Bydd pencampwyr y Cymru Premier, Cei Connah yn cystadlu yn rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr am y tro cyntaf yn eu hanes, gyda’r Seintiau Newydd, Y Bala a’r Barri yn cystadlu yn rowndiau rhagbrofol cynghrair Europa.
Ar ôl ennill y Cymru Premier am y tro cyntaf yn eu hanes bydd Cei Connah yn cystadlu yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr.
Fe all tîm Andy Morrison wynebu rhai o enwau mawr y gystadleuaeth yn y rownd ragbrofol gyntaf, gyda Celtic (Yr Alban), Molde FK (Norwy) a Red Star Belgrade (Serbia) I gyd yn dechrau eu hantur Ewropeaidd yn y rownd ragbrofol gyntaf.
Bydd yr enwau yn dod allan o’r het ar gyfer gemau rownd rhagbrofol cyntaf cynghrair y pencampwyr ar ddydd Sul 9fed Awst.
Gyda’r Seintiau yn methu sicrhau’r bencampwriaeth y tymor diwethaf, bydd tîm Scott Ruscoe yn cystadlu yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa, gyda’r Bala a’r Barri hefyd yn cystadlu yn y gystadleuaeth.
Bydd YSN a’r Bala yn dechrau yn rownd ragbrofol gyntaf y gystadleuaeth, gyda’r Barri yn cystadlu yn y rownd gynragbrofol.
Yn y rownd gyntaf gyda’r timau o Gymru bydd APOEL Nicosia (Cyprus), Malmö (Sweden) a Partizan Belgrade (Serbia) I enwi rhai, gyda thimau o San Marino, Andora a Gibraltar yn cystadlu yn y rownd gynragbrofol.
Bydd seremoni cyhoeddi gemau gynragbrofol Cynghrair Europa ar ddydd Sul 9fed o Awst, gyda’r enwau yn dod allan o’r het ar gyfer y rownd ragbrofol gyntaf ar ddydd Llun 10fed Awst,
Dyddiadau i’w cofio
9 Awst – Cyhoeddi gemau rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr / cyhoeddi gemau rownd gynragbrofol Cynghrair Europa.
10 Awst – Cyhoeddi gemau ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr / cyhoeddi gemau rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.
18/19 Awst – Gemau rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, un cymal.
20 Awst – Rownd gynragbrofol Cynghrair Europa
25/26 – Ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr, un cymal
27 Awst – Rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa, un cymal.