Roedd hi’n bythefnos anodd i’r Seintiau Newydd a Chaernarfon, gyda’r ddau dîm yn colli’n drwm yn ail rownd ragbrofol Ewrop.
Collodd Y Seintiau Newydd o 7-1 dros y ddau gymal yn erbyn pencampwyr Hwngari, Ferencváros yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr, ac felly mae’r Seintiau’n syrthio i lawr i drydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa.
Er i Gaernarfon ddechrau’n gadarn yn eu dwy gêm yn erbyn cewri Gwlad Pwyl, Legia Warszawa, roedd y Pwyliaid yn rhy gryf yn y pen draw gan ennill 11-0 dros y ddau gymal.
Dim ond y Seintiau sydd ar ôl i chwifio baner Uwch Gynghrair Cymru felly, ac mae’r antur Ewropeaidd yn parhau yn erbyn Petrocub nos Fawrth.
Petrocub Hîncești (Moldofa) v Y Seintiau Newydd | Nos Fawrth, 6 Awst – 18:00 (Yn fyw arlein)
(Stadionul Orășenesc, Bălți – Cymal Cyntaf Trydedd Rownd Ragbrofol Cynghrair Europa 2024/25)
Mae’r Seintiau Newydd wedi cyrraedd trydedd rownd ragbrofol Ewrop am y pumed tro yn eu hanes, ac mae’r clwb yn anelu i gyrraedd un o brif gystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf erioed.
Pe bae’r Seintiau’n ennill y rownd hon yn erbyn pencampwyr Moldofa, yna byddai’r clwb o Groesoswallt yn sicr o gyrraedd unai prif gystadleuaeth Cynghrair Europa, neu Cyngres UEFA.
Curo Petrocub, a byddai’r Seintiau yn cyrraedd gêm ail gyfle Cynghrair Europa ble bydd y tîm buddugol yn camu i brif gystadleuaeth Cynghrair Europa, a’r tîm sy’n colli yn camu i brif gystadleuaeth Cyngres UEFA.
Ond os bydd y Seintiau’n colli’r rownd hon yn erbyn Petrocub, yna byddai’n rhaid ennill eu rownd nesaf yng ngemau ail gyfle Cyngres UEFA er mwyn cyrraedd y brif gystadleuaeth honno.
Cafodd Petrocub Hîncești eu coroni’n bencampwyr SuperLiga Moldofa am y tro cyntaf yn eu hanes yn 2023/24, gan ddod a rhediad Sheriff Tiraspol o wyth pencampwriaeth yn olynol i ben.
Mae’r tîm yn llawn o chwaraewyr rhyngwladol Moldofa, yn cynnwys y capten Vladimir Ambros, sgoriodd yn erbyn Ffrainc mewn gêm ragbrofol yn 2019.
Mae Petrocub wedi cyrraedd Ewrop ym mhob tymor ers 2018 gan ennill pedair o’u 11 rownd Ewropeaidd hyd yma (36%).
Eleni, mae pencampwyr newydd Moldofa wedi curo Ordabasy o Kazakhstan yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, cyn colli 2-1 dros ddau gymal yn erbyn APOEL o Cyprus yn y rownd ddiwethaf.
Ers 1996 mae’r Seintiau Newydd wedi chwarae 82 o gemau yn Ewrop gan ennill 18 o rheiny (22%), ac mewn 42 rownd Ewropeaidd mae’r clwb wedi camu ymlaen ar 10 achlysur (24%).
Daeth eu rhediad gorau yn nhymor 2010/11 – er ennill dim ond un rownd y tymor hwnnw (yn erbyn Bohemians yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr), cyn colli yn erbyn Anderlecht, fe gafodd y Seintiau chwarae mewn gêm ail gyfle i gyrraedd Cynghrair Europa.
Ond ar ôl colli 5-2 dros ddau gymal yn erbyn CSKA Sofia mae’r Seintiau’n parhau i freuddwydio am gael cyrraedd rownd y grwpiau.
Qarabağ FK (Azerbaijan) neu PFC Ludogorets 1945 (Bwlgaria) fydd nesaf i’r Seintiau pe baen nhw’n cyrraedd rownd ragbrofol olaf Cynghrair Europa.
Pe bai’r Seintiau yn disgyn i Gyngres UEFA byddant yn wynebu naill ai FK Panevėžys (Lithwania) neu Maccabi Tel-Aviv FC (Israel) yn y rownd ragbrofol olaf.