S4C

Navigation

Bydd Y Drenewydd yn cynrychioli’r Cymru Premier yng Nghyngres Europa y tymor nesaf ar ôl ennill y gemau ail gyfle.

Llwyddodd tîm Chris Huhes i guro Caernarfon 3-5 ar yr Oval mewn gêm hynod ddramatig.

Er i Gaernarfon fynd ar y blaen ar ôl 16 munud drwy Jack Kenny, llwyddodd Nick Rushton a Lifumpa Mwandwe sgorio i’r ymwelwyr i sicrhau fod Y Drenewydd ar y blaen ar yr egwyl.

Sgoriodd Darren Thomas ddwywaith wrth i Gaernarfon fynd ar y blaen eto, ond i’r eilydd James Davies rwydo ddwywaith a chyn ymosodwr Caernarfon, Jamie Breese sgorio’r bumed i’r Robiniaid.

Fe fydd Y Drenewydd yn ymuno â Chei Connah, Y Seintiau Newydd a’r Bala yn cynrychioli’r Cymru Premier yn Ewrop y tymor nesaf.

Bydd yr enwau yn cael eu tynnu allan o’r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cyngres Europa ar y 15fed o Fehefin.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?