Sgorio yn dangos gêm rhwng dau dîm gorau Cymru ar benwythnos agoriadol yr Adran Premier Genero.
Bydd y gêm fawr rhwng Met Caerdydd ac Abertawe ar benwythnos agoriadol y tymor newydd Adran Premier Genero i’w gweld yn fyw ar S4C.
Bydd Sgorio yn darlledu yn fyw o Stadiwm Cyncoed ar ddydd Sul 5 Medi wrth i’r pencampwyr ymweld â’r tîm ddaeth yn ail yn y gynghrair y tymor diwethaf. Bydd y rhaglen yn cychwyn am 4.10yh, yn dilyn y gêm ryngwladol rhwng tîm dynion Belarws a Chymru, gyda’r gic gyntaf am 4.15yh.
Sioned Dafydd fydd yn arwain y tîm cyflwyno, gyda sylwadau arbennig gan chwaraewr Cymru a Reading, Natasha Harding, a’r hyfforddwraig Nia Davies. Bydd Gabriella Jukes yn ohebydd a’r cyn-chwaraewr rhyngwladol Kath Morgan yn ymuno â Mike Davies yn y blwch sylwebu, gyda sylwebaeth Saesneg i’w gael hefyd.
Meddai Sioned Dafydd: “Am ffordd i ddechrau’r tymor. Met Caerdydd ac Abertawe sydd wedi arwain y gynghrair dros y blynyddoedd diwethaf, ac mi fyddan nhw’n debygol o gystadlu am y bencampwriaeth eto eleni – er bod Caerdydd yn cau’r bwlch ar y ddau uchaf.
“Mae’r gemau yma yn nodweddiadol o rai rhwng timoedd Aberta
we a Chaerdydd; gemau agos, cyffrous a chorfforol iawn, gyda lot o dacls yn mynd i mewn. Gobeithio gwelwn ni gêm gyffrous arall a gweld y tymor yn parhau yn yr un modd hefyd.”
Unwaith eto, bydd Sgorio yn dilyn y gynghrair drwy gydol y tymor, drwy ddangos uchafbwyntiau o un gêm o’r gynghrair bob wythnos. Bydd yr uchafbwyntiau i’w gweld ar raglen uchafbwyntiau Sgorio, am 5.30yh bob nos Lun, ac ar gyfryngau cymdeithasol @sgorio.
Hefyd ar gyfer y tymor newydd, bydd Sgorio yn lansio podlediad fideo newydd, o’r enw Gwennan a Sioned yn Siarad Ffwtbol, sydd yn canolbwyntio ar bêl-droed merched. Sioned Dafydd a chyn-chwaraewr Cymru, Gwennan Harries, yw cyflwynwyr y podlediad. O’r gêm ryngwladol i’r Cynghreiriau Adran Cymru, bydd Siarad Ffwtbol yn adrodd y straeon diweddaraf ym myd pêl-droed merched, bob pythefnos.
Meddai Gwennan Harries: “Bydd Siarad Ffwtbol yn gosod sylfaen i’r gynghrair newydd, a hefyd y pêl-droedwyr sydd yn cystadlu yn Lloegr, ar draws y byd, ac ar lawr gwlad yma yng Nghymru.
“Mae’n gyfnod cyffrous achos mae pêl-droed merched wedi cael boom mawr dros y tair, pedair blynedd diwethaf, gyda mwy o blant ifanc yn chwarae a mwy o ddiddordeb yn y gêm ryngwladol. Gobeithio bydd hwn yn ffynhonnell o wybodaeth i ferched a bechgyn ifanc. Fel cyn-chwaraewr ac athrawes hefyd, mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi’r cyfle i fodelau rôl gael eu gweld yn gyson. Rhoi cyfleoedd i ferched ifanc yw’r peth pwysicaf i mi, cyfleodd iddyn nhw chwarae, gwylio gemau, dyfarnu a hyfforddi , ond hefyd rhoi cyfleoedd i’r chwaraewyr i gael mwy o’r sylw maen nhw’n haeddu.”
Bydd Siarad Ffwtbol yn cael ei rhyddhau ar gyfryngau @sgorio bob pythefnos. I dderbyn holl gynnwys Sgorio, dilynwch @sgorio ar Twitter, Facebook, Instagram ac YouTube.
Sgorio: Met Caerdydd v Abertawe
Dydd Sul 5 Medi, 4.10yh
Sylwebaeth ac Is-deitlau Saesneg ar gael
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C