Dylan sy’n trafod y tymor, effaith pandemig Covid-19 ar y gêm ddomestig a’r datblygiadau i ddod…
Blog Diwedd Tymor Dylan Ebenezer
Dyna ni, mae’r tymor ar ben yng Nghymru. Doedd dim chwiban olaf, dim drama a thensiwn ar y cae, ond roedd dal ychydig o ddrama oddi ar y cae.
Daeth datganiad syml ond pellgyrhaeddol i gadarnhau’r hyn roedd llawer yn ei ddisgwyl ers wythnosau: roedd rhaid gorffen y tymor yn gynnar.
Mae yna gwestiynau mawr yn parhau, yn bennaf o gwmpas esgyn a disgyn o’r gwahanol gynghreiriau, ond dewch i ni ganolbwyntio ar y ffeithiau yn gyntaf.
Cei Connah yw’r pencampwyr – llongyfarchiadau enfawr i’r Nomadiaid. Dyma’r tro cyntaf i’r clwb sicrhau’r bencampwriaeth a’r tro cyntaf i ni weld enw gwahanol ar y cwpan ers 2011.
Mae rhediad rhyfeddol Y Seintiau Newydd ar ben ar ôl ennill 8 yn olynol.
A hyd yn oed gyda’r tabl terfynol yn cael ei benderfynu o ran pwyntiau fesul gêm, does neb yn gallu dadlau.
Mae’r Nomadiaid wedi bod yn gwbl ddigyfaddawd. Tîm sydd wedi eu llunio o natur gystadleuol eu rheolwr.
Pan ddaeth Andy Morrison i Lannau Dyfrdwy yn Nhachwedd 2015, roedd y clwb ar y ffordd allan o’r gynghrair.
Erbyn diwedd y tymor cyntaf, roedden nhw’n Ewrop. Ac erbyn hyn maen nhw wedi bod yn Ewrop bedair gwaith, gan ennill yn Norwy, Y Ffindir ac wrth gwrs yn erbyn cewri Kilmarnock. Pan fydd y cyfan yn dychwelyd, mae antur arall ar y gorwel yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Maen nhw wedi codi Cwpan Cymru, a chyn sicrhau’r bencampwriaeth roedden nhw eisoes wedi ennill Cwpan Nathaneil MG y Gynghrair tymor yma. Dwbl ar Lannau Dyfrdwy.
Mae hi’n hawdd beirniadu’r steil o chwarae, ond mae hi’n anodd i’w stopio nhw.
O ran gweddill y gynghrair, daeth cadarnhad bod Y Seintiau Newydd a’r Bala yn cynrychioli Cymru yng Nghynghrair Europa. Y Seintiau ar ôl gorffen yn ail gyda’r Bala yn cymryd y lle oedd wedi ei neilltuo ar gyfer enillwyr y gemau ail gyfle.
Bydd Y Barri hefyd yn y gystadleuaeth yna ar ôl penderfynu gohirio Cwpan Cymru JD.
Dyma’r penderfyniad mwyaf anodd mae hi’n siŵr.
Y broblem oedd bod angen i’r Gymdeithas roi eu cynllun am sut i setlo’r tymor gerbron UEFA erbyn y 25ain o Fai. Ac os mae’r penderfyniad oedd cadw’r lle Ewropeaidd ar gyfer enillwyr Cwpan Cymru, yna byddai rhaid setlo hynny ar y cae cyn yr 20fed o Orffennaf.
Ar ôl trin a thrafod, penderfynwyd nad oedd hynny’n bosib o dan yr amgylchiadau presennol.
Newyddion da i’r Barri. Ond ergyd fawr i glybiau fel Caernarfon a Met Caerdydd. Y ddau glwb wedi colli dau gyfle i gyrraedd Ewrop, drwy’r cwpan a’r gemau ail gyfle.
Gobeithio bydd modd gorffen y cwpan cyn dechrau’r tymor nesaf, ond bydd dim lle yn Ewrop i’r enillwyr.
Roedd yna newyddion da hefyd i Glwb Merched Dinas Abertawe sydd wedi ennill y gynghrair a sicrhau lle yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Ac mae rhaid dathlu llwyddiant Chris Venables – fe sydd wedi cipio’r Esgid Aur yng Nghymru am y pedwerydd tro. Mae’n gamp enfawr o ystyried y bydd yn 35 oed haf yma, ond mae wedi bod yn gampus tymor yma gan sgorio 20 gôl i’r Bala.
Llongyfarchiadau mawr hefyd i Brifysgol Abertawe a Phrestatyn am ennill Cynghreiriau’r De a Gogledd.
A dyma le mae pethau’n mynd yn gymhleth eto. Mae’r ddau glwb wedi methu sicrhau trwydded i chwarae yn yr Uwch Gynghrair, felly byddan nhw ddim yn esgyn. Ond mae Prestatyn yn ystyried cymryd camau pellach – dyw’r stori ddim ar ben eto.
Mewn tymor arferol, mi fyddai’r clybiau sy’n ail yn cael esgyn ac mae Hwlffordd yn y De a’r Fflint yn y Gogledd wedi sicrhau’r drwydded angenrheidiol.
Bydd y ddau glwb o’r is-adrannau, yn ogystal ag Airbus a Chaerfyrddin, y timau’n y ddau safle isaf yn yr Uwch Gynghrair, yn gwylio a gweddïo nes daw’r cyhoeddiad nesaf.
Mae llawer yn cynnig y syniad o gynyddu’r gynghrair i 14 clwb am y tro, gyda dau yn esgyn a neb yn disgyn. Ond mi fydd y penderfyniadau yma yn effeithio’r holl gynghreiriau yn y pyramid pêl droed.
Mae hi fel gêm fawr o ‘Jenga’: tynnwch y darn anghywir ac fe allai’r pyramid cyfan ddymchwel yn ddisymwth.