S4C

Navigation

Golwg sydyn ar y chwe gêm yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos.

Nos Wener, 27 Tachwedd

Y Bala v Y Drenewydd | Nos Wener – 19:45 (Facebook Live)

Yn dilyn gêm ddi-sgôr a di-fflach yn erbyn Y Barri y penwythnos diwethaf bydd Y Drenewydd yn fodlon gyda’r canlyniad ond yn gobeithio am well perfformiad ar Faes Tegid nos Wener.

Mae’r Bala’n llawn hyder yn dilyn rhediad o saith gêm heb golli (ennill 5, cyfartal 2) – eu cyfnod gorau ers pedair blynedd, pan aeth y clwb ar rediad o 11 o gemau heb golli.

Ar ben hynny, mae tîm Colin Caton wedi ennill pump o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd ac heb golli gartref yn erbyn y Robiniaid ers Ebrill 2015.

Record cynghrair diweddar:

Y Bala: ✅✅➖➖✅

Y Drenewydd: ❌➖❌✅➖

 

Dydd Sadwrn, 28 Tachwedd

Cei Connah v Y Barri | Dydd Sadwrn – 13:30 (S4C)

Mae Cei Connah wedi ennill wyth o’u 11 gêm y tymor hwn gyda’r unig golled hyd yma yn dod yn erbyn Y Seintiau Newydd (1-0).

Ar ôl rhediad arbennig o bum buddugoliaeth yn olynol rhwng Medi a Hydref mae’r Barri wedi taro wal a heb ennill dim un o’u pum gêm ddiwethaf.

Dyw Cei Connah heb golli dim un o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri (ennill 3, cyfartal 4), ac heb ildio yn eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn tîm Gavin Chesterfield.

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah:  ✅➖❌✅✅

Y Barri: ➖❌➖❌➖

 

Caernarfon v Hwlffordd | Dydd Sadwrn – 14:30

Mi fydd hi’n gêm fawr i Gaernarfon ddydd Sadwrn gan bod hogiau Huw Griffiths mewn perygl o lithro i’r hanner isaf gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu’r Cofis (6ed) a’r Fflint (11eg).

Fel Caernarfon, tydi Hwlffordd heb ennill dim un o’u pedair gêm ddiwethaf, ond byddai buddugoliaeth i’r Adar Gleision yn eu codi uwchben y Canerîs.

Dyw Hwlffordd heb golli dim un o’u 15 gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon, ers colli 6-0 ar yr Oval ym mis Chwefror 2002.

Record cynghrair diweddar:

Caernarfon: ✅❌❌➖❌

Hwlffordd: ✅➖❌➖❌

 

Y Fflint v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae hon yn gêm allweddol yn y ras i osgoi’r cwymp gyda’r ddau dîm yn hafal ar bwyntiau yn y 10fed a’r 11eg safle.

Roedd ‘na ryddhad mawr i Niall McGuinness ddydd Sadwrn diwethaf wrth i’r Fflint ddod a rhediad o saith colled yn olynol i ben gan guro Hwlffordd yn gyfforddus yn Nôl-y-Bont.

Met Caerdydd oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol gyda Dylan Rees a Ollie Hulbert yn rhwydo i’r myfyrwyr ar Gampws Cyncoed ym mis Hydref (Met 2-1 Ffl), eu hunig fuddugoliaeth ers curo Aberystwyth ar y penwythnos agoriadol.

Record cynghrair diweddar:

Y Fflint: ❌❌❌❌✅

Met Caerdydd: ❌❌✅➖❌

 

Y Seintiau Newydd v Aberystwyth | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r Seintiau’n dechrau’r penwythnos chwe phwynt yn glir ar y copa, a nhw yw’r unig glwb sy’n dal heb golli gêm y tymor yma (ennill 10, cyfartal 2).

Ar ôl chwe buddugoliaeth yn olynol i’r Seintiau ar ddechrau’r tymor, Aberystwyth oedd y clwb cyntaf i gipio pwynt yn erbyn criw Croesoswallt, a’r tîm cyntaf i sgorio yn eu herbyn y tymor yma.

Cyfartal 2-2 oedd hi’n y gêm gyfatebol honno ym mis Hydref, ond dyw Aberystwyth ond wedi ennill dwy gêm y tymor hwn, a rheiny yn erbyn y ddau glwb isaf, sef Y Fflint a Derwyddon Cefn.

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ➖✅➖✅✅

Aberystwyth: ❌✅❌➖➖

 

Dydd Sul, 29 Tachwedd

Pen-y-bont v Derwyddon Cefn | Dydd Sul – 14:30

Mae’r Derwyddon ar waelod y tabl, bum pwynt y tu ôl i weddill y pac, ond mae gan hogiau Bruno Lopes ddwy gêm wrth gefn felly does dim angen dechrau poeni’n ormodol ar hyn o bryd.

Mae Pen-y-bont wedi cael dechrau cadarn i’r tymor, ac ond wedi colli yn erbyn y tri chlwb orffennodd yn y tri uchaf y tymor diwethaf, sef Cei Connah, Y Seintiau Newydd a’r Bala.

Pen-y-bont oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol gyda Kane Owen a Mael Davies yn sgorio ar y Graig ym mis Hydref (Cefn 0-2 Pen).

Record cynghrair diweddar:

Pen-y-bont: ✅✅❌✅❌

Derwyddon Cefn: ❌❌✅❌❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 5:30.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?