Hanner ffordd at yr hollt yn y gynghrair ac mae’r Seintiau Newydd yn parhau’n ddi-guro, gyda’r pencampwyr chwe phwynt yn glir ar frig y tabl.
Bydd dwy gêm ddarbi yn cael ei chynnal yn Sir y Fflint nos Wener gyda Cei Connah yn herio’r Fflint, a Treffynnon yn croesawu Airbus.
Ac yn y Chwech Uchaf, mi fydd yna ornest atyniadol yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dragonbet gyda’r Cofis yn teithio i wynebu Pen-y-bont.
Nos Wener, 6 Tachwedd
Cambrian (9fed) v Y Barri (6ed) | Nos Wener – 19:45
Ar ôl colli pedair gêm gynghrair yn olynol, mae Cambrian mewn perygl o lithro lawr i’r Chwech Isaf.
Mae tîm Liam Williams wedi ildio cyfartaledd o 3.4 gôl y gêm oddi cartref, tra’n ildio llai na hanner hynny yn eu gemau cartre’n y Rhondda (1.6 gôl y gêm).
Yn dilyn triphwynt yn erbyn Trefelin y penwythnos diwethaf, bydd Y Barri’n gobeithio sicrhau dwy fuddugoliaeth yn olynol am y tro cyntaf ers mis Awst.
Mae’r Barri wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Cambrian, yn cynnwys buddugoliaeth hwyr ar Barc Jenner ar benwythnos agoriadol y tymor hwn (Barr 2-1 Cam).
Record cynghrair diweddar:
Cambrian: ͏✅❌❌❌❌
Y Barri: ͏❌✅❌❌✅
Cei Connah (2il) v Y Fflint (13eg) | Nos Wener – 19:45
Llwyddodd Cei Connah i ddod â rhediad Y Seintiau Newydd o 14 buddugoliaeth yn olynol i ben gyda gêm ddi-sgôr yn Neuadd y Parc ar noson Calan Gaeaf.
Mae’r canlyniad hwnnw’n golygu bod y Nomadiaid yn aros chwe phwynt y tu ôl y ceffylau blaen wedi i dîm John Disney ennill chwe gêm gynghrair o’r bron cyn eu taith i Groesoswallt.
Dyw Cei Connah heb golli yn eu saith gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 6, cyfartal 1), gan ildio dim ond dwy gôl yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae amddiffyn cryf wedi bod yn blatfform amlwg i ganlyniadau’r Fflint hefyd ers penodiad eu rheolwr newydd, gyda’r Sidanwyr yn ildio dim ond unwaith mewn pum gêm gynghrair ers i Danny Holmes gymryd yr awennau.
Dyw’r Fflint m’ond wedi ennill un o’u 18 gêm ddarbi ddiwethaf yn erbyn Cei Connah, gyda’r Nomadiaid yn ennill y bedair ornest ddiweddaraf.
Callum West oedd yr arwr i Gei Connah yn y gêm gyfatebol ym mis Awst, yn sgorio ddwywaith i’r Nomadiaid, yn cynnwys gôl ryfeddol o’r cylch canol (Ffl 1-2 Cei).
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ͏✅✅✅✅➖
Y Fflint: ͏✅✅❌✅✅
Hwlffordd (11eg) v Met Caerdydd (8fed) | Nos Wener – 19:45
Wedi tair buddugoliaeth o’r bron ym mhob cystadleuaeth, bydd Hwlffordd yn anelu i barhau â’r rhediad da er mwyn dringo allan o’r Chwech Isaf am y tro cyntaf y tymor yma.
Dyw Met Caerdydd m’ond wedi ennill dwy o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf, ond mae carfan Ryan Jenkins wedi bod yn gryf oddi cartref gan ildio cyfartaledd isel o 0.7 gôl yn eu gemau oddi cartref.
Sgoriodd Sam Snaith yr unig gôl i’r myfyrwyr yn y gêm gyfatebol ym mis Medi wrth i Met Caerdydd sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf mewn 11 gêm gynghrair yn erbyn Hwlffordd.
Dyw Met Caerdydd heb ennill gêm gynghrair oddi cartref ar Ddôl y Bont ers Ebrill 2022 pan sgoriodd Kyle McCarthy y gôl fuddugol i’r myfyrwyr gydag ergyd arbennig a chafodd ei dewis fel Gôl y Tymor 2021/22 (Hwl 1-2 Met).
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ͏❌❌❌✅✅
Met Caerdydd: ͏✅✅❌➖❌
Llandudno (10fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45
Mae’n argoeli i fod yn noson anodd i Landudno, sydd wedi colli eu chwe gêm gynghrair ddiwethaf.
Enillodd Llandudno bump o’u saith gêm agoriadol, ond mae tîm Jordan Hadaway wedi stryffaglu ers hynny gan gasglu dim ond un pwynt o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf, a sgorio dim ond un gôl mewn pedair gêm gynghrair.
Mae’r Seintiau Newydd yn parhau chwe phwynt yn glir ar frig y tabl, ac yn dal yn ddi-guro yn dilyn eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Cei Connah ar noson Calan Gaeaf.
Honno oedd 10fed llechen lân Nathan Shepperd mewn 15 gêm gynghrair y tymor hwn, a dyw’r Seintiau m’ond wedi ildio chwe gôl hyd yma (0.4 gôl y gêm).
Mae’r clybiau wedi cyfarfod ar 16 achlysur, ac mae’r Seintiau wedi ennill 15 o’r gemau rheiny a chael un gêm gyfartal, felly dyw Llandudno erioed wedi curo cewri Croseoswallt.
Record cynghrair diweddar:
Llandudno: ͏❌❌❌❌❌
Y Seintiau Newydd: ͏͏✅✅✅✅➖
Pen-y-bont (3ydd) v Caernarfon (4ydd) | Nos Wener – 19:45
Mae Pen-y-bont wedi ennill wyth o’u naw gêm ddiwethaf, ac yn cadw’n dynn ar sodlau’r ddau uwch eu pennau, sef Cei Connah a’r Seintiau Newydd.
Hawliodd Pen-y-bont eu buddugoliaeth fwyaf erioed oddi cartref yn y Cymru Premier ddydd Sadwrn diwethaf drwy drechu Met Caerdydd o 0-5 ar Gampws Cyncoed, gyda Tom Mehew yn serennu i’r Bont drwy sgorio hatric.
Bydd Caernarfon yn siomedig o fod wedi colli yn erbyn Airbus nos Wener diwethaf, ac hynny am y tro cyntaf ers 2009, felly bydd Richard Davies yn disgwyl ymateb gan ei garfan.
Dyw Pen-y-bont heb golli dim un o’u pum gêm gartref yn y gynghrair y tymor yma (ennill 5, cyfartal 2), ond does dim un tîm wedi ennill mwy o bwyntiau oddi cartref na Chaernarfon (17pt).
Pen-y-bont oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ar yr Oval ym mis Awst (Cfon 1-2 Pen), diolch i goliau Tom Mehew a Ryan Hill.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏✅✅❌✅✅
Caernarfon: ͏➖❌✅✅❌
Rhydaman (14eg) v Llansawel (12fed) | Nos Wener – 19:45
Mae yna dorf dda o dros fil o gefnogwyr wedi heidio i wylio’r ddwy ornest ddiwethaf rhwng y timau yma, ac mi fydd hi’n frwydr ddifyr arall rhwng Rhydaman a Llansawel yn y Chwech Isaf nos Wener.
Dyw Rhydaman m’ond wedi ennill un o’u saith gêm gartref yn y gynghrair y tymor yma, tra bo Llansawel m’ond wedi ennill un mewn wyth oddi cartref.
Gyda dim ond un gôl yn eu tair gêm gynghrair ddiwethaf, mae angen i Rhydaman ddechrau tanio, a bydd hynny’n anoddach eto ar ôl i’w prif sgoriwr, Jonathan Evans gael ei hel o’r maes yn erbyn Hwlffordd nos Wener.
Ollie Anderson ddaeth i’r adwy i Lansawel yn y gêm gyfatebol ar benwythnos agoriadol y tymor, yn sgorio ddwywaith i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Cochion (Lls 2-1 Aman).
Record cynghrair diweddar:
Rhydaman: ͏❌✅✅❌❌
Llansawel: ͏➖✅❌❌✅
Trefelin (15fed) v Bae Colwyn (5ed) | Nos Wener – 19:45
Does neb wedi sgorio llai o goliau na Trefelin y tymor hwn (8 gôl mewn 15 gêm), ac mae’r newydd-ddyfodiaid yn dal yn safleoedd y cwymp ar ôl ennill dim ond unwaith hyd yma.
Mae Bae Colwyn wedi ennill saith o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf, ond dyw’r Gwylanod heb fod ar eu gorau oddi cartref, yn ennill dim ond dwy mewn saith ar eu teithiau.
Trefelin sydd â’r record gartref waetha’n y gynghrair ar ôl sicrhau dim ond un pwynt mewn saith gêm gartref gan sgorio dwy gôl yn unig.
Sgoriodd Jordan Davies ac Adam Davies i Fae Colwyn yn y gêm gyfatebol ar benwythnos agoriadol y tymor i hawlio’r triphwynt i dîm Michael Wilde (Bae 2-0 Tfl).
Record cynghrair diweddar:
Trefelin: ͏❌❌✅❌❌
Bae Colwyn: ͏✅❌✅➖✅
Treffynnon (16eg) v Airbus UK Brychdyn (7fed) | Nos Wener – 19:45
Mae tymor truenus Treffynnon yn parhau gyda’r newydd-ddyfodiaid wedi sicrhau dim ond dau bwynt o’u 14 gêm hyd yma, ac yn dal i aros am eu buddugoliaeth gyntaf.
Mae Airbus, ar y llaw arall, yn hedfan tuag at y Chwech Uchaf ar ar ôl sicrhau pum buddugoliaeth yn eu chwe gêm gynghrair ddiwethaf.
Ar ôl curo’r Caneris nos Wener diwethaf, dim ond dau bwynt bellach sy’n gwahanu Airbus (7fed) a Chaernarfon (4ydd).
Sgoriodd George Peers ddwy gôl safonol yn erbyn y Cofis i’w godi’n glir ar frig rhestr prif sgorwyr y gynghrair gyda 16 gôl mewn 15 gêm.
Dyw Airbus m’ond wedi colli un o’u wyth gornest ddiwethaf yn erbyn Treffynnon (ennill 5, cyfartal 2), ac roedd y gêm gyfatebol yn un gyffrous ym mis Awst pan enillodd bechgyn Brychdyn o 6-2 ar y Maes Awyr.
Record cynghrair diweddar:
Treffynnon: ͏❌➖❌❌❌
Airbus UK: ͏❌✅✅✅✅




