S4C

Navigation

Sgorio sy’n rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Matthew Turner – Hwlffordd

Fe ymunodd y golwr 18-oed â Hwlffordd ar fenthyg o Leeds United fis diwethaf. Fe wnaeth sawl arbediad o safon i nadu’r Fflint ar Gae’r Castell brynhawn Sadwrn.

Llwyddod i atal ergyd o bell gan Rob Hughes i gadw’r ymwelyr ar y blaen wedi 88 munud. Llechen lân a buddugoliaeth ar ymddangosiad
cyntaf campus i’r gwr o Lanelli.

Sean Smith – Y Bala

Roedd gwledd o goliau ar Faes Tegid nos Sadwrn! Serennodd Sean Smith i’r Bala, yn sgorio’r ail ac yn creu’r bumed wrth i dîm Colin Caton sicrhau buddugoliaeth gymharol gyffyrddus o 5-2 yn erbyn Aberystwyth.

Aeth Bala ar y blaen o 2-1 toc cyn yr egwyl – cic hir Ramsay, peniad Will Evans a Smith yn gorffen i sgorio ei gôl gyntaf yn y gynghrair ers Rhagfyr 2018.

Yna, Venables yn taro ddwywaith cyn i Raul Correia rwydo’r bumed gyda pheniad crefftus i’r gornel isaf o groesiad Smith.

Priestley Farquharson – Cei Connah

Yn ogystal â rhwydo ddwywaith yn erbyn y Cofis ganol wythnos, fe sgoriodd Farquharson eto brynhawn Sadwrn – peniad nerthol i unioni’r sgôr gyda chwta chwarter awr yn weddill.

Parhau i greu hafoc yng nghwrt cosbi Met wnaeth yr amddiffynnwr ifanc – ei gryfder a’i bresenoldeb yn arwain at gôl ddau funud o’r diwedd a gôl Craig Curran yn cipio’r triphwynt.

Holly Hughes – Cascade

Roedd Holly Hughes yn ddraenen yn ystlys Aberystwyth drwy gydol y gêm, yn sgorio un ac yn creu’r ail i sicrhau buddugoliaeth gyntaf erioed yn y gynghrair i ferched Caerffili.

Fe sgoriodd ei gôl gyntaf i Cascade brynhawn Sadwrn – chwarae gwych gan Abbie Davies a Hughes yn canfod cefn y rhwyd i ddod a’r gêm yn gyfartal.

Roedd yng nghanol y cyfan gyda’r ail – yn twyllo amddiffynwyr Aberystwyth cyn croesi’r bêl i Sophie Hamer yn y cwrt cosbi a’r ymwelwyr yn cipio’r triphwynt.

Louis Robles – Y Seintiau Newydd

Rhediad y Seintiau heb golli yn parhau ar ôl buddugoliaeth gyffyrddus o 0-4 ym Mhen-y-bont brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd y blaenwr Louis Robles ddwy gôl yn gynnar yn yr hanner cyntaf, cyn dod yn agos i rwydo trydedd toc cyn yr egwyl, ond i’r bêl wibio dros y bar.

Fe aeth yr ymwelwyr ymhellach ar y blaen gyda Greg Draper yn rhwydo dwy ar ddechrau’r ail hanner.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?