Mae S4C wedi adnewyddu ei ymrwymiad i bêl-droed domestig am y tair mlynedd nesaf, gyda Sgorio yn parhau i ddarparu darllediadau am ddim o’r Novira Cymru Premier, Cynghreiriau’r Adran Genero, Cwpan Cymru a Chwpan Bute Energy.
Am y 19eg tymor yn olynol, Sgorio fydd cartref pêl-droed domestig yng Nghymru, gan gynnig dros 40 o gemau byw bob tymor o’r prif gystadlaethau cynghrair a chwpan, yn ogystal ag uchafbwyntiau, goliau, dadansoddiad a chynnwys ecsgliwsif ar draws llwyfannau darlledu, digidol a chyfryngau cymdeithasol.
Mae’r cytundeb yn sicrhau y bydd cefnogwyr yn parhau i fwynhau darllediadau byw o’r Novira Cymru Premier a Chynghreiriau’r Adran Genero, yn ogystal â gemau’r dynion a’r menywod o gystadlaethau Cwpan Cymru, gan gynnwys y ddwy gêm derfynol. Bydd yr holl ddarllediadau ar gael am ddim, gyda Sgorio yn parhau i fod yn gartref i bêl-droed domestig yng Nghymru.
Bydd gemau dethol o’r Novira Cymru Premier yn cael eu dangos yn fyw ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Sgorio, gyda phedair o’r wyth gêm gyntaf a ddewiswyd yn cael eu chwarae ar nosweithiau Gwener. Dyddiau Sadwrn fydd y diwrnod rheolaidd arall ar gyfer gemau Sgorio. Bydd y gemau ar gael gyda sylwebaeth Cymraeg a Saesneg ac mae’r tymor newydd yn cychwyn ar 31 Gorffennaf pan fydd Y Barri yn wynebu Cambrian yn y Novira Cymru Premier, yn fyw ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Sgorio.
Yng Nghynghreiriau’r Adran, mae Sgorio wedi cryfhau ei ymrwymiad i bêl-droed menywod drwy ddangos deg gêm yn fyw bob tymor, gan gynnwys y gemau gorau yn yr Adran Premier Genero, Tlws Adran Genero a Chwpan Bute Energy.
Yn ogystal â chynnwys digidol cynhwysfawr ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Sgorio a S4C Chwaraeon, gall ddilynwyr clybiau pêl-droed fwynhau tair mlynedd arall o’r gêm yng Nghymru, i gyd yn rhad ac am ddim.
Dywedodd Sue Butler, Pennaeth Chwaraeon S4C:
“Rydym yn falch iawn o barhau â’n partneriaeth hir sefydlog gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac o ymestyn ein darllediadau o bêl-droed domestig yng Nghymru i’w trydydd degawd, ar adeg gyffrous i’r cefnogwyr wrth i Uwch Gynghrair Cymru ehangu i gynnwys 16 clwb.
“Mae S4C wedi bod ar flaen y gad o ran darlledu pêl-droed domestig yng Nghymru ac yn parhau i fod y prif ddarlledwr sy’n dangos pêl-droed domestig Cymru ar deledu am ddim, gan ddod â’r holl gyffro byw, uchafbwyntiau a straeon o glybiau a chymunedau ledled Cymru i gefnogwyr.”




