S4C

Navigation

Mae’r antur Ewropeaidd yn parhau i Hwlffordd ac i’r Seintiau Newydd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer ail gymal ail rownd ragbrofol Cyngres Europa. 

 

Mae’n gyfartal 1-1 rhwng Y Seintiau Newydd a Swift Hesperange wedi’r cymal cyntaf a bydd cewri Croesoswallt yn fwy na bodlon gyda’r sgôr hwnnw yn dilyn perfformiad siomedig yn Neuadd y Parc nos Fawrth diwethaf. 

 

Bydd gan Hwlffordd her ychydig yn anoddach gan eu bod nhw wedi colli 2-1 yn y cymal oddi cartref yn erbyn B36 Tórshavn, ond mae’r Adar Gleision wedi profi yn y rownd ddiwethaf eu bod yn gallu achosi sioc yn Stadiwm Dinas Caerdydd. 

 

Pe bae’r Seintiau Newydd neu Hwlffordd yn ennill y rownd hon, yna mi fyddan nhw’n camu ymlaen i’r drydedd rownd ragbrofol, ac ar ôl hynny dim ond gêm ail gyfle fyddai rhwng y clybiau a rownd grwpiau Cyngres Europa. 

Ond mae pwysau trymach na’r arfer ar ysgwyddau’r ddau glwb yma gan bod Cymru mewn perygl gwirioneddol o golli un safle’n Ewrop oherwydd canlyniadau diweddar ar y cyfandir. 

Mae Montenegro ac Andorra yn debygol o ddringo uwchben Cymru ar restr detholion clybiau UEFA os na all Y Seintiau Newydd a Hwlffordd newid hynny gyda canlyniadau cadarnhaol yr wythnos hon. 

 

Swift Hesperange [Lwcsembwrg] (1) v (1) Y Seintiau Newydd | Nos Fawrth, 1 Awst – 19:00  

(Stade de Luxembourg – Ail Gymal Ail Rownd Ragbrofol Cyngres Europa 2023/24)  

Bu rhaid i’r Seintiau Newydd amddiffyn yn gadarn am gyfnodau hir o’u dwy gêm yn erbyn BK Häcken yn y rownd ddiwethaf, a’r disgwyliad oedd y byddai pencampwyr Cymru yn mwynhau mwy o feddiant yn erbyn Swift Hesperange o Lwcsembwrg, ac yn gallu gosod eu stamp eu hunain ar y gêm. 

Ond am ryw reswm roedd yna ddiffyg sbarc a dychymyg yn chwarae’r Seintiau Newydd nos Fawrth, o bosib oherwydd absenoldeb y prif sgoriwr Declan McManus a’r chwaraewyr canol cae dylanwadol, Daniel Redmond, Jon Routledge a Dan Williams. 

A mater o amser oedd hi nes i bencampwyr Lwcsembwrg fynd ar y blaen, wrth i Simao Martins brodio croesiad isel i gefn y rhwyd wedi dim ond 14 o funudau. 

Roedd yr ymosodiadau yn brin gan y tîm cartref, a phan ddaeth unig gyfle’r Seintiau o’r hanner cyntaf, fe darodd Josh Daniels ei ergyd dros y trawst o chwe llath. 

Bu fawr o newid wedi’r egwyl, ac wedi 10 munud o’r ail hanner fe gafodd capten Swift, Dominik Stolz ei faglu’n y cwrt gan Josh Pask gan ennill cic o’r smotyn i’r ymwelwyr. 

Roedd Stolz wedi methu cic o’r smotyn yn ail gymal y rownd flaenorol yn erbyn Slovan Bratislava, a dyna wnaeth eto yn Neuadd y Parc gyda Connor Roberts yn ymestyn yn isel i’w dde gan gael pawen gadarn at y bêl i gadw’r sgôr yn 0-1. 

Er waetha’r siom roedd Swift yn dal i reoli ac fe daron nhw’r postyn ddwywaith yn yr ail hanner, ond yn methu a chynyddu eu mantais. 

Gyda 74 munud ar y cloc fe gafodd Swift eu synnu wrth i gic gornel y Seintiau gael ei chlirio at yml y cwrt ble roedd Rory Holden yn disgwyl i danio ergyd nerthol droed chwith heibio i’r golwr Geordan Dupire gan ddod a’r sgôr yn gyfartal yn erbyn llif y chwarae. 

Hon oedd gôl gyntaf y gŵr o Ogledd Iwerddon ers iddo ymuno â’r Seintiau o Port Vale, ac mae’n gôl hollbwysig sy’n cadw’r Seintiau Newydd yn yr ornest. 

“I think we were really poor tonight, and it’s really, really unlike us… I’d like to think we can’t play as bad as that”, dyna oedd ymateb rheolwr y Seintiau, Craig Harrison, wrth edrych ymlaen at yr ail gymal yn Lwcsembwrg. 

Cyn y tymor yma, doedd Swift Hesper ond wedi chwarae dwy rownd yn Ewrop gan golli yn erbyn Legia Warsaw o Wlad Pwyl yn 1990, ac yna colli eto yn erbyn Domžale o Slofenia yn 2021. 

Dyw Swift Hesper felly erioed wedi ennill rownd, na chwaith wedi ennill gêm yn Ewrop, tra bod Y Seintiau Newydd wedi chwarae 77 o gemau yn Ewrop gan ennill 17 o rheiny (22%), ac mewn 39 rownd Ewropeaidd mae’r clwb wedi camu ‘mlaen ar naw achlysur (23%). 

Bydd yr enillwyr yn wynebu unai FC Struga (Gogledd Macedonia) neu Budućnost Podgorica (Montenegro) yn nhrydedd rownd ragbrofol Cyngres Europa, a Struga sydd ar y blaen o 1-0 wedi’r cymal cyntaf. 

 

Hwlffordd (1) v (2) B36 Tórshavn [Ynysoedd Ffaröe] | Nos Iau, 3 Awst – 19:45 (S4C) 

(Stadiwm Dinas Caerdydd – Ail Gymal Ail Rownd Ragbrofol Cyngres Europa 2023/24)  

 

 

Wedi buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn KF Shkëndija o Ogledd Macedonia yn y rownd ddiwethaf, mae Hwlffordd yn parhau i fyw y freuddwyd Ewropeaidd. 

Ac roedd yna her fawreddog yn eu disgwyl yn Ynysoedd Ffaröe nos Iau, yn erbyn tîm oedd yn llawn chwaraewyr rhyngwladol profiadol. 

B36 Tórshavn yw un o’r clybiau mwyaf llwyddiannus yn holl hanes Ynysoedd Ffaröe ar ôl ennill eu pencampwriaeth ar 11 achlysur. 

Ers 2018 mae’r clwb wedi ennill wyth o’u 12 rownd yn Ewrop, yn cynnwys buddugoliaeth ar giciau o’r smotyn yn erbyn Y Seintiau Newydd yn 2020. 

Ac wedi dim ond 11 munud o’r cymal cyntaf yn Gundadalur roedd B36 ar y blaen wrth i flaenwr rhyngwladol Ynysoedd Ffaröe, Hannes Agnarsson orffen symudiad slic i’r tîm cartref. 

Dangosodd Hwlffordd eu cymeriad wedi hynny gan amddiffyn yn drefnus a nadu B36 rhag poeni Zac Jones yn ormodol rhwng y pyst. 

Wedi’r egwyl, ble cafodd Hwlffordd eu cloi allan o’u hystafell newid am gyfnod, daeth yr Adar Gleision allan yn benderfynol gan ddechrau mwynhau cyfnodau hirach o feddiant. 

Ond wrth i Hwlffordd wthio’n uwch i fyny’r cae, fe agorodd y bylchau yn y cefn, ac wedi pas letraws hyfryd gan Michal Przybylski (sgoriodd yn erbyn YSN yn 2020), fe sgipiodd Bjarki Nielsen heibio i Jack Wilson a thynnu’r bêl yn ôl i lwybr Andrass Johansen orffennodd yn glinigol i ddyblu’r fantais gyda awr ar y cloc. 

Gyda dim ond 10 munud o’r gêm yn weddill, roedd Hwlffordd yn ôl yn y gêm wrth i’r blaenwr newydd, Martell Taylor-Crossdale rwydo ei gôl gyntaf i’r Adar Gleision. 

Chwipiodd Jack Wilson groesiad isel o’r dde, ac er i amddiffyn B36 geisio clirio fe syrthiodd y bêl yn garedig i Taylor-Crossdale a ddangosodd ei reddf naturiol i rwydo gyda’i unig gyfle o flaen gôl, ac hynny ar ôl gweithio’n ddi-flino yn amddiffyn o’r llinell flaen drwy gydol y gêm. 

Felly dim ond un gôl sydd ynddi cyn yr ail gymal yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac fe brofodd Hwlffordd yn y rownd flaenorol, ac yng ngemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru, eu bod yn gallu achosi sioc, gyda ychydig o gymorth gan eu golwr talentog, Zac Jones. 

Bydd yr enillwyr yn wynebu unai HNK Rijeka (Croatia) neu KF Dukagjini (Kosovo) yn nhrydedd rownd ragbrofol Cyngres Europa, a Rijeka sydd ar y blaen o 1-0 wedi’r cymal cyntaf. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?