S4C

Navigation

Goliau gan Jordan Williams a Declan McManus yn sicrhau bod deiliaid Cwpan Cymru, Y Seintiau Newydd yn cadw eu gafael ar y tlws ac yn ennill y dwbl ddomestig wedi’r fuddugoliaeth dros Pen-y-bont yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Uchafbwyntiau: Pen-y-bont 2-3 Y Seintiau Newydd

O flaen torf o dros 2,400 yn Stadiwm Dinas Caerdydd fe enillodd Y Seintiau Newydd eu 8fed Cwpan Cymru gyda buddugoliaeth dros Pen-y-bont.

Sgoriodd Jordan Williams o fewn yr hanner awr gyntaf, ergyd nerthol o du allan i’r cwrt cosbi yn curo Ashley Morris, golwr Pen-y-bont wrth i’r bêl nythu yn gornel isa’r rhwyd.

Fe sgoriodd Williams ei ail o’r gêm o fewn 90 eiliad o’r gyntaf, Morris yn ceisio dyrnu croesiad Ryan Brobbel ond y bêl yn glanio wrth draed yr ymosodwr i ddyblu mantais Y Seintiau ar yr egwyl.

Fe ildiodd Ashley Morris gic o’r smotyn yn fuan cyn yr awr wrth iddo ruthro o’i linell a llorio blaenwr Y Seintiau, Declan McManus.

Llwyddodd Y Seintiau i sgorio eu trydedd gôl o’r gêm o’r smotyn, prif sgoriwr y Cymru Premier y tymor hwn, Declan McManus yn curo Ashley Morris ar ôl awr o chwarae.

Fe ymdrechodd Pen-y-bont hyd y diwedd, a llwyddodd tîm Rhys Griffiths i ddod nôl i mewn i’r gêm wrth i Shaun MacDonald sgorio gydag ergyd nerthol o du allan i’r cwrt.

Roedd diweddglo dramatig i’r gêm gyda Daniel Jefferies yn penio’r ail i Ben-y-bont gydag eiliadau yn weddill o’r 90.

Er i Ben-y-bont geisio hawlio cic o’r smotyn yn hwyr wrth i Connor Roberts, golwr Y Seintiau geisio ennill y bêl oddi wrth un o ymosodwyr Pen-y-bont – fe ddaeth y chwiban olaf i ryddhad y deiliaid gyda’r Seintiau Newydd yn ennill Cwpan Cymru 2021/22.

O ganlyniad buddugoliaeth Y Seintiau, bydd Y Drenewydd sydd wedi gorffen eu tymor yn y drydydd safle yn yr uwch gynghrair yn hawlio eu lle yn Ewrop

 

 

Pen-y-bont                                                 2            Shaun MacDonald 85′ Daniel Jefferies 90’+1

Y Seintiau Newydd                                     3            Jordan Williams 31′ 32′ Declan McManus 59′(p)

Pen-y-bont

33 Ashley Morris, 3 Kane Owen, 4 Ashley Evans, 5 Daniel Jefferies, 7 Kostya Georgievsky (2 Liam Walsh 68′), 9 Ben Ahmun (17 Keane Watts 56′), 10 Nathan Wood, 11 Kai Whitmore, 14 Samuel Snaith, 16 Billy Borge (20 Ryan Reynolds 46′), 21 Shaun MacDonald

Eilyddion eraill: 1 Rhys Wilson (gk), 22 Tom Tweedy

Cerdyn Melyn:           Whitmore 2′ Snaith 51′

Y Seintiau Newydd

25 Connor Roberts, 3 Chris Marriott, 4 Keston Davies, 5 Ryan Astles, 6 Jonathan Routledge, 8 Ryan Brobbel, 9 Declan McManus (18 Louis Robles 80′), 10 Daniel Redmond (11 Adrian Cieslewicz 80′), 17 Jordan Williams, 21 Leo Smith (19 Ben Clark 68′), 22 Daniel Davies

Eilyddion eraill: 1 Paul Harrison (gk), 27 Jake Canavan

Cerdyn Melyn:           McManus 41′ Redmond 54′ Astles 83′

Torf:                    2417         Dyfarnwr:                Rob Jenkins

 

 

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?