S4C

Navigation

Mae’r clybiau orffennodd yn y tri safle uchaf ym mhyramid Cymru y tymor diwethaf ar fin dechrau eu hantur Ewropeaidd. 

Bydd Hwlffordd a Pen-y-bont yn teithio i Malta a Lithwania yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres UEFA yr wythnos hon, tra bydd Y Seintiau Newydd yn croesawu pencampwyr Macedonia i Groesoswallt yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr. 

 Y Seintiau Newydd v Shkëndija (Macedonia) | Nos Fawrth, 8 Gorffennaf – 19:00 (Yn fyw ar S4C) 

(Neuadd y Parc, Croesoswallt – Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cynghrair y Pencampwyr 2025/26) 

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill y trebl domestig am y tro cyntaf ers 2016 gan sicrhau lle yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr. 

Y Seintiau Newydd yw clwb mwyaf llwyddiannus Cymru yn Ewrop gan i’r clwb o Groesoswallt chwarae’n gyson ar y cyfandir ers 1996. 

Llynedd fe lwyddodd y Seintiau i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol am y tro cyntaf erioed gan gystadlu yn rownd y gynghrair Cyngres UEFA ble chwaraeon nhw yn erbyn Panathinaikos a Fiorentina. 

Eleni, bydd y Seintiau yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn KF Shkëndija, clwb sydd wedi ennill pencampwriaeth Macedonia am y pumed tro y tymor diwethaf. 

Er eu llwyddiant domestig, dyw Shkëndija erioed wedi llwyddo i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol yng nghystadlaethau Ewrop. 

Dyma’r eildro i’r Seintiau gael eu dethol i wynebu Shkëndija yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, ac roedd hi’n ornest agos iawn y tro diwethaf yn 2018. 

Enillodd Shkëndija’n gyfforddus o 5-0 yn y cymal cyntaf yn Skopje, ond fe frwydrodd y Seintiau’n ôl yn yr ail gymal yng Nghroesoswallt gyda’r gêm yn gorffen yn 4-0, a pencampwyr Macedonia yn crafu eu ffordd i’r rownd nesaf yn y pen draw gan ennill 5-4 dros y ddau gymal. 

Pum mlynedd yn ddiweddarach ac roedd Shkëndija yn wynebu Hwlffordd yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres UEFA, ac fe lwyddodd Adar Gleision Sir Benfro i guro’r Macedoniaid ar giciau o’r smotyn yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddechrau tymor 2023/24. 

Mae’r Seintiau’n sicr o chwarae dwy rownd yn Ewrop eto eleni, a bydd y clwb yn benderfynol o ail-adrodd eu campau diweddar a chyrraedd Cyngres UEFA unwaith yn rhagor. 

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ym mhrif ddinas Macedonia yn y Toše Proeski Arena ar nos Fawrth, 15 Gorffennaf, sef y stadiwm cenedlaethol ble gafodd Cymru gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Gogledd Macedonia ym mis Mawrth 2025. 

Bydd enillwyr y rownd hon yn wynebu FCSB (Rwmania) neu Inter Club d’Escaldes (Andorra) yn yr ail rownd ragbrofol, tra bydd y collwyr yn syrthio i Gyngres UEFA i herio FC Drita (Kosovo) neu FC Differdange (Lwcsembwrg). 

 

Record YSN yn Ewrop: 

Rowndiau: 50 (ennill 12, colli 38) / Gemau: 92 (ennill 20, cyfartal 15, colli 57) 

Tro diwethaf: (2024/25) YSN yn llwyddo i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol am y tro cyntaf erioed gan gystadlu yn rownd y gynghrair Cyngres UEFA. 

 

 Floriana (Malta) v Hwlffordd | Nos Fawrth, 8 Gorffennaf – 18:30 (Yn fyw arlein) 

(MFA Centenary Stadium, Malta – Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres UEFA 2025/26) 

Mae Hwlffordd wedi cyrraedd Ewrop am y trydydd tro yn eu hanes ar ôl curo Caernarfon o 3-1 yn rownd derfynol gemau ail gyfle 2024/25. 

Roedd Hwlffordd wedi gorffen y tymor arferol yn eu safle uchaf ers 21 o flynyddoedd drwy hawlio’r trydydd safle gyda record amddiffynnol orau’r gynghrair. 

Dyma’r eildro o fewn tair blynedd i Hwlffordd ennill y gemau ail gyfle ac aeth tîm Tony Pennock ymlaen i drechu Shkëndija (Macedonia) ar giciau o’r smotyn yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn 2023 cyn colli wedi amser ychwanegol yn erbyn B36 Torshavn (Ynysoedd Ffaroe) yn yr ail rownd ragbrofol. 

Cyn 2023 doedd Hwlffordd m’ond wedi chwarae un rownd Ewropeaidd ac hynny yn haf 2004 gan golli’r ddau gymal yn erbyn Fimleikafélag Hafnarfjarðar (Gwlad yr Iâ). 

Eleni bydd Hwlffordd yn herio un o glybiau mwyaf llwyddiannus holl hanes Malta, sef Floriana, sydd wedi ennill y bencampwriaeth ar 26 achlysur. 

Enillodd Floriana o 4-3 dros ddau gymal yn erbyn Aberystwyth yng Nghwpan Intertoto 1999, ond ers hynny dyw’r clwb m’ond wedi ennill dwy o’u 11 rownd yn Ewrop. 

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ym Mharc y Scarets, Llanelli ar nos Iau, 17 Gorffennaf gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu Ballkani (Kosovo) yn ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA. 

Record Hwlffordd yn Ewrop: 

Rowndiau: 3 (ennill 1, colli 2) / Gemau: 6 (ennill 1, cyfartal 1, colli 4) 

Tro diwethaf: (2023/24) Curo Shkëndija ar g.o.s (1-1 dros ddau gymal) cyn colli yn erbyn B36 Torshavn (2-3 dros ddau gymal). 

 

Kauno Žalgiris (Lithwania) v Pen-y-bont | Dydd Iau, 10 Gorffennaf – 17:00 (Yn fyw arlein) 

(Stadiwm Jonava, Lithwania – Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres UEFA 2025/26) 

Ar ôl gorffen yn yr ail safle llynedd, sef eu safle uchaf erioed yn y Cymru Premier JD mae Pen-y-bont yn paratoi am antur arall yn Ewrop. 

Dim ond unwaith yn y gorffennol y mae Pen-y-bont wedi chwarae’n Ewrop, ac hynny yn haf 2023 ar ôl gorffen yn 3ydd yn y tabl. 

Chwaraeodd Pen-y-bont eu gêm Ewropeaidd gyntaf erioed yn erbyn Santa Coloma o Andorra ar Gae Bragdy gan gael gêm gyfartal (1-1) cyn colli wedi amser ychwanegol wythnos yn ddiweddarach yn yr ail gymal. 

Eleni bydd tîm Rhys Griffiths yn dechrau eu hymgyrch oddi cartref yn erbyn y tîm sydd ar frig cynghrair Lithwania, Kauno Žalgiris. 

Dyw’r clwb o ddinas Kaunas, sef ail ddinas fwyaf Lithwania, erioed wedi ennill y bencampwriaeth yn y gorffennol, ond wedi dangos cysondeb trwy orffen yn y pedwar uchaf ym mhob un o’r chwe tymor diwethaf. 

Dyw Kauno Žalgiris heb brofi fawr o lwyddiant ar y llwyfan Ewropeaidd ac fe gollon nhw o 10-1 dros ddau gymal yn erbyn Y Seintiau Newydd bedair blynedd yn ôl. 

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Stadiwm Lecwydd, Caerdydd ar nos Iau, 17 Gorffennaf gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu Valur (Gwlad yr Ia) neu Flora Tallinn (Estonia) yn ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA. 

 

Record yn Ewrop: 

Rowndiau: 1 (ennill 0, colli 1) / Gemau: 2 (cyfartal 1, colli 1) 

Tro diwethaf: (2023/24) Colli wedi amser ychwanegol yn erbyn Santa Coloma (1-3 dros ddau gymal).

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?