Torcalon i’r Seintiau Newydd wrth iddyn nhw golli ar giciau o’r smotyn oddi cartref yn erbyn Viktoria Plzen yn nhrydedd rownd ragbrofol Cyngres Europa.
Roedd y Seintiau ar y blaen 4-2 yn dilyn y cymal cyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac fe wnaeth gôl gan Louis Robles ar ôl pedwar munud ymestyn eu mantais.
Yn gynnar yn yr ail hanner, fe sgoriodd Pavel Bucha i unioni’r sgôr, ond gyda dim ond pum munud yn weddill, fe ychwanegodd Thomas Chory yr ail, cyn i Jean-David Beauguel daro’r drydedd a gorfodi amser ychwanegol.
Doedd dim modd gwahanu’r timau ac fe aeth y gêm i giciau o’r smotyn.
Methodd Chris Marriott a Leo Smith ddwy gic gyntaf y Seintiau, ond fethodd y tîm cartref ddim un, ac ymhen dim roedd hi’n 4-1 ar y noson, a’r gêm drosodd.