Sgorio sy’n dewis pum chwaraewr sydd wedi serennu yn y Cymru Premier yr wythnos yma.
Oliver Byrne – Cei Connah
Fe ddringodd Cei Connah i frig y tabl nos Fawrth ar ôl i’r Nomadiaid ennill eu 9fed gêm yn olynol am y tro cyntaf erioed yn Uwch Gynghrair Cymru.
Perfformiad arwrol gan Oliver Byrne rhwng y pyst gan arbed ergydion gan Callum Bratley a Rob Hughes yn yr hanner cyntaf i gadw’r gêm yn ddi-sgôr.
Fe lwyddodd Byrne hefyd i greu’r gôl fuddugol – ei gic hir uniongyrchol yn canfod Michael Wilde wrth i Gei Connah guro’r Fflint 0-1 ar Gae-y-Castell.
Ers i Oliver Byrne sefydlu eu hun fel golwr Cei Connah dyw’r tîm heb ollwng yr un pwynt, gan gadw tair llechen lân mewn wyth ymddangosiad.
Lee Jenkins – Aberystwyth
Wythnos bwysig i Aberystwyth yn y ras i osgoi’r cwymp, gyda’r Gwyrdd a’r Duon yn dringo o waelod y tabl i’r 10fed safle ar ôl pigo pedwar pwynt o’u dwy gêm ers i’r tymor ail ddechrau.
Roedd dylanwad Lee Jenkins yn fawr drwy’r wythnos i Aber gan greu’r gôl agoriadol a sgorio’r gôl fuddugol yn erbyn Hwlffordd mewn buddugoliaeth 2-1 nos Fawrth. Buddugoliaeth bwysig i hyder y tîm ar ôl rhediad sâl o 10 gêm heb ennill.
Roedd dylanwad Jenkins yn fawr yn y gêm gyfartal 2-2 ar Yr Oval yn erbyn Caernarfon prynhawn Sadwrn hefyd, ei gliriad oddi ar y llinell yn yr eiliadau olaf yn sicrhau pwynt haeddiannol i’r ymwelwyr
Jamie Veale – Aberystwyth
Mae un arall o dîm Aberystwyth yn hawlio eu lle yn 5-yr-wythnos yr wythnos yma, gyda Jamie Veale yn allweddol yn yr ymosod i’r Gwyrdd a’r Duon wrth greu a sgorio yn y gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Caernarfon.
Llwyddodd Veale i groesi’r bêl i lwybr Jon Owen agor y sgorio gyda foli hyfryd yn y cwrt cosbi, cyn rhwydo ei hun gyda chic rydd wedi 96 munud i gipio pwynt.
Wedi chwe cholled yn olynol, roedd y pwynt yma yn un da oddi cartref ar Yr Oval.
Jordan Evans – Y Drenewydd
Sgoriodd Jordan Evans ddwywaith yn erbyn ei gyn-glwb wrth i’r Drenewydd guro Derwyddon Cefn 2-4 ar Y Graig nos Fawrth.
Dyma bedwaredd buddugoliaeth Y Robiniaid o’r tymor, gyda’r tîm yn dringo i’r 8fed safle.
Agorodd Evans y sgorio, Nick Rushton yn croesi ag Evans yn claddu’r bêl heibio Dawid Szczepaniak yn y gôl.
Sgorio Evans eto munudau cyn yr egwyl i’w gwneud hi’n 2-3 i’r ymwelwyr. Symudiad tebyg i’r gôl agoriadol yn gweld Nick Rushton yn bwydo Jordan Evans a’i ergyd yn hedfan heibio’r golwr.
Michael Wilde – Cei Connah
Sgoriodd Wilde y goliau buddugol yn erbyn Derwyddon Cefn a’r Fflint wrth i Gei Connah ddringo i frig y gynghrair.
Mae’r blaenwr profiadol wedi bod yn allweddol i dîm Andy Morrison y tymor hwn gan sgorio 11 mewn 14 ymddangosiad – gan eistedd yn y trydydd safle ar restr y prif sgorwyr.