Y Seintiau Newydd (0) v (1) Flora Tallinn | Nos Iau, 30 Gorffennaf – 18:30
(Neuadd y Parc, Croesoswallt – Ail Gymal, Ail Rownd Ragbrofol Cyngres UEFA 2026/27)
Mi fydd hi’n noson hanesyddol ar Neuadd y Parc nos Iau wrth i’r Seintiau Newydd baratoi am eu 100fed gêm yn Ewrop.
Ond mae’r fantais fain gan y tîm o Estonia wedi’r cymal cyntaf yn Tallinn yr wythnos diwethaf.
Sgoriodd Remi Valdmets unig gôl y gêm wedi hanner awr yn yr A le Coq Arena, gyda’r gŵr ifanc 18 oed yn gyrru foli feistrolgar heibio i Nathan Shepperd.
Fe wnaeth y Seintiau ddangos ambell fflach o safon gyda Dan Williams yn taro’r postyn yn yr ail hanner, ac felly mi fydd Craig Harrison yn credu bod modd troi’r ornest yma ar ei phen yn yr ail gymal.
Mae’r Seintiau Newydd wedi syrthio i rowndiau rhagbrofol Cyngres UEFA ar ôl colli o 4-1 dros ddau gymal yn erbyn pencampwyr Azerbaijan, Sabah yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr 2026/27.
A’r dasg bresennol i’r Seintiau yw ceisio concro cewri Estonia, Floria Tallinn – clwb mwyaf llwyddiannus y wlad, a enillodd y bencampwriaeth am yr 16eg y tymor diwethaf.
Mae Meistriliiga Estonia yn gynghrair sy’n rhedeg drwy’r haf, ac mae Flora yn eistedd yn yr ail safle wedi 19 gêm gynghrair y tymor hwn, gyda’u cymdogion Levadia Tallinn ar frig y gynghrair – y clwb a gurodd Caernarfon yn gyfforddus o 10-0 dros ddau gymal yn y rownd ddiwethaf.
Fel y Seintiau, mae gan Flora Tallinn hanes helaeth yn Ewrop, ond mae’r canlyniadau diweddar wedi bod yn siomedig gyda Flora yn ennill dim ond unwaith yn eu 15 gêm ddiwethaf yn Ewrop, a’r fuddugoliaeth honno yn dod wedi amser ychwanegol yn erbyn Virtus o San Marino.
Y tymor yma, roedd Flora, fel y Seintiau, yn dechrau eu hymgyrch yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr ond fe gollon nhw o 5-4 dros y ddau gymal yn erbyn Iberia 1999 o Georgia.
Daeth tymor mwyaf llwyddiannus Flora yn 2021/22 wrth iddyn nhw gyrraedd rownd y grwpiau yng Nghyngres UEFA am y tro cyntaf erioed.
Y Seintiau Newydd yw clwb mwyaf llwyddiannus Cymru yn Ewrop gan i’r tîm o Groesoswallt chwarae’n gyson ar y cyfandir ers 1996.
Llwyddodd y Seintiau i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol am y tro cyntaf erioed yn 2024 a chystadlu yn rownd y gynghrair Cyngres UEFA ble chwaraeon nhw yn erbyn Panathinaikos a Fiorentina.
Ond doedd yr ymgyrch ddiwethaf ddim mor llwyddiannus gyda’r Seintiau’n methu ag ennill dim un o’u pedair gêm Ewropeaidd yn 2025 (cyfartal 1, colli 3).
Bydd yr enillwyr yn camu ymlaen i wynebu pencampwyr Andorra, Inter Club d’Escaldes yn nhrydedd rownd ragbrofol Cyngres UEFA.
Record YSN yn Ewrop:
Rowndiau: 53 (ennill 12, colli 41) / Gemau: 99 (ennill 20, cyfartal 16, colli 63)
Tro diwethaf: (2025/26) Colli eu dwy rownd llynedd. Colli wedi amser ychwanegol yn erbyn Shkëndija yng Nghynghrair y Pencampwyr (1-2 dros y ddau gymal) cyn colli’n erbyn Differdange yng Nghyngres UEFA (0-2 dros y ddau gymal).




