S4C

Navigation

Mae’r fantais gan Gei Connah yn y ras am y bencampwriaeth yn dilyn buddugoliaeth gyntaf y Nomadiaid oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd ers 25 o flynyddoedd. Ond gyda pum gêm yn weddill fe all pethau newid yn sylweddol yn ystod y dyddiau nesaf gan bod set llawn o gemau i’w chwarae yng nghanol wythnos cyn i’r ddau ar y brig fynd benben unwaith yn rhagor ddydd Sadwrn. 

CHWECH UCHAF 

Pen-y-bont (4ydd) v Y Barri (5ed) | Nos Fawrth – 19:45 

Ar ôl rhediad o bedair gêm heb fuddugoliaeth mae’r Barri wedi llithro i’r 5ed safle, ond byddai buddugoliaeth nos Fawrth yn eu codi yn ôl uwchben Pen-y-bont i’r 4ydd safle. 

 

Mae’r ddau reolwr wedi cydnabod bod cyrraedd y 3ydd safle yn anhebygol bellach, ac mae’r gemau ail gyfle yw’r llwybr mwyaf realistig i gyrraedd Ewrop eleni, ac felly adeiladu momentwm yw’r nod erbyn hyn. 

 

Roedd hi’n chwip o gêm rhwng y ddau dîm wythnos diwethaf wrth i 10 dyn Pen-y-bont frwydro ‘nôl i gipio pwynt ar Barc Jenner (3-3). 

 

Canlyniadau tymor yma: Y Barri 0-1 Pen-y-bont, Pen-y-bont 1-0 Y Barri, Y Barri 3-3 Pen-y-bont 

 

Record cynghrair diweddar:    

Y Barri: ✅❌❌͏➖❌ 

Pen-y-bont: ✅❌❌➖✅ 

 

 

Y Seintiau Newydd (2il) v Caernarfon (6ed) | Nos Fawrth – 19:45 (Yn fyw arlein) 

Roedd Y Seintiau Newydd wedi ennill saith yn olynol gan ildio dim ond un gôl cyn cael eu chwalu 4-1 gartref yn erbyn Cei Connah ddydd Sadwrn, gan golli eu lle ar frig y tabl. 

 

Triphwynt sy’n gwahanu’r ceffylau blaen a byddai buddugoliaeth yn erbyn y Cofis yn codi’r Seintiau yn ôl i’r copa i gadw’r pwysau ar Gei Connah cyn i dîm Andy Morrison fentro i’r Bala nos Fercher. 

 

Wedi rhediad arbennig o wyth gêm heb golli mae Caernarfon bellach wedi dioddef chwe colled yn olynol, eu rhediad gwaethaf ers 2008. 

 

Canlyniadau tymor yma: Caernarfon 0-4 Y Seintiau Newydd, Y Seintiau Newydd 4-1 Caernarfon, Caernarfon 0-2 Y Seintiau Newydd 

 

Record cynghrair diweddar:    

Caernarfon: ❌❌❌❌ 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅ 

 

 

Y Bala (3ydd) v Cei Connah (1af) | Nos Fercher – 19:45 (Yn fyw arlein) 

Cei Connah sy’n arwain y pac ar ôl perfformiad rhagorol yn Neuadd y Parc ddydd Sadwrn i godi driphwynt yn glir o’r Seintiau Newydd. 

 

Michael Wilde oedd yr arwr, yn sgorio hatric yn yr hanner cyntaf yn erbyn ei gyn-glwb i roi’r cyfan yn nwylo’r Nomadiaid cyn pum gêm ola’r tymor. 

 

Ar ôl curo’r Barri dros y penwythnos, mae’r Bala naw pwynt yn glir yn y trydydd safle a’r ras i sicrhau lle’n Ewrop. 

 

Dyw Cei Connah heb golli dim un o’u 10 gêm ddiwethaf yn erbyn Y Bala (ennill 8, cyfartal 2), a dyw criw Colin Caton ond wedi ennill un o’u 20 gêm ddiwethaf yn erbyn tîm Andy Morrison. 

 

Canlyniadau tymor yma: Cei Connah 1-1 Y Bala, Y Bala 1-3 Cei Connah, Cei Connah 2-0 Y Bala 

 

Record cynghrair diweddar:    

Cei Connah: ❌✅✅✅✅ 

Y Bala❌✅✅❌✅ 

 

 

 

CHWECH ISAF 

Aberystwyth (9fed) v Derwyddon Cefn (12fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Bydd Aberystwyth yn croesawu’r clwb ar waelod y gynghrair i Goedlan y Parc gan obeithio trechu hogiau’r Graig am y pedwerydd tro’r tymor yma. 

 

Mae tîm Jayson Starkey wedi colli eu pedair gêm ddiwethaf, a dyw’r Derwyddon ond wedi ennill un o’u saith gêm flaenorol yn erbyn Aberystwyth. 

 

Canlyniadau tymor yma: Derwyddon Cefn 0-4 Aberystwyth, Aberystwyth 3-1 Derwyddon CefnDerwyddon Cefn 0-3 Aberystwyth 

 

Record cynghrair diweddar:    

Derwyddon Cefn: ✅❌❌❌❌ 

Aberystwyth: ❌❌❌✅➖ 

 

 

Hwlffordd (8fed) v Met Caerdydd (10fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Sgoriodd Met Caerdydd chwe gôl yn erbyn Hwlffordd yr wythnos diwethaf, sef y tro cyntaf i’r myfyrwyr rwydo chwe gôl mewn gêm ers 2018, ac hynny hefyd yn erbyn Hwlffordd mewn gêm gwpan. 

 

Mae Met Caerdydd yn hafal ar bwyntiau gydag Aberystwyth a’r Fflint, ac er na fydd neb yn syrthio o’r uwch gynghrair yr haf yma, bydd y tri chlwb yn benderfynol o beidio gorffen yn y ddau safle isaf er mwyn teimlo eu bod wedi haeddu eu lle’n y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf. 

 

Canlyniadau tymor yma: Met Caerdydd 0-0 Hwlffordd, Hwlffordd 1-0 Met Caerdydd, Met Caerdydd 6-1 Hwlffordd 

 

Record cynghrair diweddar:    

Met Caerdydd: ❌➖✅✅➖ 

Hwlffordd: ❌✅❌❌➖ 

 

 

Y Drenewydd (7fed) v Y Fflint (11eg) | Nos Fawrth – 19:45 

Dechreuodd Y Drenewydd ail ran y tymor naw pwynt y tu ôl i Hwlffordd yn y 7fed safle, ond ar ôl pum gêm heb golli mae’r Robiniaid wedi esgyn uwchben yr Adar Gleision.  

 

Ar ôl ennill tair gêm yn olynol wedi’r hollt mae’r Fflint bellach wedi llithro’n y ras am y gemau ail gyfle gan fethu a sgorio yn eu dwy gêm ddiwethaf. 

 

Canlyniadau tymor yma: Y Fflint 1-0 Y Drenewydd, Y Drenewydd 3-2 Y Fflint, Y Fflint 0-2 Y Drenewydd 

 

Record cynghrair diweddar:    

Y Fflint: ✅✅✅❌➖ 

Y Drenewydd: ✅➖✅✅✅ 

 

 

Bydd uchafbwyntiau gemau nos Fawrth i’w gweld ar Mwy o Sgorio nos Fercher am 21:30. 

 

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Can't find what you're looking for?