Mae gan Y Seintiau Newydd un droed yng Nghyngres UEFA 2024/25 ar ôl ennill 3-0 oddi cartref yng nghymal cyntaf y rownd ragbrofol olaf yn erbyn pencampwyr Lithwania, Panevėžys.
Y Seintiau Newydd (3) v (0) Panevėžys | Nos Iau, 29 Awst – 18:30
(Neuadd y Parc, Croesoswallt– Ail Gymal Gêm Ail Gyfle Cyngres UEFA 2024/25)
Roedd hi’n noson arbennig i’r Seintiau Newydd draw yn Lithwania nos Iau diwethaf, yn ennill o 3-0 ac yn gosod eu hunain mewn safle gwych i wireddu’r freuddwyd o gyrraedd un o brif gystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf erioed.
Pe bae’r Seintiau’n ennill y rownd hon yn erbyn pencampwyr Lithwania, yna’r clwb o Groesoswallt fyddai’r tîm cyntaf o byramid Cymru i gyrraedd un o brif gystadlaethau Ewrop ers i’r Barri chwarae yn rownd gyntaf Cwpan UEFA yn 1996.
Ac mae’r Seintiau mewn safle delfrydol yn dilyn goliau gan Danny Davies, Dan Williams a Ben Clark yn yr ail hanner draw ym mhrif ddinas Lithwania, Vilnius nos Iau diwethaf.
Pencampwyr presennol Lithwania, Panevėžys yw’r unig rai sy’n sefyll rhwng y Seintiau ac uchelfannau Cyngres UEFA, a chaiff carfan Craig Harrison ddim cyfle gwell i osod eu henwau yn y llyfrau hanes.
Er i Panevėžys gael eu coroni’n bencampwyr Lithwania am y tro cyntaf erioed ar ddiwedd A Lyga 2023, mae’r canlyniadau wedi dirywio’n sylweddol ers hynny, a bellach mae’r tîm ar waelod eu cynghrair ar ôl 25 gêm o’r tymor newydd.
Dyw’r tîm m’ond wedi ennill un o’u 13 gêm ddiwethaf, ac mae nhw’n wynebu’r posibiliad realistig o syrthio i’r ail haen yn Lithwania.
Mae Panevėžys yn glwb newydd gafodd ei ffurfio lai na degawd yn ôl yn 2015, ac ar ôl esgyn i’r uwch gynghrair yn 2019 mae’r clwb wedi chwarae’n gyson yn Ewrop ers 2021 (8 rownd yn Ewrop, ennill 2).
Mae sawl enw profiadol ymysg y garfan, yn cynnwys Kaspars Dubra (62 cap, 3 gôl i Latfia) a cyn-chwaraewr Ajax a Real Sociedad, Jeffrey Sarpong.
Enillodd Panevėžys o 4-1 dros ddau gymal yn erbyn HJK Helsinki y tymor hwn, cyn colli’n drwm yn erbyn Jagiellonia Białystok, a Maccabi Tel Aviv.
Ers 1996 mae’r Seintiau Newydd wedi chwarae 85 o gemau yn Ewrop gan ennill 19 o rheiny (22%), ac mewn 43 rownd Ewropeaidd mae’r clwb wedi camu ymlaen ar 10 achlysur (23%).
Daeth eu rhediad gorau yn nhymor 2010/11 – er ennill dim ond un rownd y tymor hwnnw (yn erbyn Bohemians yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr), cyn colli yn erbyn Anderlecht, fe gafodd y Seintiau chwarae mewn gêm ail gyfle i gyrraedd Cynghrair Europa.
Ond ar ôl colli 5-2 dros ddau gymal yn erbyn CSKA Sofia mae’r Seintiau’n parhau i freuddwydio am gael cyrraedd y brif gystadleuaeth am y tro cyntaf erioed.