Sgorio sy’n dewis pum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.
Paul Harrison – Y Seintiau Newydd
Capten Y Seintiau’n serennu rhwng y pyst unwaith eto gan atal Kayne McLaggon a Michael George gydag arbediadau pwysig i gadw’r Seintiau Newydd ar y blaen nos Sadwrn.
Llwyddodd YSN i guro’r Barri 1-2 ar Neuadd y Parc, gyda thîm Scott Ruscoe ar frig y tabl a phum pwynt yn glir o’r Bala.
Shannon Evans – Merched Met Caerdydd
Blaenwr Merched Met Caerdydd yn sgorio dwy yn y fuddugoliaeth 5-0 dros Gaerdydd ddydd Sul, gyda’r Myfyrwyr ar frig tabl Cynghrair y Merched gyda record ennill 100% ar ôl pum gêm.
Mae Evans wedi sgorio chwe gôl mewn tair y tymor hwn.
Will Evans – Y Bala
Ers ymuno â’r Bala o Met Caerdydd dros yr haf mae Will Evans wedi profi’n aelod allweddol o dîm Colin Caton.
Sgoriodd y bedwaredd yn y fuddugoliaeth 4-1 dros Ben-y-bont, ei seithfed gôl o’r tymor, a’i groesiad ar ôl rhediad campus lawr yr asgell chwith achosodd Oliver Dalton i rwydo i’w gôl ei hun.
Yn bedwerydd ar restr prif sgorwyr, mae Evans hefyd yn gydradd prif grëwr y gynghrair gan greu pum gôl y tymor hwn.
Louis Robles – Y Seintiau Newydd
Yn rhan allweddol o linell flaen Y Seintiau Newydd y tymor hwn, arwyddodd Robles â thîm Scott Ruscoe o’r Bala dros yr haf.
Mae’r blaenwr wedi cyfrannu at 13 gôl Y Seintiau gan sgorio wyth a chreu pump – 38% o goliau’r Seintiau y tymor hwn.
Sgoriodd y gyntaf nos Sadwrn yn y fuddugoliaeth 1-2 dros Y Barri, cyn creu’r ail i Greg Draper wrth sgwario’r bêl i lwybr yr ymosodwr profiadol.
Nick Rushton – Y Drenewydd
Sgoriodd Rushton ei bumed o’r tymor yn y fuddugoliaeth 3-2 dros Y Fflint ar Barc Latham prynhawn Sadwrn.
Fe ddoth Y Drenewydd yn gyfartal ar ôl bod ar ei hol hi o 1-2 drwy beniad bendigedig Rushton – croesiad Craig Williams o’r dde yn canfod yr ymosodwr a’i beniad at y postyn pellaf yn curo John Danby, golwr Y Fflint.