Dros y penwythnos bydd 16 o glybiau’n cystadlu ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru JD.
Nos Wener, 15 Hydref
Y Fflint v Cei Connah | Nos Wener – 19:45
Yn narbi fawr Sir y Fflint bydd Michael Wilde yn wynebu ei gyn-glwb am y tro cyntaf ers gadael Cei Connah dros yr haf.
Nid llawer fyddai rhagweld y byddai’r Fflint yn eistedd yn yr 2il safle wedi naw gêm gynghrair, a byddai llai fyth wedi disgwyl gweld y pencampwyr, Cei Connah, mor isel a’r 9fed safle, wedi rhediad truenus o saith gêm gynghrair heb fuddugoliaeth.
Ond, mae Cei Connah wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint, a gyda thocyn i Ewrop yn y fantol i enillwyr y gwpan, mae hon yn gêm anferthol i’r ddau glwb.
Dydd Sadwrn, 16 Hydref
Bae Colwyn v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 12:45 (S4C)
Bydd Bae Colwyn yn cwrdd â Met Caerdydd am y tro cyntaf erioed yn fyw ar gamerâu Sgorio ddydd Sadwrn.
Mae Gwylanod y Bae, sydd yn 6ed yng Nghynghrair y Gogledd, wedi curo Gresffordd (1-2) a Rhuthun (5-1) i gyrraedd y 4edd rownd, ac yn paratoi i herio’r clwb gyrhaeddodd y rownd gynderfynol yn 2019/20 cyn i’r gystadleuaeth gael ei diddymu oherwydd Covid-19.
Mae Met Caerdydd wedi ennill saith o’u naw gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, a bydd y myfyrwyr yn sicr yn cystadlu am le yn y Chwech Uchaf eleni.
Saltney v Aberystwyth | Dydd Sadwrn – 14:00
Saltney yw’r unig dîm o’r drydedd haen sydd wedi cyrraedd y bedwaredd rownd y tymor hwn, ac mae’r clwb sydd wedi ei leoli ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn edrych mlaen i groesawu Aberystwyth, gyrhaeddodd y rownd derfynol yn 2018.
Mae Saltney’n chwarae eu pêl-droed yng Nghynghrair Ardal y Gogledd Orllewin, ac ar ôl ymuno â’r gystadleuaeth hon yn y rownd ragbrofol gyntaf mae bechgyn Andy Dutton wedi curo Rhiwabon Rangers (2-7), Brickfield Rangers (0-3), Y Felinheli (3-1), Llanrhaeadr YM (3-5) a Penrhyncoch (cos) i gyrraedd y bedwaredd rownd.
Ond hon fydd her anoddaf Saltney hyd yma wedi i Aberystwyth drechu Cwm Aber (9-0) a Derwyddon Cefn (4-1) i ddod cyn belled yn y gystadleuaeth.
Bwcle v Ffynnon Taf | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd oleiaf dau glwb o’r ail haen yn cyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD, gan bod Bwcle o Gynghrair y Gogledd yn herio Ffynnon Taf o Gynghrair y De, tra bydd Prifysgol Abertawe yn wynebu Cegidfa.
Mae Bwcle yn 4ydd yng Nghynghrair Gogledd Cymru yn dilyn rhediad rhagorol o saith buddugoliaeth yn olynol yn ddiweddar, tra bod Ffynnon Taf yn 9fed yng Nghynghrair De Cymru.
Nid hon yw’r gêm gyntaf rhwng y clybiau gan iddynt gwrdd ddegawd yn ôl yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru, ac roedd hi’n dipyn o gêm wrth i Fwcle ennill 4-3 yn 2011.
Caerfyrddin v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl achosi dipyn o sioc yn y rownd ddiwethaf drwy guro’r Drenewydd ar giciau o’r smotyn, gwobr Caerfyrddin ydi cael croesawu deiliaid Cwpan Cymru, Y Seintiau Newydd i Barc Waun Dew.
Mae cewri Croesoswallt ar rediad arbennig o 11 gêm heb golli (ennill 10, cyfartal 1) ac wedi agor bwlch o saith pwynt ar frig Uwch Gynghrair Cymru.
Mae’r Seintiau wedi ennill 14 o’u 15 gêm ddiwethaf yn erbyn Caerfyrddin gyda’r Hen Aur yn curo’r Seintiau ddiwethaf ar Barc Waun Dew yn Chwefror 2017.
Hwlffordd v Y Bala | Dydd Sadwrn – 14:30
Yn un o’r dair gêm rhwng dau dîm o’r brif haen, bydd Hwlffordd (11eg) yn brwydro gyda’r Bala (4ydd) am le yn rownd yr wyth olaf.
Wedi dechrau rhagorol i’r tymor, mae hi wedi bod yn wythnos gostus i’r Bala gafodd gêm gyfartal yn erbyn Derwyddon Cefn ddydd Sadwrn diwethaf, cyn colli’n hwyr yn erbyn Y Seintiau Newydd nos Fawrth.
Mae’r Bala eisoes wedi curo Hwlffordd yn gyfforddus y tymor hwn (6-2), ond yn y gêm gwpan ddiwethaf rhwng y timau roedd hi’n ddi-sgôr wedi 90 munud cyn i’r Bala sgorio pedair yn yr amser ychwanegol yn Nôl y Bont ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru 2018/19.
Pen-y-bont v Caernarfon | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Pen-y-bont wedi trechu Gwndy (7-0) a Cambrian a Clydach (1-3) yng Nghwpan Cymru eleni, tra bod Caernarfon wedi cyrraedd y bedwaredd rownd heb ildio gôl ar ôl curo Dinbych (0-4) a Phrestatyn (3-0).
Tydi hi heb fod yn ddechrau da i’r tymor i Ben-y-bont, gan bod tîm Rhys Griffiths ond wedi ennill dwy o’u naw gem gynghrair hyd yma.
Ond dyw Pen-y-bont heb golli dim un o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon (ennill 2, cyfartal 4).
Prifysgol Abertawe v Cegidfa | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd Prifysgol Abertawe a Chegidfa yn mynd benben am y tro cyntaf erioed mewn gêm fawr rhwng dau dîm o’r ail haen.
Mae Prifysgol Abertawe yn 12fed yng Nghynghrair De Cymru ac wedi trechu Cil-y-coed (6-3) a Bangor (1-0) i sicrhau gêm yn erbyn Cegidfa, sydd yn 2il yng Nghynghrair Gogledd Cymru, ac wedi curo Llandudno Albion (3-5) a Dinas Powys (2-4) i gyrraedd y bedwaredd rownd.
Mae Cegidfa ar rediad rhagorol o 12 gêm heb golli (ennill 10, cyfartal 2), ac wedi colli dim ond un o’u 20 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ar giciau o’r smotyn yn erbyn Airbus UK).
Bydd uchafbwyntiau pob un o’r gemau ar Sgorio nos Lun am 5.30.