Fe wnaeth y Seintiau Newydd roi crasfa i’r Bala o 6-0 yn Stadiwm Nantporth ym Mangor ddydd Sul, gan godi Cwpan Cymru am y nawfed tro yn eu hanes.
Doedd y Seintiau Newydd heb golli dim un o’u 14 gêm flaenorol yn erbyn Y Bala cyn y gêm, ac roedd dros pedair blynedd wedi pasio ers y tro diwethaf i’r Bala guro cewri Croesoswallt.
Y Seintiau Newydd oedd y ffefrynnau amlwg ar ôl ennill y bencampwriaeth 22 pwynt yn glir o Gei Connah yn yr ail safle.
Wedi cwta ugain munud o chware fe rwydodd y Seintiau Newydd gyntaf – gôl gan Declan McManus yn agor y llifddorau.
Daeth dwy gôl arall ar ddechrau’r ail hanner i Daniel Redmond a Ryan Brobbel wrth i’r Seintiau gynyddu eu mantais i dair gôl.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Bala ar ddiwedd y gêm, gyda Jordan Williams, Adrian Cieślewicz a Brobbel yn sicrhau buddugoliaeth gyfforddus ar ddiwedd tymor llwyddiannus i’r Seintiau.
ERTHYGL GAN S4C NEWYDDION