Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill trydedd bencampwriaeth Cymru Premier JD yn olynol wedi iddyn nhw guro Met Caerdydd ddydd Sadwrn o 4-0.
Roedd Y Seintiau 17 pwynt yn glir ar y copa cyn y gêm ac wedi llwyddo i godi’r tlws ar ôl i Gei Connah faglu yn erbyn Y Bala nos Wener oedd yn golygu fod Y Seintiau yn gallu selio’r bencampwriaeth ddydd Sadwrn.
Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill y trebl domestig ddwywaith yn olynol rhwng 2014-16 dan arweiniad Craig Harrison, ond ennill y ‘quadruple’ am y tro cyntaf yw’r gamp eleni, a cheisio mynd drwy’r tymor cyfan heb golli gêm ddomestig.
Yn rhyfeddol Met Caerdydd yw’r tîm diwethaf i guro cewri Croesoswallt yn y gynghrair, a hynny o 3-2 ar Gampws Cyncoed ym mis Chwefror 2023, sef unig golled y Seintiau yn eu 63 gêm gynghrair ddiwethaf cyn dydd Sadwrn.
Bydd y clybiau’n cyfarfod eto cyn diwedd y mis yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD, cyn wynebu ei gilydd unwaith yn rhagor bythefnos yn ddiweddarach mewn gêm gynghrair.