S4C

Navigation

Sgorio sy’n rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos

Oliver Byrne – Cei Connah

Llwyddodd Byrne i sicrhau’r triphwynt i Gei Connah nos Wener wrth arbed ergyd hwyr Owain Jones i gadw’r sgôr yn 1-0 i dîm Andy Morrison.

Byrne yw’r unig golwr i gadw dwy lechen lân dros y ddwy gêm agoriadol o’r tymor.

Blaine Hudson – Y Seintiau Newydd

Yr amddiffynnwr yn sgorio ac yn creu wrth ddechrau ei 100fed gêm yn yr uwch gynghrair.

Fe enillodd Y Seintiau Newydd 5-3 yn erbyn Caernarfon ar Neuadd y Parc gyda’r Seintiau yn sgorio naw yn eu dwy gêm agoriadol o’r tymor ac yn eistedd yn yr ail safle gyda chwephwynt.

Sam Parsons – Llanelli

Sgoriodd yr amddiffynnwr chwith chwip o gôl o 25 llath wrth i Lanelli guro Caerfyrddin 2-0 ar Barc Stebonheath.

Dyma gôl gyntaf Parsons i’r cochion, gyda Dai yn dathlu’n wyllt tu ôl i’r gôl!

Gwion Dafydd – Caernarfon

Gwion Dafydd yn creu ar ei ymddangosiad cyntaf i Gaernarfon wythnos diwethaf yn erbyn Hwlffordd cyn sgorio ei gôl gyntaf dros y clwb yn 16 oed yn erbyn Y Seintiau Newydd dros y penwythnos.

Michael Wilde – Y Fflint

Hat tric Wilde yn codi’r ymosodwr i’r 3ydd safle ar restr prif sgorwyr holl hanes y gynghrair gyda 211 gôl.

Mae’r ymosodwr wedi sgorio pum gôl mewn dwy gêm gynghrair i’r Fflint ers ymuno dros yr haf, gyda’r Fflint ar frig y Cymru Premier wedi’r ddwy gêm.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?