Colli oedd hanes Y Seintiau Newydd nos Iau wrth i ddynion Craig Harrison chwarae eu gêm gyntaf o’u hymgyrch yng Nghyngres UEFA yn erbyn cewri’r Eidal, Fiorentina.
Ar ôl cychwyn addawol gyda hanner cyfle i’r Seintiau yn y munudau cyntaf, roedd patrwm y gêm yn glir. Y Tîm cartref gyda 10 newid o’u tîm yn Serie A dros y penwythnos yn dominyddu’r meddiant am ran helaeth y gêm.
Roedd dihangfa cynnar i’r Seintiau wrth i Ikoné droi’r bêl heibio’r postyn o ganol y cwrt cosbi.
Roedd rhaid i Connor Roberts wneud arbediad campus i’w chwith wrth i ergyd Kouamé i hedfan tuag at y gornel isaf.
Daeth y tîm cartref yn agos cyn yr egwyl wrth i ergyd o ymyl y cwrt cosbi daro’r postyn.
Ar ôl 65 munud o bwysau ar amddiffyn cryf gan Y Seintiau, daeth y gôl i’r tîm cartef wrth i Yacine Adli daro’r bêl gyda’i droed chwith a dim cyfle i Roberts yn y gôl.
Fe rwydodd Fiorentina eto dim ond tair munud yn ddiweddarach wrth i’r bêl lanio yn garedig i Moise Kean mewn lle yn y cwrt bach cyn troi’r bêl i mewn ar yr ail gyfle yn dilyn arbediad gan Roberts.
Daeth Declan McManus i’r cae a fu bron i’r blaenwr sgorio ar ôl 75 munud wrth i Josh Daniels groesi o’r dde ond cafodd McManus ddim cysylltiad ddigon cryf gyda’r bêl i achosi trwbl i’r golwr.
Fe ddylai Kean fod wedi rhwydo ei ail ar ôl 80 munud ond i’r blaenwr roi cic hosan cyn i Roberts arbed yn wych ar y llinell.
Sgôr terfynol: Fiorentina 2-0 Y Seintiau Newydd
Er y siom y golli’r gêm roedd hon yn berfformiad y gall Y Seintiau Newydd fod yn falch iawn ohono.
Bydd Y Seintiau yn wynebu Astana gartef yn eu gêm nesaf o’r ymgyrch.
Yn dilyn y gêm cafodd Sioned Dafydd sgwrs gyda’r rheolwr, Craig Harrison.
Hefyd yn sgwrsio gyda Sioned roedd Sion Bradley.