Y Seintiau Newydd sy’n arwain y ffordd yn y Cymru Premier wedi’r 12 gêm agoriadol, ac mae’r pencampwyr chwe phwynt yn glir ar frig y tabl ar ôl 11 buddugoliaeth yn olynol.
Doedd Pen-y-bont heb golli gêm tan y penwythnos diwethaf pan enillodd Cei Connah o 1-0 yn erbyn y Gleision gan godi uwch eu pennau i’r ail safle.
Bydd hi’n gêm galed arall i dîm Rhys Griffiths y penwythnos yma pan fydd Pen-y-bont (3ydd) yn croesawu’r Barri (4ydd) i Stadiwm Dragonbet.
Mae Rhydaman wedi codi i’r 14eg safle ar ôl sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn yr uwch gynghrair, ac hynny yn erbyn Treffynnon sy’n aros ar waelod y tabl.
Dyw pethau’n mynd dim haws i Dreffynnon wrth iddyn nhw baratoi i herio’r Seintiau Newydd a enillodd o 9-0 yn erbyn Cambrian brynhawn Sadwrn.
A bydd rheolwr newydd Y Fflint, Danny Holmes yn awyddus i barhau â’i record 100% wrth i’r Sidanwyr anelu am eu trydedd buddugoliaeth o’r bron gartref yn erbyn Bae Colwyn.
Nos Wener, 9 Hydref
Cambrian (9fed) v Rhydaman (14eg) | Nos Wener – 19:45
Am yr eildro’r tymor yma, mae Cambrian wedi ildio naw gôl mewn gêm ar ôl cael crasfa yn Neuadd y Parc brynhawn Sadwrn (YSN 9-0 Cambrian).
Bythefnos ynghynt fe gollodd Cambrian o 9-1 oddi cartref yng Nghaernarfon, gyda tîm Liam Williams yn mynd lawr i 10-dyn yn y ddwy gêm.
Ond mae gan Cambrian record lawer gwell gartref, ac yn un o bedwar o dimau sydd heb golli gartref y tymor yma (YSN, Pen-y-bont, Bae Colwyn).
Roedd yna reswm i ddathlu o’r diwedd i Rhydaman brynhawn Sadwrn wrth iddyn nhw sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn yr uwch gynghrair (Rhydaman 2-1 Treffynnon).
Treffynnon (38) yw’r unig dîm sydd wedi ildio mwy o goliau na Cambrian (32) a Rhydaman y tymor (32) hwn, ond mae record sgorio Cambrian dipyn cryfach na’u gwrthynebwyr gan bod Liam Eason ei hun, wedi sgorio yr un nifer o goliau a charfan gyfan Rhydaman (9).
Fe wnaeth y clybiau gyfarfod ddwywaith yng Nghynghrair y De y tymor diwethaf, ac fe orffennodd y ddwy gêm yn gyfartal.
Record cynghrair diweddar:
Cambrian: ͏✅✅❌✅❌
Rhydaman: ͏❌➖❌❌✅
Hwlffordd (12fed) v Caernarfon (5ed) | Nos Wener – 19:45
Dyw Hwlffordd ddim yn mwynhau tymor da o’u safonau diweddar nhw, gyda’r Adar Gleision yn y 12fed safle ar ôl colli eu tair gêm ddiwethaf o un gôl i ddim.
A colli o un i ddim bu hanes Caernarfon dros y penwythnos hefyd gyda’r Barri’n codi uwchben y Cofis yn dilyn eu triphwynt ar yr Oval.
Does neb wedi ennill mwy o bwyntiau oddi cartref na Chaernarfon y tymor yma (14pt) ar ôl ennill pedair a chael dwy gêm gyfartal, heb golli unwaith.
Zack Clarke yw prif sgoriwr y gynghrair gyda 11 o goliau, sy’n fwy na chyfanswm goliau Hwlffordd, sef y tîm â’r ail record ymosodol waetha’n y gynghrair (7 gôl mewn 12 gêm).
Ond mae gan Hwlffordd record ryfeddol yn erbyn y Cofis gan nad yw tîm Tony Pennock wedi colli yn y 10 gêm ddiwethaf rhwng y clybiau (ennill 3, cyfartal 7).
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ͏✅✅❌❌❌
Caernarfon: ͏✅➖✅➖❌
Llandudno (10fed) v Airbus UK Brychdyn (8fed) | Nos Wener – 19:45
Ar ôl dechrau campus i’r tymor, mae Llandudno bellach wedi llithro i’r 10fed safle ar ôl sicrhau dim ond un pwynt o’u pum gêm ddiwethaf.
Doedd tîm Jordan Hadaway heb golli mewn 25 gêm gartref cyn y golled o 0-1 ar Barc Maesdu yn erbyn Met Caerdydd brynhawn Sadwrn.
Airbus yw’r unig dîm yn y gynghrair sydd heb gael gêm gyfartal hyd yma, ac o’r chwe newydd-ddyfodiaid, carfan Mark Allen sydd yn eistedd uchaf yn y tabl erbyn hyn (8fed).
Mae Airbus wedi ennill naw o’u 10 gêm ddiwethaf yn erbyn Llandudno, ond fe wnaeth tîm Jordan Hadaway guro bechgyn Brychdyn o 5-0 ar noson Calan Gaeaf y tymor diwethaf ble sgoriodd Callum Stephens hatric ar Barc Maesdu.
Record cynghrair diweddar:
Llandudno: ͏❌➖❌❌❌
Airbus UK: ͏❌❌✅❌✅
Llansawel (11eg) v Cei Connah (2il) | Nos Wener – 19:45
Ar ôl sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ers mis Awst drwy guro Bae Colwyn o 1-0 brynhawn Sadwrn, bydd Llansawel yn croesawu un arall o glybiau’r gogledd i’r Hen Heol y penwythnos hwn.
Llansawel sydd â’r record disgyblaeth waetha’n y gynghrair y tymor yma, gyda’r Cochion yn gweld eu pedwaredd cerdyn coch dros y penwythnos wrth i Ricky Lee-Owen gael ei hel o’r maes.
Mae Cei Connah wedi codi i’r ail safle ar ôl ennill pedair gêm yn olynol gan ddod â rhediad di-guro Pen-y-bont i ben brynhawn Sadwrn (Cei 1-0 Pen).
Enillodd y Nomadiaid eu dwy gêm yn erbyn Llansawel y tymor diwethaf ac fe sgoriodd Harry Franklin bump o goliau yn erbyn tîm Andy Dyer, yn cynnwys hatric ar yr Hen Heol ym mis Hydref.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ͏❌❌➖➖✅
Cei Connah: ͏❌✅✅✅✅
Met Caerdydd (7fed) v Trefelin (15fed) | Nos Wener – 19:45
Roedd hi’n fuddugoliaeth fawr i Met Caerdydd dros y penwythnos (Lldo 0-1 Met), sy’n golygu bod y myfyrwyr m’ond wedi colli unwaith yn eu wyth gêm gynghrair ddiwethaf (ennill 4, cyfartal 3).
Dim ond un pwynt sy’n gwahanu Met Caerdydd (7fed) a Bae Colwyn (6ed), sef gwrthwynebwyr nesaf tîm Ryan Jenkins, a bydd llanciau’r brif ddinas yn benderfynol o dorri mewn i’r Chwech Uchaf.
Ar ôl ennill pencampwriaeth y de y tymor diwethaf, mae canlyniadau Trefelin wedi bod yn siomedig eleni ac mae tîm Andy Hill yn dal i aros em eu buddugoliaeth gyntaf yn yr uwch gynghrair (cyfartal 3, colli 9).
Dyw Trefelin m’ond wedi sgorio pum gôl yn eu 12 gêm agoriadol, a bydd angen codi’r safon yn eu gêm gyntaf erioed yn erbyn Met Caerdydd.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏➖❌➖✅✅
Trefelin: ͏❌❌➖❌❌
Pen-y-bont (3ydd) v Y Barri (4ydd) | Nos Wener – 19:45
Daeth record di-guro Pen-y-bont i ben y penwythnos diwethaf wrth iddyn nhw golli o 1-0 oddi cartref yn erbyn Cei Connah.
Ond dyw’r Gleision yn dal heb golli gartref y tymor hwn, er eu bod m’ond wedi sgorio naw gôl mewn chwe gêm yn Stadiwm Dragonbet (1.5 gôl y gêm).
Dyw’r Barri heb golli yn eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont (ennill 2, cyfartal 1), a’r Dreigiau oedd y tîm diwethaf i ennill oddi cartref ym Mhen-y-bont, ac hynny ym mis Ebrill (Pen 0-2 Barri).
Mae tîm Steve Jenkins wedi dringo ‘nôl i’r 4ydd safle ar ôl curo Caernarfon brynhawn Sadwrn (Cfon 0-1 Barri), a byddai triphwynt arall nos Wener yn eu codi uwchben Pen-y-bont.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏✅✅✅✅❌
Y Barri: ͏✅➖❌❌✅
Treffynnon (16eg) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45
Mae Treffynnon wedi cael dechrau trychinebus i’r tymor, yn sicrhau dim ond dau bwynt o’u 12 gêm agoriadol gan ildio 38 o goliau (3.2 gôl y gêm).
Wedi 11 buddugoliaeth yn olynol mae’r Seintiau Newydd ar frig y tabl, ac yn parhau yn ddi-guro y tymor hwn (ennill 11, cyfartal 1).
Fe roddodd y Seintiau grasfa o 9-0 i Cambrian y penwythnos diwethaf gan sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf yn y gynghrair ers Rhagfyr 2022 (YSN 11-0 Aberystwyth).
Mae golwr y pencampwyr, Nathan Shepperd wedi llwyddo i gadw saith llechen lân mewn 12 gêm gynghrair gan ildio dim ond pum gôl hyd yma.
Hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y timau ers Medi 2015 pan enillodd y Seintiau o 7-1 yn ail rownd Cwpan y Gynghrair, a dyw Treffynnon heb drechu’r Seintiau ers 31 o flynyddoedd, ym mis Awst 1995 (Treffynnon 2-1 Llansantffraid).
Record cynghrair diweddar:
Treffynnon: ͏❌❌❌➖❌
Y Seintiau Newydd: ͏͏✅✅✅✅✅
Dydd Sadwrn, 10 Hydref
Y Fflint (13eg) v Bae Colwyn (6ed) | Dydd Sadwrn – 17:15
Roedd Y Fflint wedi mynd ar rediad o 16 gêm heb ennill ym mhob cystadleuaeth pan ymunodd Danny Holmes fel rheolwr ar ddiwedd mis Medi, ac yn rhyfeddol, mae Holmes wedi ennill ei ddwy gêm gyntaf wrth y llyw.
Ar ôl curo Rhydaman o 3-0 yn ei gêm gyntaf, fe lwyddodd Y Fflint i ennill 0-1 oddi cartref yn Hwlffordd y penwythnos diwethaf, sy’n golygu bod y Sidanwyr heb ildio dan arweiniad eu rheolwr newydd.
Roedd hi’n golled annisgwyl i Fae Colwyn yn erbyn 10-dyn Llansawel brynhawn Sadwrn, ac hynny ar ôl ennill pedair gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf erioed yn y Cymru Premier.
Mae gan Fae Colwyn record gartref berffaith y tymor hwn (chwarae 6, ennill 6), ond dyw’r Gwylanod m’ond wedi ennill un o’u chwe gêm oddi cartref hyd yma.
Fe wnaeth y clybiau gyfarfod ddwywaith y tymor diwethaf, gyda’r tîm oddi cartref yn ennill ar ddau achlysur (Ffl 0-1 Bae, Bae 1-2 Ffl).
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ͏➖❌❌✅✅
Bae Colwyn: ͏✅✅✅✅❌




