S4C

Navigation

Ar ôl colli 1-0 yn erbyn Petrocub Hîncești yng nghymal cyntaf trydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa nos Fawrth diwethaf mae’r Seintiau angen buddugoliaeth yn y cymal cartref os am drechu pencampwyr Moldofa. 

Y Seintiau Newydd (0) v (1) Petrocub Hîncești | Nos Fawrth, 13 Awst – 18:30 

(Neuadd y Parc, Croesoswallt – Ail Gymal Trydedd Rownd Ragbrofol Cynghrair Europa 2024/25) 

Roedd hi’n gêm agos ym Moldofa yr wythnos diwethaf a bydd y Seintiau’n siomedig o fod wedi ildio gôl flêr yn yr hanner cyntaf, gydag ergyd Donalio Douanla o bellter yn gwyro’n greulon oddi ar Jack Bodenham i gefn y rhwyd. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi cyrraedd trydedd rownd ragbrofol Ewrop am y pumed tro yn eu hanes, ac mae’r clwb yn anelu i gyrraedd un o brif gystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf erioed. 

Pe bae’r Seintiau’n ennill y rownd hon yn erbyn pencampwyr Moldofa, yna byddai’r clwb o Groesoswallt yn sicr o gyrraedd unai prif gystadleuaeth Cynghrair Europa, neu Cyngres UEFA. 

Curo Petrocub, a byddai’r Seintiau yn cyrraedd gêm ail gyfle Cynghrair Europa ble bydd y tîm buddugol yn camu i brif gystadleuaeth Cynghrair Europa, a’r tîm sy’n colli yn camu i brif gystadleuaeth Cyngres UEFA. 

Ond os bydd y Seintiau’n colli’r rownd hon yn erbyn Petrocub, yna byddai’n rhaid ennill eu rownd nesaf yng ngemau ail gyfle Cyngres UEFA er mwyn cyrraedd y brif gystadleuaeth honno. 

Cafodd Petrocub Hîncești eu coroni’n bencampwyr SuperLiga Moldofa am y tro cyntaf yn eu hanes yn 2023/24, gan ddod a rhediad Sheriff Tiraspol o wyth pencampwriaeth yn olynol i ben. 

Mae’r tîm yn llawn o chwaraewyr rhyngwladol Moldofa, yn cynnwys y capten Vladimir Ambros, sgoriodd yn erbyn Ffrainc mewn gêm ragbrofol yn 2019. 

Mae Petrocub wedi cyrraedd Ewrop ym mhob tymor ers 2018 gan ennill pedair o’u 11 rownd Ewropeaidd hyd yma (36%). 

Eleni, mae pencampwyr newydd Moldofa wedi curo Ordabasy o Kazakhstan yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, cyn colli 2-1 dros ddau gymal yn erbyn APOEL o Cyprus yn y rownd ddiwethaf. 

Ers 1996 mae’r Seintiau Newydd wedi chwarae 83 o gemau yn Ewrop gan ennill 18 o rheiny (22%), ac mewn 42 rownd Ewropeaidd mae’r clwb wedi camu ymlaen ar 10 achlysur (24%). 

Daeth eu rhediad gorau yn nhymor 2010/11 – er ennill dim ond un rownd y tymor hwnnw (yn erbyn Bohemians yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr), cyn colli yn erbyn Anderlecht, fe gafodd y Seintiau chwarae mewn gêm ail gyfle i gyrraedd Cynghrair Europa. 

Ond ar ôl colli 5-2 dros ddau gymal yn erbyn CSKA Sofia mae’r Seintiau’n parhau i freuddwydio am gael cyrraedd rownd y grwpiau. 

Qarabağ FK (Azerbaijan) neu PFC Ludogorets 1945 (Bwlgaria) fydd nesaf i’r Seintiau pe baen nhw’n cyrraedd rownd ragbrofol olaf Cynghrair Europa. 

Pe bai’r Seintiau yn disgyn i Gyngres UEFA byddant yn wynebu naill ai FK Panevėžys (Lithwania) neu Maccabi Tel-Aviv (Israel) yn y rownd ragbrofol olaf. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?