Fuodd hi’n bythefnos siomedig i glybiau Cymru’n Ewrop wrth i’r Seintiau Newydd, Cei Connah, Pen-y-bont a Chaernarfon golli dros ddau gymal yn rownd rhagbrofol gyntaf Ewrop.
Cei Connah oedd yr unig un o’r pedwar tîm i beidio a cholli eu dwy gêm yn y rownd ragbrofol gyntaf gyda’r Nomadiaid yn cael gêm ddi-sgôr gartref yn erbyn Ballkani cyn colli o 3-2 yn yr ail gymal yn erbyn tîm orffennodd yn drydydd yn Uwch Gynghrair Cosofo y tymor diwethaf.
Roedd hi’n grasfa o 10-0 dros y ddau gymal i Gaernarfon yn erbyn y clwb sydd ar frig cynghrair Estonia, Levadia Tallinn.
Ac am yr eildro mewn tair blynedd fe gollodd Pen-y-bont yn erbyn Santa Coloma o Andorra (4-0 dros y ddau gymal).
Y Seintiau Newydd oedd y prif ddetholion yn eu gornest yn erbyn Sabah yn rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, ond y clwb o Azerbaijan orchfygodd dros y ddau gymal.
Mae’r Seintiau Newydd felly wedi disgyn i ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA i wynebu pencampwyr presennol Estonia, Flora Tallinn.
Flora Tallinn (Estonia) v Y Seintiau Newydd | Nos Iau, 23 Gorffennaf – 17:00
(A. Le Coq Arena, Tallinn – Cymal Cyntaf, Ail Rownd Ragbrofol Cyngres UEFA 2026/27)
Mae’r Seintiau Newydd wedi syrthio i rowndiau rhagbrofol Cyngres UEFA ar ôl colli o 4-1 dros ddau gymal yn erbyn pencampwyr Azerbaijan, Sabah yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghraif y Pencampwyr 2026/27.
Roedd hi’n gymal cyntaf caled yn Azerbaijan gyda’r Seintiau’n colli o 2-0, ac roedd yr ornest ar ben wedi i Sabah sgorio ddwywaith yn hanner cynta’r ail gymal yn Neuadd y Parc.
Daeth Josh Lock ymlaen yn yr ail hanner ar gyfer ei ymddangosiad cyntaf yn Ewrop a rhwydo gôl gysur yn y munudau olaf, ond roedd hi’n rhy hwyr i’r Seintiau sydd bellach ar rediad o naw gêm Ewropeaidd heb fuddugoliaeth (cyfartal 1, colli 8).
Yr her nesaf i’r Seintiau yw ceisio concro cewri Estonia, Floria Tallinn – clwb mwyaf llwyddiannus y wlad, a enillodd y bencampwriaeth am yr 16eg y tymor diwethaf.
Mae Meistriliiga Estonia yn gynghrair sy’n rhedeg drwy’r haf, ac mae Flora yn eistedd yn yr ail safle wedi 19 gêm gynghrair y tymor hwn, gyda’u cymdogion Levadia Tallinn ar frig y gynghrair – y clwb a gurodd Caernarfon yn gyfforddus o 10-0 dros ddau gymal yn y rownd diwethaf.
Fel y Seintiau, mae gan Flora Tallinn hanes helaeth yn Ewrop, ond mae’r canlyniadau diweddar wedi bod yn siomedig gyda Flora yn ennill dim ond unwaith yn eu 15 gêm ddiwethaf yn Ewrop, a’r fuddugoliaeth honno yn dod wedi amser ychwanegol yn erbyn Virtus o San Marino.
Y tymor yma, roedd Flora, fel y Seintiau, yn dechrau eu hymgyrch yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr ond fe gollon nhw o 5-4 dros y ddau gymal yn erbyn Iberia 1999 o Georgia.
Daeth tymor mwyaf llwyddiannus Flora yn 2021/22 wrth iddyn nhw gyrraedd rownd y grwpiau yng Nghyngres UEFA am y tro cyntaf erioed.
Y Seintiau Newydd yw clwb mwyaf llwyddiannus Cymru yn Ewrop gan i’r tîm o Groesoswallt chwarae’n gyson ar y cyfandir ers 1996.
Llwyddodd y Seintiau i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol am y tro cyntaf erioed yn 2024 a chystadlu yn rownd y gynghrair Cyngres UEFA ble chwaraeon nhw yn erbyn Panathinaikos a Fiorentina.
Ond doedd yr ymgyrch ddiwethaf ddim mor llwyddiannus gyda’r Seintiau’n methu ag ennill dim un o’u pedair gêm Ewropeaidd yn 2025 (cyfartal 1, colli 3).
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Neuadd y Parc ar nos Iau, 30 Gorffennaf a bydd yr enillwyr yn camu ymlaen i wynebu pencampwyr Andorra, Inter Club d’Escaldes yn nhrydedd rownd ragbrofol Cyngres UEFA.
Record YSN yn Ewrop:
Rowndiau: 53 (ennill 12, colli 41) / Gemau: 98 (ennill 20, cyfartal 16, colli 62)
Tro diwethaf: (2025/26) Colli eu dwy rownd llynedd. Colli wedi amser ychwanegol yn erbyn Shkëndija yng Nghynghrair y Pencampwyr (1-2 dros y ddau gymal) cyn colli’n erbyn Differdange yng Nghyngres UEFA (0-2 dros y ddau gymal).




