Mae’r Seintiau Newydd drwodd i drydedd rownd Cyngres Europa ar ôl trechu FK Kauno Zalgiris o 10-1 dros ddau gymal.
Ond roedd ‘na siom i bencampwyr Cymru, wrth i Cei Connah adael y gystadleuol, ar ôl colli 5-6 dros ddau gymal i Prishtina, o Kosovo.
Roedd y Seintiau gyda mantais gadarn yn mynd i’r ail gymal yn dilyn buddugoliaeth o 5-0 yn Lithuania, ac roedden nhw 3-0 ar y blaen ar ôl 25 munud 3-0 yn yr ail gymal, gyda goliau gan Danny Redmond, Louis Robles a Declan McManus.
Sgoriodd Leo Smith ar 69 munud, cyn i Danny Davies ychwanegu pumed pum munud yn ddiweddarach.
Bydd Anthony Limbrick a’i dîm yn herio Viktoria Plzen o’r Weriniaeth Tsiec yn y drydedd rownd, gyda’r gemau i’w chwarae ar 5/12 Awst.