S4C

Navigation

Sgorio sy’n dewis pum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

 

Chloe Chivers – Abertawe

8 gôl y tymor hwn i Chivers wrth i Abertawe barhau ar frig cynghrair y merched.
Llwyddodd i ennill cic o’r smotyn – a sgorio’r gic – yn yr hanner cyntaf, cyn sgorio gôl wych o du allan i’r cwrt cosbi yn yr ail hanner wrth i Abertawe guro’r Fenni 0-2.

Ryan Brobbel – Y Seintiau Newydd

Ar ôl dychwelyd o anaf y penwythnos diwethaf mae’r asgellwr y nawr wedi sgorio tair mewn dwy gêm – gan sgorio ddwywaith yn y fuddugoliaeth yn erbyn Caernarfon prynhawn Gwener.
Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill tair gêm yn olynol a bydd dawn ymosodol Brobbel yn allweddol i’r Seintiau os yw’r clwb am frwydro i ail ennill y bencampwriaeth yn ôl o Lannau Dyfrdwy.

Mael Davies – Pen-y-bont

Buddugoliaeth i Ben-y-bont dros Hwlffordd yn sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf ar gyfer ail ran y tymor.
Roedd Mael Davies yn allweddol yn y fuddugoliaeth wrth sgorio’r ail – symudiad gwych yng nghanol cae, gyda Davies yn dechrau’r symudiad gan gadw meddiant, techneg i droi a chadw’r bêl i ledu’r chwarae cyn gorffen y symudiad gydag ergyd o du allan i’r cwrt cosbi.
Mael Davies yw prif sgoriwr Pen-y-bont y tymor yma gyda phum gôl.

Evan Press- Y Barri

Sgoriodd Press y gôl fuddugol yn hwyr yn yr amser roedd wedi cael ei ganiatáu am anafiadau wrth i’r Barri guro Met Caerdydd 1-2 ar Gampws Cyncoed.
Tair gôl mewn dwy gêm i Press wrth i’r Barri frwydro am y trydydd safle yn y gynghrair a lle yn Ewrop.

Lassana Mendes – Y Bala

Lassana Mendes yn creu ac yn sgorio wrth i’r Bala guro’r Fflint o 5-0 prynhawn Gwener ar Faes Tegid.
Fe agorodd y sgorio gyda gôl hyfryd, gan greu lle yn dda ar y chwith cyn ergydio o ochr y cwrt i’r gornel uchaf y rhwyd.
Roedd Mendes hefyd yn rhan o’r chwarae wrth i Steve Leslie rwydo taran o ergyd o du allan i’r cwrt.

Buddugoliaeth swmpus ar Faes Tegid ar ôl siom wythnos diwethaf i’r Bala ar Barc Jenner

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?