S4C

Navigation

Dros y penwythnos bydd 32 o glybiau’n cystadlu yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD, a dyma olwg ar lond llaw o’r gemau cyffrous sydd i ddod. 

 

Nos Wener, 24 Medi 

Caernarfon v Prestatyn | Nos Wener – 19:45 

Bydd Huw Griffiths yn benderfynol o weld ymateb gan ei chwaraewyr yn dilyn colled drom yn erbyn Y Drenewydd yn nhrydedd rownd Cwpan Nathaniel MG nos Fawrth (5-0). 

Doedd Caernarfon heb ildio yn eu tair gêm flaenorol cyn cael eu dinistrio gan Y Drenewydd, ac mae’r Cofis wedi codi i’r 4ydd safle yn y Cymru Premier JD. 

Colli oedd hanes Prestatyn yn erbyn Treffynnon hefyd (3-4) wrth i ddau o’u cyn-chwaraewyr, Zebb Edwards ac Oliver Buckley sgorio i’r gwrthwynebwyr. 

Honno oedd y drydedd golled yn olynol i Brestatyn fydd yn sicr yn siomedig o fod yn hanner isa’r Cymru North JD ar ôl ennill dim ond dwy o’u wyth gêm gynghrair hyd yma. 

Aeth y ddau glwb yma benben yn y drydedd rownd yn nhymor 2018/19 gyda’r Cofis yn ennill 0-3 ar Erddi Bastion diolch i ddwy gôl gan Cai Jones, a’r llall gan Noah Edwards. 

Ond mae’r timau wedi cwrdd unwaith ers hynny yng Nghwpan y Gynghrair, a Prestatyn oedd yn fuddugol y noson honno, yn ennill 1-4 ar yr Oval ym mis Medi 2019. 

Mae Caernarfon wedi cyrraedd trydedd rownd Cwpan Cymru ar ôl ennill oddi cartref yn erbyn Dinbych yn yr ail rownd (0-4), tra roedd Prestatyn yn llawer rhy gryf i Rhostyllen (6-0). 

 

Conwy v Y Seintiau Newydd | Nos Wener – 19:45 

Doedd dim gemau canol wythnos i’r ddau glwb yma gan eu bod wedi colli yn rownd flaenorol Cwpan y Gynghrair, felly bydd coesau ffres gan Gonwy a’r Seintiau Newydd nos Wener. 

Mae Conwy’n 8fed yn y Cymru North JD, ond dyw tîm Matthew Jones ond wedi ennill un o’u chwe gêm ddiwethaf, sef eu buddugoliaeth yn erbyn Cefn Albion yn ail rownd Cwpan Cymru (3-2). 

Chafodd y Seintiau ddim trafferth yn erbyn Llanrwst yn y rownd flaenorol (6-0), a dyw’r clwb sydd ar frig yr uwch gynghrair heb golli dim un o’u saith gêm ddiwethaf (ennill 6, cyfartal 1).  

Dyma’r trydydd tro mewn degawd i’r timau gyfarfod yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru, ac roedd angen amser ychwanegol yn y ddwy gêm flaenorol yn 2012 ac yn 2013 cyn i’r Seintiau gael y gorau o’r tîm o’r adran is. 

 

Dydd Sadwrn, 18 Medi 

Trefelin v Cei Connah | Dydd Sadwrn – 12:45 (S4C) 

Bydd enillwyr Cwpan Cymru 2018, Cei Connah, yn gwneud y daith i Barc yr Ynys i wynebu Trefelin, sydd yn y 9fed safle yn y Cymru South JD. 

Mae Trefelin wedi gorfod ennill dwy gêm gwpan i gyrraedd y rownd hon (8-1 vs Fairwater, 0-3 vs Llansawel), tra bod Cei Connah wedi gorfod curo clwb Y Rhyl 1879 yn y rownd ddiwethaf (5-0). 

Dyma’r eildro o fewn wythnos i Drefelin herio clwb o’r uwch gynghrair ar ôl colli 3-0 yn erbyn Y Barri yng Nghwpan y Gynghrair nos Fawrth. 

Honno oedd y drydedd golled yn olynol i dîm Richard Ryan oedd wedi mynd ar rediad o 10 gêm heb golli cyn diwedd mis Awst. 

Roedd hi’n noson gyffrous yng Nglannau Dyfrdwy nos Fawrth wrth i Gei Connah yrru Airbus UK allan o Gwpan y Gynghrair mewn gêm llawn goliau. 

Roedd y Nomadiaid yn ennill 3-0 wedi dim ond 16 munud, ond roedd hi’n 3-3 erbyn yr egwyl, cyn i Gei Connah sgorio tair arall yn yr ail hanner i ennill 6-3 yn erbyn cyn-glwb Andy Morrison. 

Hon fydd y gêm gyntaf erioed rhwng Trefelin a Chei Connah, a dyma’r tro cyntaf i Drefelin chwarae’n fyw ar deledu. 

 

Airbus UK v Hwlffordd | Dydd Sadwrn – 14:30 

Rhoddodd Airbus tipyn o fraw i Gei Connah nos Fawrth, ond bydd tîm Steve O’Shaughnessy eisiau mynd gam ymhellach ddydd Sadwrn a churo Hwlffordd o’r uwch gynghrair. 

 Mae Airbus UK wedi ennill eu saith gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd gan ildio dim ond un gôl, ac yn ystod y rhediad hwnnw roedd ‘na fuddugoliaethau yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru yn 2014 ac yn 2015. 

Airbus sydd ar frig Cynghrair y Gogledd ar ôl ennill wyth o’u naw gêm gynghrair hyd yma, ac os bydd pethau’n aros fel y mae nhw bydd bechgyn Brychdyn yn cymeryd lle Hwlffordd yn yr uwch gynghrair y tymor nesaf, gan bod yr Adar Gleision yn eistedd yn safleoedd y cwymp wedi’r chwe gêm agoriadol. 

Er hynny, mae Hwlffordd i weld wedi troi’r gornel yn ddiweddar ac wedi ennill tair o’u pedair gêm ddiwethaf, yn cynnwys buddugoliaeth yn erbyn Y Fflint brynhawn Sadwrn (2-0), cyn curo Gwndy yng Nghwpan y Gynghrair nos Fawrth (5-0). 

Mae Airbus UK wedi cyrraedd y drydedd rownd ar ôl llorio Llandudno yn y rownd ddiwethaf (1-2), tra bod Hwlffordd wedi rhoi cweir i Aberhonddu (6-0). 

 

Penrhiwceiber v Y Fflint | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Penrhiwceiber yn un o bedwar o glybiau’r drydedd haen sydd wedi llwyddo i gyrraedd trydedd rownd Cwpan Cymru JD. 

Yn 7fed yng nghynghrair Ardal SW mae Penrhiwceiber ar rediad o bum gêm heb golli ac yn barod i geisio achosi sioc yn erbyn sêr Y Fflint, sydd yn 2il yn Uwch Gynghrair Cymru.  

Mae’r Fflint wedi ennill pump o’u saith gêm ddiwethaf, ond bydd Neil Gibson yn mynnu mwy gan ei chwaraewyr yn dilyn colled annisgwyl yn Hwlffordd ddydd Sadwrn diwethaf. 

Mae Penrhiwceiber wedi gorfod ennill pedair gêm oddi cartref i ddod cyn belled yn y gystadleuaeth (1-2 vs AFC Penrhiwceiber, 0-6 vs Aberfan, 2-12 vs West End, 0-3 vs Rhydaman), tra bo’r Fflint wedi trechu Penrhyncoch (5-0). 

 

Y Bala v Pontypridd | Dydd Sadwrn – 14:30 

Am yr ail rownd yn olynol roedd angen ciciau o’r smotyn ar Y Bala nos Fawrth i gamu ymlaen i rownd nesaf Cwpan y Gynghrair. 

Roedd Y Bala wedi curo’r Fflint ar giciau o’r smotyn yn y rownd flaenorol, ac unwaith eto ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Bangor, tîm Colin Caton oedd yn fuddugol yn dilyn 20 o giciau o’r smotyn! 

Mae’r canlyniad yn golygu bod rhediad rhagorol Y Bala yn parhau gyda Hogiau’r Llyn heb golli dim un o’u naw gêm ddomestig y tymor yma.  

Ond dyw record Y Bala ddim hanner cystal a rhediad presennol Pontypridd, gan fod y clwb sy’n 2il yn Nghynghrair y De heb golli ers Rhagfyr 2019 (3-2 vs Hwlffordd). 

Ar ôl trechu Penrhyncoch yn y gwpan nos Fercher, mae rhediad anhygoel Ponty wedi ei ymestyn i 26 gêm heb golli, yn cynnwys eu buddugoliaeth swmpus yn erbyn Penydarren yn ail rownd Cwpan Cymru (6-0). 

Ond os yw 6-0 yn ganlyniad swmpus, tybed beth yw’r ansoddair i ddisgrifio’r canlyniad anhygoel gafodd Y Bala yn erbyn Brymbo yn y rownd ddiwethaf! 

Buddugoliaeth anghredadwy Y Bala o 17-1 dros Brymbo yw’r ail sgôr uchaf yn holl hanes Cwpan Cymru ers 1877, a’r fwyaf yn y gystadleuaeth ers i Mold Alyn Stars ennill 0-21 yn erbyn Yr Amwythig yn rownd gyntaf 1894/95.  

Mae’r hyder yn hynod uchel yn y ddwy garfan felly, ond yn anffodus bydd yn rhaid i rediad di-guro un o’r clybiau ddod i ben ym Maes Tegid ddydd Sadwrn.

 

Rhestr llawn o gemau 3edd rownd Cwpan Cymru JD

Nos Wener: Caernarfon v Prestatyn, Cambrian a Clydach v Pen-y-bont, Bae Colwyn v Rhuthun, Conwy v Y Seintiau Newydd, Ffynnon Taf v Llanilltud Fawr 

Dydd Sadwrn: Aberystwyth v Derwyddon Cefn, Airbus UK v Hwlffordd, Y Bala v Pontypridd, Bwcle v Trefynwy, Met Caerdydd v Y Barri, Dinas Powys v Cegidfa, Y Drenewydd v Caerfyrddin, Penrhiwceiber v Y Fflint, Saltney v Penrhyncoch, Prifysgol Abertawe v Bangor, Trefelin v Cei Connah 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?