S4C

Navigation

Coroni Cei Connah yn bencampwyr Cymru Premier wrth i’r Gymdeithas Bêl droed gwtogi’r tymor oherwydd pandemig Covid-19.

Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru (Bwrdd CBDC) wedi cadarnhau penderfyniad Bwrdd y Gynghrair Genedlaethol i gwtogi tymor 2019/20 ar gyfer Haenau 1-4. Mae’r penderfyniad wedi cael ei gymryd yn sgil sefyllfa gyfredol pandemig COVID-19, yn unol â mesurau a chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfyngiadau symud.

Roedd iechyd a diogelwch pob un sy’n ymwneud â’r cynghreiriau yn cael ei gymryd i ystyriaeth ym mhenderfyniad Bwrdd CBDC. Yn ogystal, bu Bwrdd CBDC yn ystyried yr effaith economaidd ac ariannol o geisio gorffen y tymor yn ystod y pandemig ac o ganlyniad, gwnaed y penderfyniad i beidio â pheryglu sefydlogrwydd ariannol tymor hir y cynghreiriau a’u clybiau.

Roedd Bwrdd CBDC hefyd yn cydnabod na fyddai cynghrair Cymru Premier JD yn gallu cael ei gwblhau cyn y dyddiad cau a bennwyd gan UEFA ar gyfer mynediad at gystadlaethau Ewropeaidd.

Ymgynghorwyd â chlybiau Cymru Premier JD, cynghrair Gogledd Cymru JD, cynghrair De Cymru JD ac Uwch Gynghrair Merched Cymru ar sut y dylid dod â’r tymor i ben. Cafodd y safbwyntiau a’r wybodaeth a ddarparwyd gan y clybiau eu cyfleu i Fwrdd y Gynghrair Genedlaethol ac i Fwrdd CBDC.

Cytunodd Bwrdd CBDC i gwtogi cynghreiriau Haen 1 – 4 ac y dylid defnyddio dull pwyntiau fesul gêm heb eu pwysoli i benderfynu ar y safleoedd terfynol. O ganlyniad, ni fydd gemau ail gyfle Ewrop yng nghynghrair Cymru Premier JD yn cael eu cynnal.

O ganlyniad, mae enwebiadau cystadlaethau Cymru Premier JD ac Uwch Gynghrair Merched Cymru wedi eu penderfynu fel a ganlyn:

Cynghrair Pencampwyr UEFA – Nomadiaid Cei Connah (Safle 1af)

Cynghrair Europa UEFA – Y Seintiau Newydd (2il Safle)

Cynghrair Europa UEFA – CPD Y Bala (3ydd Safle)

Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA – CPD Merched Dinas Abertawe (Safle 1af)

Bydd UEFA yn cael eu hysbysu’n ffurfiol o’r enwebiadau hyn cyn y dyddiad cau o 25ain o Fai.

Yn olaf penderfynodd Bwrdd CBDC y byddai’r gwobrau ariannol ar gyfer cynghrair Cymru Premier JD, cynghrair Gogledd Cymru JD, cynghrair De Cymru JD ac Uwch Gynghrair Merched Cymru yn cael eu dosbarthu yn unol â safleoedd terfynol y gynghrair ar ôl defnyddio’r dull pwyntiau fesul gêm.

Nid yw Bwrdd CBDC wedi penderfynu eto ar y broses o glybiau’n dyrchafu a disgyn rhwng cynghreiriau, gyda’r penderfyniad yn cael ei wneud maes o law a gan gymryd llwyr ystyriaeth o Reoliadau Pyramid CBDC.

Penderfyniad Bwrdd Cwpan Cenedlaethol CBDC – Cwpan Cymru JD

Yn sgil rhesymau economaidd ac ariannol fyddai’n codi o barhau Cwpan Cymru JD cyn dyddiad cau UEFA ar gyfer enwebiadau cystadlaethau Ewropeaidd ar y 20fed o Orffennaf, fe wnaeth Bwrdd Cwpan

Cenedlaethol CBDC argymhell gohirio’r gystadleuaeth. Cafodd y penderfyniad hwn ei gadarnhau gan Fwrdd CBDC.

Teimlai’r Bwrdd y byddai’n annoeth yn ariannol i ddod a’r gystadleuaeth i ben cyn y dyddiad cau ac yn rhoi sefydlogrwydd ariannol tymor hir y gystadleuaeth a’r clybiau mewn perygl.

Gobaith y Bwrdd yw y gall gweddill y gystadleuaeth ailddechrau cyn dechrau’r tymor pêl-droed newydd, pryd bynnag y bydd hynny a phan fydd hi’n saff ac yn ariannol hyfyw i wneud hynny. Fodd bynnag, nid yw hyn yn bosib cyn dyddiad cau UEFA.

Yn unol â chanllawiau UEFA, gan nad yw CBDC yn gallu pennu enillydd cwpan domestig yn ôl teilyngdod chwaraeon, bydd y clwb anghymwysedig â’r safle uchaf o gynghrair Cymru Premier JD yn cymhwyso ar gyfer y safle sy’n weddill yng Nghynghrair Europa UEFA yn nhymor 2020/21. Yn sgil hyn, Barry Town fydd yn derbyn y safle hwn, gan gystadlu ar y cymal sydd wedi’u neilltuo i gynrychiolwyr cynghreiriau domestig o’r safle isaf. O ganlyniad, bydd pob cynrychiolydd o gynghrair Cymru Premier JD yn dod mewn i’r gystadleuaeth ar gyfer cynrychiolwyr cynghrair domestig sydd yn y safle uniongyrchol yn uwch.

Pêl-droed Hamdden

Mae Bwrdd y Gêm Gymunedol eisoes wedi penderfynu y bydd Pêl-droed Hamdden yn dilyn ôl troed Haenau 1-4 ar sut i ddod â thymor 2019/20 i ben, pryd bynnag y byddai’r penderfyniad hwnnw’n cael ei wneud.

O ganlyniad, mae Pêl-droed Hamdden i oedolion wedi’i gwtogi’n gyfan gwbl, gyda’r safleoedd terfynol yn cael eu cwblhau trwy’r dull pwyntiau fesul gêm.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?