S4C

Navigation

Mewn seremoni ym mhencadlys Uefa yn Zurich prynhawn Llun, 7 Rhagfyr cafodd gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 eu dethol.

Bydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg, Y Weriniaeth Tsiec, Belarws ac Estonia yng nghrŵp E am le yn y gystadleuaeth sy’n cael ei gynnal yn Quatar rhwng 21 Tachwedd a 18 Rhagfyr 2022.

Bydd y gemau rhagbrofol yn cael eu chwarae rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd 2021, gydag enillwyr y grŵp yn camu ymlaen i gystadlu yng Nghwpan y Byd 2022, gyda’r timau yn yr ail safle yn ennill lle yn y gemau ail gyfle.

Dywedodd rheolwr dros dro Cymru, Robert Page y bydd timau eraill yn ‘parchu’ Cymru am eu llwyddiannau diweddar – gyda Chymru heb golli yn eu 11 gêm gystadleuol ddiwethaf.

 

Cyfweliad fideo gyda Robert Page

Cynghrair y Cenhedloedd a’r gemau ail gyfle

Gan y bod Cymru wedi ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd mae posibilrwydd y bod Cymru yn gallu cyrraedd y gemau ail gyfle oherwydd hyn.

Bydd dau o’r enillwyr grŵp gorau o Gynghrair y Cenhedloedd sydd ddim yn ennill lle i Gwpan y Byd 2022 drwy ennill eu grŵp rhagbrofol, neu’n gorffen yn yr ail safle – yn ymuno â’r 10 tîm sydd yn y gemau ail gyfle.

Felly, y bydd 12 tîm yn cystadlu yn y gemau ail gyfle gyda thri lle yn y brif gystadleuaeth ar gael.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Can't find what you're looking for?