Mae Andy Morrison wedi ymddiswyddo fel rheolwr Cei Connah ar ôl cyfnod o chwe blynedd wrth y llyw.
Yn ei gyfnod fel rheolwr llwyddodd i sicrhau pêl-droed Ewropeaidd am y tro cyntaf yn hanes Cei Connah, codi tlws Cwpan Cymru ac ennill y Bencampwriaeth ar ddau achlysur.
Dyma gyfnod mwyaf llewyrchus yn hanes y Nomadiaid – gydag Andy Morrison yn arwain y clwb i bum tlws a saith rownd derfynol.
Fe lwyddodd Cei Connah i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Her Yr Alban yn 2019 – y clwb cyntaf o du allan i’r Alban i gyrraedd y rownd derfynol.
O dan arweiniad Morrison fe lwyddodd Cei Connah i sicrhau buddugoliaethau cofiadwy yn Ewrop gan guro Stabæk o Norwy yn 2016, a Kilmarnock o Uwch Gynghrair Yr Alban yn 2019.
Amserlen Andy Morrison fel rheolwr Cei Connah