gydag enillwyr y gynghrair, Prifysgol Abertawe yn methu sicrhau trwydded i chwarae yn yr Uwch Gynghrair.
Y Drenewydd v Caernarfon | Mawrth – 7.45 (yn fyw arlein)
Ar ôl y siom o golli yn erbyn y newydd ddyfodiaid Y Fflint (1-0) dros y penwythnos, bydd tîm Chris Hughes yn croesawu Caernarfon i Barc Latham yn fyw ar lwyfannau arlein Sgorio (Facebook, Youtube).
Roedd gan y Robiniaid record dda gartref y tymor diwethaf, gan golli dim ond tri o’u 12 gêm gynghrair gartref ( v YSN, Y Barri a’r Bala) wrth i’r clwb orffen y tymor yn y chweched safle.
Mae’r rheolwr Chris Hughes wedi cryfhau’r garfan yn sylweddol dros yr haf, gyda James Davies yn ymuno o Derwyddon Cefn, Jake Phillips a Jordan Evans yn arwyddo o Airbus UK a’r ymosodwr Jamie Breese yn dychwelyd i’r clwb ar ôl ei amser gyda Caernarfon.
1-1 oedd hi ar Yr Oval prynhawn Sadwrn gyda Mike Hayes yn achub pwynt i Gaernarfon ar ei ymddangosiad cyntaf dros y clwb.
Dyma tymor cyntaf llawn Huw Griffiths fel rheolwr ar Gaernarfon ar ôl ymuno ym mis Chwefror, gyda’r clwb yn gorffen eu hail dymor yn ôl yn yr Uwch Gynghrair yn y 5ed safle.
Llwyddodd Caernarfon i guro’r Drenewydd ddwywaith ar Yr Oval y tymor diwethaf, gyda’r Drenewydd yn ennill o 3-1 ar Barc Latham.
Penybont v Aberystwyth Town | Mawrth 7.45
Dechrau da i Ben-y-bont ar ddiwrnod agoriadol y tymor gyda Mael Davies yn sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf i’r glwb gyda’r tîm yn sicrhau pwynt ar yr Oval mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Caernarfon.
Ar ôl gorffen eu tymor cyntaf un safle uwchben safleoedd y cwymp, bydd rheolwr Pen-y-bont, Rhys Griffiths yn gobeithio sefydlu’r tîm fel clwb sy’n brwydro am le yn y gemau ail gyfle.
Mae Griffiths wedi arwyddo’r ymosodwr addawol Sam Snaith ar gyfer y tymor newydd, sgoriodd 6 gôl i Met Caerdydd yn nhymor 2018/19, gyda cyn golwr Y Bala a Cymru C, Ashley Morris hefyd yn arwyddo i’r Bont.
Diwrnod agoriadol siomedig i Aberystwyth gan golli 2-3 ar Goedlan y Parc i Met Caerdydd.
Gavin Allen sy’n cymryd yr awenau ar gyfer y tymor yma. Yn gyn is-reolwr i Neville Powell a Matthew Bishop, sgoriodd 93 gôl gynghrair yn ei amser fel chwaraewr i Aber, ac mae’r haf wedi bod yn un prysur iddo.
10 chwaraewr yn ymuno â’r garfan, gan gynnwys Gwion Owen o Ruthun, Owain Jones o Merthyr a George Harry o’r Drenewydd.
Enillodd Pen-y-bont y gêm ddiwethaf rhwng y clybiau, Lewis Harling yn sgorio unig gôl y gêm ar Goedlan y Parc yn ôl ym mis Chwefror.
Uchafbwyntiau’r gemau ar Mwy o Sgorio nos Fercher am 10.