Mae’r clybiau orffennodd yn y pedwar safle uchaf ym mhyramid Cymru y tymor diwethaf ar fin dechrau eu hantur Ewropeaidd.
Bydd Y Seintiau Newydd yn teithio i Azerbaijan ar gyfer y cymal cyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr, tra bydd Cei Connah, Caernarfon a Pen-y-bont i gyd yn chwarae gartref yr wythnos hon.
Sabah (Azerbaijan) v Y Seintiau Newydd | Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf – 17:00
(Bank Respublika Arena, Masazir – Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cynghrair y Pencampwyr 2026/27)
Ar ôl sicrhau pencampwriaeth y Cymru Premier JD am y 18fed tro yn eu hanes, ac am y pumed tymor yn olynol, bydd cewri Croesoswallt yn teithio i Masazir i wynebu pencampwyr Azerbaijan, Sabah yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr.
Y Seintiau Newydd yw clwb mwyaf llwyddiannus Cymru yn Ewrop gan i’r tîm o Groesoswallt chwarae’n gyson ar y cyfandir ers 1996.
Llwyddodd y Seintiau i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol am y tro cyntaf erioed yn 2024 a chystadlu yn rownd y gynghrair Cyngres UEFA ble chwaraeon nhw yn erbyn Panathinaikos a Fiorentina.
Ond doedd yr ymgyrch ddiwethaf ddim mor llwyddiannus gyda’r Seintiau’n methu ag ennill dim un o’u pedair gêm Ewropeaidd yn 2025 (cyfartal 1, colli 3).
Eleni, bydd y Seintiau yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Sabah, clwb sydd m’ond yn bodoli ers naw mlynedd, ac sydd wedi ennill pencampwriaeth Azerbaijan am y tro cyntaf erioed y tymor diwethaf gan orffen naw pwynt uwchben Qarabag, a oedd wedi ennill 11 o’r 12 pencampwriaeth blaenorol.
Mae Sabah wedi cyrraedd Ewrop am y pedwerydd tymor o’r bron gan ennill tair o’u saith rownd ragbrofol hyd yma, ond dyw’r clwb erioed wedi mynd heibio’r drydedd rownd ragbrofol.
Mae Craig Harrison wedi cryfhau carfan y Seintiau drwy ail-arwyddo’r ymosodwr, Brad Young sy’n dychwelyd i’r clwb wedi dwy flynedd, ond dyw cyn enillydd yr Esgid Aur heb gael ei enwi yn y garfan swyddogol ar gyfer y gêm hon.
Un sydd wedi ei enwi’n y garfan yw Rhys Hughes, fydd yn gobeithio gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb ers ymuno o Gei Connah dros yr haf.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yng Nghroesoswallt ar nos Fawrth, 14 Gorffennaf.
Bydd enillwyr y rownd hon yn wynebu Vardar (Gog. Macedonia) neu KuPS (Y Ffindir) yn yr ail rownd ragbrofol, tra bydd y collwyr yn syrthio i Gyngres UEFA i herio Flora Tallinn (Estonia) neu Iberia Tbilisi (Georgia).
Record YSN yn Ewrop:
Rowndiau: 52 (ennill 12, colli 40) / Gemau: 96 (ennill 20, cyfartal 16, colli 60)
Tro diwethaf: (2025/26) Colli eu dwy rownd llynedd. Colli wedi amser ychwanegol yn erbyn Shkëndija yng Nghynghrair y Pencampwyr (1-2 dros y ddau gymal) cyn colli’n erbyn Differdange yng Nghyngres UEFA (0-2 dros y ddau gymal).
FC Ballkani (Cosofo) v Cei Connah | Nos Fercher, 8 Gorffennaf – 18:30
(Ffordd Llanelian, Bae Colwyn – Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres UEFA 2026/27)
Am yr eildro mewn pum mlynedd bydd Cei Connah yn dychwelyd i Gosofo ar gyfer gêm Ewropeaidd.
Collodd Cei Connah o 5-6 yn erbyn Prishtina yn 2021/22, a bydd y Nomadiaid yn gobeithio am well canlyniad yn erbyn FC Ballkani y tymor hwn.
Sefydlwyd FC Ballkani yn 1947, ond daeth eu hymddangosiad cyntaf yn Ewrop ddim tan tymor 2022/23.
Ers hynny, mae’r clwb wedi chwarae 38 gêm yn Ewrop mewn dim ond pedair mlynedd, gan llwyddo i fynd heibio rowndiau rhagbrofol Cyngres UEFA ar ddau achlysur, yn 2022/23 a 2023/24.
FC Ballkani oedd y clwb cyntaf o Gosofo i fynd heibio rowndiau rhagbrofol Ewrop, ond tydyn nhw erioed wedi wynebu tîm o Gymru yn y gorffennol.
Mae’r Nomadiad hefyd yn hen bennau ar gystadlu’n Ewrop bellach ar ôl chwarae 22 gêm a churo pump, gan gamu ‘mlaen ar ddau achlysur yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Stabaek yn 2016/17 a Kilmarnock yn 2019/20.
Mi fydd hi’n dipyn o her i reolwr Cei Connah, John Disney, yn ei ymgyrch Ewropeaidd cyntaf fel rheolwr, a bydd yn gobeithio y gall ei ddau flaenwr newydd greu argraff sef Hussein Mehasseb sydd wedi ymuno o’r Bala, a Darren Stephenson sy’n ymuno o’r Fflint.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Stadiwm Fadil Vokrri, Pristina ar nos Iau, 18 Gorffennaf gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu unai Bohemians (Iwerddon) neu St Joseph’s (Gibraltar) yn ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA.
Record Cei Connah yn Ewrop:
Rowndiau: 12 (ennill 2, colli 10) / Gemau: 22 (ennill 5, cyfartal 2, colli 15)
Tro diwethaf: (2024/25) Colli wedi amser ychwanegol yn erbyn Bravo (1-2 dros ddau gymal).
Caernarfon v Levadia Tallinn (Estonia) | Nos Iau, 9 Gorffennaf – 18:30
(Yr Oval, Caernarfon – Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres UEFA 2026/27)
Mae Caernarfon wedi cyrraedd Ewrop am yr eildro yn eu hanes ar ôl codi Cwpan Cymru am y tro cyntaf erioed y tymor diwethaf.
Roedd hi’n achlysur arbennig i Gaernarfon yn haf 2024 pan enillon nhw eu gornest Ewropeaidd gyntaf yn erbyn Crusaders o Ogledd Iwerddon, cyn colli’r ail rownd ragbrofol yn erbyn cewri Gwlad Pwyl, Legia Warsaw.
A bydd hi’n ddigwyddiad hanesyddol arall i’r Cofis eleni, gan y bydd y clwb yn chwarae eu gemau Ewropeaidd gartref ar yr Oval am y tro cyntaf yn dilyn gwaith adnewyddu sylweddol ar y maes dros y flwyddyn diwethaf.
O ran y gwrthwynebwyr, mae gan Levadia Tallinn ddigonedd o brofiad Ewropeaidd ar ôl chwarae 44 o gemau’n Ewrop ers eu hymddangosiad cyntaf yn 1999, gan ennill 14 o rheiny (ennill 32%) gyda’r fuddugoliaeth gyntaf yn dod yn erbyn Y Seintiau Newydd yn nhymor 2000/01.
Mae’r clwb wedi sicrhau pencampwriaeth Estonia ar 11 achlysur gyda’r diweddaraf yn dod yn 2024, ac mae’r nesaf yn agosau, gan eu bod 10 pwynt yn glir ar frig eu cynghrair ar hyn o bryd, ar ôl colli dim ond un o’u 19 gêm gynghrair y tymor hwn.
13 mlynedd ar ôl curo’r Seintiau Newydd fe lwyddodd Levadia i guro’r Bala yn Ewrop yn 2013/14 – a 13 mlynedd arall wedi hynny, bydd y tîm o Tallinn yn gobeithio dod ag anlwc i un arall o glybiau Cymru.
Ond er yr holl brofiad, dyw Levadia Tallinn erioed wedi mynd heibio’r rowndiau rhagbrofol yn Ewrop, a dyna fydd y nod i’r clwb eleni ar ôl cyrraedd y drydedd rownd ragbrofol y tymor diwethaf.
Mae Richard Davies wedi ychwanegu profiad i’w garfan gan arwyddo Jordan Piggott, Noah Edwards, Chris Marriott a Ben Nash, yn ogystal a denu Sion Bradley a Zack Clarke yn ôl i’r Oval.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn A. Le Coq Arena ar nos Iau, 16 Gorffennaf, gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu IFK Goteborg yn ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA.
Record Caernarfon yn Ewrop:
Rowndiau: 2 (ennill 1, colli 1) / Gemau: 4 (ennill 1, colli 3)
Tro diwethaf: (2024/25) Curo Crusaders ar g.o.s (3-3 dros ddau gymal) cyn colli yn erbyn Legia Warsaw (0-11 dros ddau gymal).
Pen-y-bont v Santa Coloma (Andorra) | Nos Iau, 9 Gorffennaf – 19:45
(Stadiwm Dinas Caerdydd – Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres UEFA 2026/27)
Mae Pen-y-bont yn paratoi am eu trydydd ymgyrch yn Ewrop ac hynny ar ôl trechu Hwlffordd yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ym mis Mai 2026.
Dyma’r eildro i’r timau yma gyfarfod yn Ewrop, gyda’r ornest gyntaf yn dod yn 2024, sef ymddangosiad cyntaf Pen-y-bont yn Ewrop, pan enillodd Santa Coloma’r ail gymal yn yr amser ychwanegol.
Bydd tîm Rhys Griffiths eisiau newid eu record yn Ewrop hyd yn hyn, gan nad yw’r clwb wedi ennill dim un o’u gemau tramor eto.
Yn eu dwy rownd Ewropeaidd hyd yma, mae Pen-y-bont wedi cael gemau cyfartal yn y cymal cartref, ond colli yn y cymal oddi cartref.
Mae gan Santa Coloma cryn dipyn o brofiad yn Ewrop – clwb mwyaf llwyddiannus yn holl hanes y Primera Divisio yn Andorra ar ôl ennill y bencampwriaeth ar 13 achlysur.
Er eu llwyddiant yn y gynghrair, dyw eu record Ewropeaidd heb fod cystal gyda Santa Coloma wedi ennill dim ond naw o’u 52 gêm yn Ewrop (17%) gan ennill chwech o’u 28 rownd.
Gorffenodd Santa Coloma yn 4ydd yn Primera Divisio 2025/26 ac mae eu carfan yn cynnwys chwaraewyr rhyngwladol: Moises San Nicolas (101 cap i Andorra) a Chus Rubio (58 cap, 1 gôl i Andorra).
Bydd cyfraniad yr arwyddiad newydd Ryan Hill yn hwb mawr i Ben-y-bont, gan i’r asgellwr sgorio naw gôl i Aldershot yn y Gynghrair Genedlaethol y tymor diwethaf, gan gipio gwobr Chwaraewr y Tymor i’r ‘Shots’ cyn symud i dde Cymru.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn yr Estadi Nacional yn Andorra ar nos Iau, 16 Gorffennaf a bydd yr enillwyr yn wynebu Rapid Wien (Awstria) yn ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA.
Record Pen-y-bont yn Ewrop:
Rowndiau: 2 (ennill 0, colli 2) / Gemau: 2 (cyfartal 2, colli 2)
Tro diwethaf: (2025/26) Colli yn erbyn Kauno Zalgiris (1-4 dros ddau gymal).




