S4C

Navigation

Wedi’r seibiant annisgwyl y penwythnos diwethaf bydd gemau’r Cymru Premier JD yn mynd yn eu blaen y penwythnos yma ac mae yna gemau allweddol yn cael eu cynnal gyda’r ddau uchaf yn cyfarfod ar Gampws Cyncoed a’r newydd-ddyfodiaid yn mynd benben mewn brwydr ger gwaelod y tabl. 

Nos Wener, 16 Medi 

 

Aberystwyth (11eg) v Cei Connah (6ed) | Nos Wener – 20:00  

 

Mae Aberystwyth wedi cael dechrau digon anodd i’r tymor gan golli pedair gêm yn olynol, ac roedd ildio pedair yn erbyn Y Bala yn eu gêm ddiwethaf yn hynod siomedig, yn enwedig gan i gapten yr ymwelwyr Chris Venables gael ei hel o’r maes wedi llai na dau funud o’r gêm. 

 

Ac fe allai fod yn noson heriol arall i’r Gwyrdd a’r Duon gan bod Aberystwyth ar rediad o 11 gêm heb ennill yn erbyn Cei Connah (cyfartal 2, colli 9). 

 

Mae Cei Connah wedi ennill eu tair gêm gartref heb ildio gôl, ond bydd Neil Gibson yn gobeithio gall y Nomadiaid gasglu eu pwynt cyntaf oddi cartref ar ôl colli yn erbyn y ddau uchaf, Met Caerdydd a’r Seintiau Newydd ym mis Awst. 

 

 

Dydd Sadwrn, 17 Medi  

 

 

Caernarfon (3ydd) v Hwlffordd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Bydd Caernarfon yn benderfynol o barhau â’u record gartref berffaith pan daw’r Adar Gleision i’r Oval brynhawn Sadwrn. 

 

Hwlffordd oedd ar frig y gynghrair wedi tair gêm, ond ar ôl colli o 3-2 ddwywaith o fewn wythnos (vs Pen-y-bont a’r Drenewydd) mae tîm Tony Pennock wedi syrthio i’r 8fed safle. 

 

Hon fydd yr ail gêm rhwng y ddau dîm y tymor yma gan i Hwlffordd guro’r Cofis ar y penwythnos agoriadol diolch i beniad hwyr Jordan Davies (Hwl 1-0 Cfon). 

 

 

 

Met Caerdydd (2il) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r ddau uchaf mae hon yn gaddo i fod yn gêm arwyddocaol ar gopa’r gynghrair brynhawn Sadwrn. 

 

Y pencampwyr presennol yw’r unig dîm sydd heb golli yn y gynghrair y tymor yma, a dyw tîm Craig Harrison ond wedi ildio unwaith mewn pum gêm. 

 

Mae Met Caerdydd hefyd wedi cadw pedair llechen lân mewn pum gêm a bydd prif sgoriwr y gynghrair, Sam Jones yn awyddus i ychwanegu at y chwe gôl a sgoriodd ym mis Awst. 

 

Does gan Y Seintiau Newydd ddim record rhy arbennig yng Nghampws Cyncoed ar ôl ennill dim ond unwaith yn eu pum hymweliad diwethaf, felly bydd y myfyrwyr yn ffyddiog o fedru sicrhau canlyniad cadarnhaol yn y brifddinas. 

 

 

 

Pontypridd (10fed) v Airbus UK (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Bydd y ddau glwb gododd i’r gynghrair dros yr haf yn cyfarfod am y tro cyntaf dros y penwythnos.  

 

Mae dechrau rhwystredig Airbus yn parhau wedi i dîm Steve O’Shaughnessy golli pob un o’u pum gêm ers esgyn yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru. 

 

Pontypridd sydd â’r record ymosodol wannaf yn y gynghrair ar ôl sgorio dim ond ddwywaith yn eu pum gêm hyd yma, gyda’r ddwy gôl yn dod yn eu hunig fuddugoliaeth o’r tymor yn erbyn Aberystwyth. 

 

Er ein bod ni’n eithriadol o gynnar yn y tymor mae hon yn teimlo fel gêm all ddiffinio ymgyrch y ddau glwb – byddai ennill yn hwb aruthrol, ond byddai colled yn arwydd clir mae brwydr tua’r gwaelod fydd hi eleni. 

 

 

 

 

Y Fflint (4ydd) v Y Bala (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Ar ôl pum gêm oddi cartref yn olynol, bydd Y Fflint yn chwarae ar eu cae 4G newydd am y tro cyntaf yng Nghae-y-Castell brynhawn Sadwrn. 

 

Bellach mae naw allan o’r 12 tîm yn y gynghrair yn chwarae ar gaeau atriffisial, a bydd angen i’r Fflint ymgartrefu’n sydyn gan bod tair o’u pedair gêm gynghrair nesaf yn gemau cartref. 

 

Ond bydd yr hyder yn uchel gan Hogiau’r Llyn gan fod tîm Colin Caton wedi ennill pob un o’u saith gêm yn erbyn Y Fflint ers eu dyrchafiad yn 2020. 

 

 

Y Drenewydd (9fed) v Pen-y-bont (5ed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C) 

 

Ar ôl dechrau digon araf i’w hymgyrch mae’r Drenewydd wedi dod o hyd i’w hesgidiau sgorio gan ennill dwy gêm gynghrair yn olynol (vs Caernarfon a Hwlffordd). 

Fel Cei Connah a Chaernarfon mae gan Ben-y-bont record berffaith gartref, ond wedi colli eu dwy gêm oddi cartref hyd yma. 

 

Wedi dweud hynny, fe enillodd Pen-y-bont ar eu hymweliad diwethaf â Pharc Latham ym mis Mawrth, ond honno yw eu hunig fuddugoliaeth mewn chwe gêm yn erbyn Y Drenewydd (cyfartal 1, colli 4), ac honno hefyd oedd buddugoliaeth ddiwethaf Pen-y-bont oddi cartref ym mhob cystadleuaeth. 

 

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Fawrth. 

 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?