S4C

Navigation

Dros y penwythnos bydd pedwar o glybiau’r gogledd yn cystadlu yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD. 

Mae Caernarfon a’r Fflint o’r Cymru Premier JD wedi llwyddo i gyrraedd y pedwar olaf, ac mi fyddan nhw’n wynebu clybiau o’r adrannau is, gyda’r Cofis yn herio Y Rhyl 1879 o’r ail haen, tra bydd y Sidanwyr yn wynebu Bangor 1876 o’r drydedd haen. 

Bydd enillwyr gemau’r penwythnos yn sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD yn Rodney Parade, Casnewydd ar y 12fed o Ebrill, a bydd enillwyr y ffeinal yn hawlio tocyn i chwarae’n Ewrop y tymor nesaf. 

 

Y Fflint (1) v Dinas Bangor 1876 (3) | Dydd Sadwrn – 12:45 
(Parc Maesdu, Llandudno) 

O’r pedwar clwb sydd ar ôl yn y gystadleuaeth, Y Fflint yw’r unig rai sydd wedi codi Cwpan Cymru yn y gorffennol, ac hynny ‘nôl ym 1954. 

Yn y 72 o flynyddoedd ers hynny, dyw’r Fflint heb lwyddo i fynd ymhellach na rownd yr wyth olaf… tan eleni. 

Yn nhymor 1953/54 fe enillodd Y Fflint y rownd gynderfynol yn erbyn Caerdydd, cyn trechu Caer yn y rownd derfynol ar y Cae Ras. 

Gyda’r Fflint yn wynebu’r clwb isaf ar ôl yn y gystadleuaeth, bydd Lee Fowler yn gobeithio rhoi ei enw yn y llyfrau hanes ac arwain y clwb i godi’r tlws am y tro cyntaf ers 1954. 

Y Fflint yw’r unig glwb sydd heb ildio gôl yng Nghwpan Cymru y tymor hwn, a gyda’r Sidanwyr ar rediad o chwe gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, bydd yr hyder yn uchel yng ngharfan Lee Fowler. 

Y daith hyd yma: 

Y Fflint: Bow Street (0-3), Airbus UK (1-0), Pen-y-bont (0-0 cos), Bae Trearddur (3-0)

Dinas Bangor 1876: Mochdre (3-1), Conwy Swifts (0-12), Llanelwy (0-6), Cegidfa (cos 1-1), Treffynnon (2-1), Trefelin (2-0), Caerau Trelai (3-1) 

 

Mae yna gyfoeth o hanes ac atgofion o lwyddiannau Cwpan Cymru ym Mangor gan i’r tlws gael ei godi ar wyth achlysur gan y Dinasyddion, ond gyda’r hen glwb gwreiddiol wedi ei ddiddymu, mae’r olynwyr bellach yn awyddus i efelychu campau’r clwb a fu. 

Mae Dinas Bangor 1876 yn eistedd ar frig Cynghrair Ardal Gogledd Orllewin, a nhw yw’r clwb cyntaf o’r drydedd haen i gyrraedd y rownd gynderfynol ers i Treffynnon wneud hynny 12 mlynedd yn ôl. 

Mae tîm Michael Johnston wedi chwarae 36 o gemau ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn gan ennill 33 o’r gemau rheiny a cholli dim ond unwaith (vs Llannefydd). 

Dechreuodd taith Bangor yn y rownd ragbrofol gyntaf, ac ers hynny mae‘r Dinasyddion wedi trechu pedwar clwb o’r ail haen, sef Cegidfa, Treffynnon, Trefelin a Caerau trelai. 

Ond hwn fydd y prawf anoddaf eto i Fangor, wrth iddyn nhw wynebu clwb o’r uwch gynghrair am y tro cyntaf ers Tachwedd 2023. 

Ac yn rhyfedd iawn, Y Fflint oedd y clwb diwethaf, a’r unig glwb o’r uwch gynghrair i wynebu Bangor 1876 ers i’r clwb gael ei sefydlu yn 2019. 

Tachwedd 2023 oedd hi pan aeth y clybiau benben yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru yn Stadiwm Dinas Bangor, ac ar ôl i Elliott Reeves roi’r Fflint ar y blaen, fe unionodd Bangor y sgôr yn y modd mwyaf dramatig wedi 94 munud gyda’r golwr Carl Jones yn sgorio i’r Dinasyddion o gic gornel. 

Ond Y Fflint oedd yn fuddugol yn y pen draw, yn ennill ar giciau o’r smotyn, a bydd y cefnogwyr niwtral yn gobeithio am gêm gystal brynhawn Sadwrn yma. 

Fe wnaeth y clybiau gyfarfod ddwywaith eto yng Nghynghrair y Gogledd yn nhymor 2023/24 gyda’r Fflint yn ennill y ddwy gêm yna hefyd (Ban 1-4 Ffl, Ffl 4-2 Ban). 

Ond mae Bangor wedi profi eleni eu bod yn dîm caled i’w curo, a bydd y Dinasyddion yn anelu i fod y clwb cyntaf o drydedd haen y pyramid pêl-droed Cymreig i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru. 

 

Y Rhyl 1879 (2) v Caernarfon (1) | Dydd Sul – 13:30
(Ffordd Llanelian, Bae Colwyn) 

Mae Y Rhyl 1879 wedi cyrraedd y rownd gynderfynol am y tro cyntaf ers i’r tîm newydd gael ei ffurfio yn 2020, ond enillodd hen glwb Y Rhyl y cwpan ar bedwar achlysur. 

Achosodd Y Rhyl sioc fwya’r rownd ddiwethaf wrth guro’r Barri o 2-1 a bydd tîm Paul Moore yn awyddus i ail-adrodd y gamp ddydd Sul, a threchu clwb arall o’r uwch gynghrair. 

Ar ôl ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf mae Y Rhyl 1879 yn y 5ed safle yn eu tymor cyntaf yng Nghynghrair y Gogledd yn dilyn eu dyrchafiad i’r ail haen dros yr haf. 

Mae gemau cwpan Y Rhyl wedi bod yn rhai agos y tymor yma, gyda’r Lilisgwynion yn ennill o un gôl yn unig yn y bedair rownd ddiwethaf. 

 

Y daith hyd yma: 

Y Rhyl 1879: Pwllheli (1-3), Brickfield (1-0), Cwmbrân (3-2), Porthmadog (1-2), Y Barri (2-1) 

Caernarfon: Y Drenewydd (0-3), Penrhyncoch (4-0), Met Caerdydd (2-4), Bae Colwyn (4-1) 

 

Dyw Caernarfon erioed wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru, ac felly bydd y Cofis yn benderfynol o gyflawni’r nod eleni a chodi’r tlws am y tro cyntaf yn eu hanes. 

 

Fel y clwb uchaf ar ôl yn y gystadleuaeth, Caernarfon yw’r ffefrynnau i godi’r cwpan y tymor hwn, ond dyw’r Cofis heb ennill gêm oddi cartref yn 2026. 

Wedi dweud hynny, bydd yr hyder yn uchel yng ngharfan Caernarfon ar ôl curo Bae Colwyn o 3-0 y penwythnos gyda Brad Young yn serennu drwy sgorio dwy gôl, ac hynny ar ôl sgorio’n y gêm flaenorol hefyd yn erbyn ei gyn-glwb, Y Seintiau Newydd. 

Mae’r Cofis wedi codi’r safon yn eu gemau cwpan y tymor yma, gan sgorio pedair gôl yn eu tair gêm ddiwethaf yn y gystadleuaeth. 

Hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau glwb yma, a bydd y ddau dîm yn gobeithio creu hanes trwy gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?