Sgorio sy’n dewis pum chwaraewr sydd wedi sefyll allan dros benwythnos agoriadol tymor 2021/22 y Cymru Premier
Gregor Zabret – Aberystwyth
Cyn golwg Abertawe yn dechrau ei gêm gynghrair gyntaf i Aberystwyth rhwng y pyst, gyda’r golwg o Slofenia yn allweddol wrth i Aber guro’r Barri am y tro cyntaf ers 2003.
Llwyddodd i atal Nat Jarvis rhag penio’r gôl agoriadol gydag arbediad o’r safon uchaf yn fuan yn yr hanner cyntaf. Fe gipiodd y bêl yn awdurdodol o’r awyr i atal ergyd Wharton rhag canfod y gornel uchaf – cyn sicrhau’r fuddugoliaeth gyda sawl arbediad hwyr i gadw’r sgôr yn 2-1 i Aber.
Perfformiad o’r safon uchaf gan golwr newydd Aberystwyth.
George Horan – Cei Connah
Capten y Pencampwyr yn ddylanwadol eto i Gei Connah gan benio’r ail gôl mewn buddugoliaeth 0-2 dros Derwyddon Cefn ar Y Graig ar noson agoriadol y tymor.
Sgoriodd Horan, 39, ddwywaith yn Ewrop dros yr haf a ma’i ddylwanwad i dîm Andy Morrison yn amlwg.
Mathew Jones – Aberystwyth
Jones yn creu ac yn sgorio wrth i Aberystwyth guro’r Barri am y tro cyntaf ers 2003!
Llwyddodd Aberystwyth i unioni’r sgôr gyda chroesiad Jones yn canfod Sam Phillips yn y cwrt chwech cyn i Jones sgorio cic rydd fendigedig heibio Mike Lewis i sicrhau’r triphwynt i Aber ar Goedlan y Parc.
Danny Gosset – Caernarfon
Am stori ar Yr Oval – dwy flynedd ers y newyddion fod Danny Gosset yn brwydro cancr, llwyddodd y chwaraewr canol cae i sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf yn y gynghrair ers ymuno â Chaernarfon.
Llwyddodd Gosset i agor y sgorio gyda chic rydd hyfryd heibio Lee Idzi, golwr Hwlffordd wrth i’r Cofis guro’r Adar Gleision 2-0 ar Yr Oval.
Michael Wilde – Y Fflint
Yr ymosodwr bytholwyrdd, Mike Wide, yn sgorio dwywaith ar ei ymddangosiad cyntaf yn y Cymru Premier i’r Fflint.
Arwyddodd Chwaraewr y Tymor 2020-21 o’r Pencampwyr, Cei Connah dros yr haf – un o benawdau mawr yr haf wrth i’r blaenwr ymuno â thîm Neil Gibson.
5-y-Penwythnos | 5-on-Form 🔥
Gregor Zabret – @AberystwythTown
George Horan – @the_nomads
Mathew Jones – @AberystwythTown
Danny Gosset – @CaernarfonTown
Mike Wilde – @FlintTownFC#JDCymruPremier 🏴 pic.twitter.com/egpDcuHbn0
— Sgorio ⚽️🏴 (@sgorio) August 17, 2021